Pembroke Food Hub Launch Day

Mae Menter Dosbarthu Bwyd yng Nghymunedau Cymru dan arweiniad PLANED, yn hynod falch o lansio ei hwb bwyd cyntaf. Mae’r prosiect yn galluogi gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn cael mynediad hawdd at fwyd iach am bris da.

Hwn yw’r cyntaf i agor, gyda Dinbych-y-pysgod yn agor ar 1 Gorffennaf, a nifer mwy wrth i ni barhau i ddatblygu hybiau ledled rhanbarth de-orllewin Cymru.

Mae hwb Bwyd Penfro yn y Tŷ Foundry wedi agor yn swyddogol! Mae Laura o’r tîm yn dweud; ‘roedd y lansiad yn anhygoel, gyda nifer o bobl yn gwneud archebion, llawer o ddiddordeb a hyd yn oed sgwrs ar y sioe fyw ar Pure West Radio. Hoffem ddiolch i wirfoddolwyr yr hwb a’r Maer, y Cynghorydd Dennis Evans, am lansio’r hwb, ac i bawb a ymunodd â ni’.

Mae’r gwirfoddolwyr yno i’ch cwrdd bob dydd Mercher rhwng 3.30pm a 4.30pm gyda chasgliad o ffrwythau a llysiau ffres ac opsiynau salad wedi’u tyfu’n lleol ar y gweill cyn bo hir. Dewch draw i ddysgu mwy, i ofyn cwestiynau ynghylch gwirfoddoli neu i gymryd cipolwg ar y lleoliad cymunedol gwerthfawr hwn.
 Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, ewch i: www.communityfood.wales/cy neu e-bostiwch WCFD@PLANED.org.uk.

Dan arweiniad PLANED, ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth, mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru.