A Hill Ram scheme flock

Mae Cymru ar y blaen, yn fyd-eang, o ran datblygu gwerthoedd bridio genomig yn y sector defaid mynydd. 

Trwy ddefnyddio defaid Cymreig i greu cronfa ddata DNA fawr ac unigryw, cafodd yr wybodaeth ei chasglu yn ystod y Cynllun Hyrddod Mynydd – prosiect pum mlynedd yn cael ei ddarparu gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae genomeg defaid yn chwarae rhan bwysig wrth ddewis da byw ar gyfer paru sydd â'r eneteg orau ar gyfer amcanion bridio penodol, megis hirhoedledd y mamogiaid, rhinweddau mamol, pwysau'r ŵyn ac ansawdd y cig.

Wedi’i hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’r UE, cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb a oedd yn datgelu bod cysylltiadau genetig rhwng diadelloedd yn dangos rhinweddau genetig sydd yn berthynol i’r boblogaeth ehangach o ddefaid a gofnodwyd. Mae hyn yn cynnig mwy o gywirdeb a hyder i fridwyr mewn geneteg

Defnyddir Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) genomig yn yr un modd â gwerthoedd bridio nad ydynt yn werthoedd genomig ac maent yn cyfrannu at y Mynegrif Bridio a ddatblygwyd ar gyfer defaid mynydd ac a ddefnyddir i brynu a gwerthu da byw.

Dywedodd John Richards, Arweinydd Darpariaeth i Gynhyrchwyr a Phroseswyr yn Hybu Cig Cymru: "Mae’r defnydd o werthoedd bridio genomig wedi’i hen sefydlu yn y sector llaeth ac mae'n datblygu’n gyflym yn y diwydiant cig eidion. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn wir am y sector defaid yn y DG. 

"Rydym wrth ein bodd yn arwain y prosiect arloesol hwn yn y sector defaid, yma yng Nghymru. Mae’r cynllun Hyrddod Mynydd eisoes wedi archwilio i ddichonoldeb datblygu gwerthoedd bridio genomig mewn defaid mynydd a fydd yn cefnogi ein blaenoriaethau allweddol o ffermio mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol."

Un ffordd y bydd ffermwyr yn ceisio gwella gwerthusiadau bridio fydd symud i ffwrdd o ragdybio'r genynnau y credir eu bod yn cael eu hetifeddu gan anifail a defnyddio gwybodaeth genomig i rannu'r genynnau sydd gan yr anifail mewn gwirionedd.  

Ychwanegodd John Richards: "Fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd, cymerodd 50 o ffermwyr ran yn y prosiect dichonoldeb gan gymryd samplau meinwe o ŵyn, mamogiaid a hyrddod er mwyn cael dilyniannau DNA (genoteipiau) i benderfynu ynghylch rhieni'r ŵyn. 

“Er bod y genoteipiau hyn yn caniatáu gwirio rhieni ac yn dangos genynnau unigol a allai gael effaith fawr ar berfformiad, gellir eu defnyddio hefyd ar gyfer gwerthusiadau bridio o amgylch miloedd o amrywiadau genetig bach o linynnau DNA sydd, o’u cyfuno, yn cyfrannu at rinweddau genetig cyffredinol yr anifail.”

Ar gyfer anifeiliaid bridio, mae cofnodion hiliogaeth yn datblygu dros amser a bydd elfen genomig y gwerthoedd bridio yn lleihau'n raddol. Wrth i werthoedd cywirdeb wella, bydd amcangyfrifon y rhinweddau genetig yn dod yn nes at wir werth bridio'r defaid gan alluogi penderfyniadau ynghylch bridio i gael eu gwneud yn fwy hyderus. 

Gall gwybodaeth genomig ddarparu cyfoeth o wybodaeth, ond mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer nodweddion sy’n cymryd amser hir i’w hasesu, megis hirhoedledd mamogiaid, nodweddion a fynegir drwy'r anifeiliaid benyw a nodweddion sy’n ddrud iawn i’w cofnodi, megis ansawdd y cig.

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd HCC wedi bod yn fenter dros gyfnod o bum mlynedd i alluogi ffermwyr a bridwyr defaid mynydd i gael mynediad at wybodaeth enetig trwy’r dechnoleg cofnodi DNA ddiweddaraf. Drwy wneud hyn, bu modd cofnodi perfformiad heb amharu ar eu systemau rheoli mynydd drwy ganfod y rhieni wrth gyfateb DNA yr hwrdd, y famog a’r ŵyn. 

Yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch ehangach a ariennir drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’r UE, nod sylfaenol y prosiect fu annog ffermwyr a bridwyr defaid mynydd i ddefnyddio data a geneteg  i wneud penderfyniadau gwybodus am eu diadelloedd. Ei nod oedd creu màs critigol o ddiadelloedd mynydd yng Nghymru y cofnodwyd eu perfformiad, fel bod gwelliant yn treiddio i lawr drwy sector defaid Cymru. 

“Edrychwn ymlaen yn awr at weld sut mae’r hyn a gyflawnwyd yn parhau ac yn ysbrydoli’r sector defaid ehangach yma yng Nghymru ymhellach.”