Pigs

Wrth i gynhyrchwyr moch wynebu cynnydd mewn prisiau porthiant a chostau tanwydd, mae Menter Moch Cymru wedi cynyddu’r gefnogaeth i gynhyrchwyr moch yng Nghymru er mwyn eu cynorthwyo i frwydro yn erbyn yr amodau heriol sy’n rhoi pwysau cynyddol ar eu helw.

Ledled y DU mae ceidwaid moch yn gadael y sector oherwydd yr amodau heriol. Mae hyn hefyd i'w weld yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer o geidwaid moch a manwerthwyr Cymreig hefyd yn dal i adrodd bod y farchnad fywiog ar gyfer cynnyrch lleol yn eu cadw i fynd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â'r galw am eu cynnyrch.

Mae hyn yn gysur yn wyneb y cynnydd mewn costau cynhyrchu, fodd bynnag, mae Menter Moch Cymru yn annog busnesau i adolygu eu cynhyrchiad a gwneud newidiadau cost-effeithiol i leihau costau mewnbwn.

Nod yr erthygl dechnegol ddiweddaraf a gynhyrchwyd gan y prosiect yw helpu cynhyrchwyr i wneud hyn. Mae'n cynnwys ffyrdd ymarferol o leihau costau cynhyrchu heb aberthu perfformiad.

Yn ogystal, mae cyfres arbennig o weminarau dwy ran yn rhad ac am ddim ar gyfer cynhyrchwyr moch yng Nghymru yn cychwyn ar 28ain o Ebrill gyda Rheolwr Uned Da Byw Prifysgol Harper Adams, Richard Hooper a fydd yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o leihau costau cynhyrchu wrth gynnal neu wella cynhyrchiant a darparu awgrymiadau ymarferol ar gyfer ceidwaid moch ar sut i reoli costau ar ffermydd.

Cynhelir rhan dau ar y 26ain o Fai gyda Caroline Dawson a fydd yn trafod ffyrdd o ychwanegu gwerth at eich cynhyrchion porc trwy edrych ar sianeli gwerthu uniongyrchol, pwysigrwydd adrodd stori dda, tueddiadau diwydiant a defnyddwyr, ychwanegu gwerth trwy arloesi cynnyrch a straeon llwyddiant. Gallwch gofrestru ar gyfer y gweminarau ar wefan Menter Moch Cymru.

I’r rhai na allant fynychu’r gweminarau, bydd y recordiad ar gael yn fuan ar ôl y digwyddiadau ar Hwb Adnoddau ar-lein Menter Moch Cymru. Mae'r erthygl dechnegol ddiweddaraf yma ar gael nawr ar wefan Menter Moch Cymru.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lauren Smith, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru ar gyfer De Cymru: “Gyda’r costau mewnbwn yn uchel iawn, mae’n bwysig bod cynhyrchwyr yn cymryd rheolaeth o’r sefyllfa ac yn mabwysiadu agwedd ragweithiol; er mwyn cynnal maint eu helw a'u lles eu hunain.

“Rydym wedi creu’r canllawiau newydd ac wedi trefnu’r gweminarau hyn i helpu ceidwaid moch ar yr amser arbennig o anodd hwn. Mae’r ffocws ar gyngor defnyddiol ac ymarferol i leihau costau sydd o fewn rheolaeth ffermwyr heb aberthu perfformiad.”

Mae llawer o feysydd cynhyrchu, lle gellid gwneud arbedion effeithiol ac arbed costau. Byddwn yn edrych ar reolaeth effeithiol o borthiant gan gynnwys ffyrdd o wella effeithlonrwydd porthiant, dulliau rheoli buchesi ar gyfer y cynhyrchiant gorau posibl (porchella a phesgi), newidiadau ymarferol i adeiladau moch, iechyd moch a phrosesau ar y fferm i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o lafur.

Mae prosiect Menter Moch Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymorth, grantiau a hyfforddiant am ddim i geidwaid moch yng Nghymru. Gyda’r prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr, mae busnesau’n cael eu hannog i wneud defnydd llawn o’r cymorth sydd ar gael cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentermochcymru.co.uk