Stoc+ Conference Speakers

Dyfodol cynllunio iechyd anifeiliaid a’i fanteision i filfeddygon, ffermwyr a’r amgylchedd oedd prif bwnc y gynhadledd iechyd anifeiliaid a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llandrindod gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Roedd y gynhadledd, a fynychwyd gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru a'i Ddirprwy, yn ogystal â milfeddygon a chynrychiolwyr y diwydiant amaeth, yn trafod llwyddiannau prosiect Stoc+ HCC sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r UE.

Mae Stoc+ wedi ceisio asesu a hybu cynhyrchiant da byw trwy gynllunio iechyd anifeiliaid yn well. 

Wrth annerch y Gynhadledd, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins: “Mae Stoc+ wedi bod yn brosiect llwyddiannus rhwng ffermwyr a milfeddygon ar sawl lefel. Mae Llywodraeth Cymru wrth ei bodd fod HCC wedi gallu ymgysylltu â 360 o ffermydd yn ystod pum mlynedd y prosiect. Mae hyn yn rhoi sylfeini tystiolaeth i’r diwydiant fel y gallwn symud ymlaen a chynllunio strategaethau iechyd anifeiliaid i Gymru ar gyfer y dyfodol.

“Bu Stoc+ yn treialu cynllunio iechyd anifeiliaid ar ffermydd defaid a chig eidion yng Nghymru, a all fod o fudd i ffermwyr, milfeddygon a’r gymdeithas ehangach drwy gynyddu proffidioldeb, cynhyrchu bwyd mwy diogel a rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr mewn cynnyrch Cymreig.  Hefyd, gall olygu  defnyddio llai o wrthfiotigau; creu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr a dwyn llawer o fanteision cymdeithasol, gan gynnwys diogelu llesiant y ffermwyr a'r milfeddygon eu hunain.”

Roedd nifer o brosiectau ymchwil yn rhan o Stoc+ yn ystod ei gyfnod – gan gynnwys prosiect Cloffni Defaid, ymchwil i ffrwythlondeb defaid a dadansoddiad cost a budd.

Dangosodd ymchwil a wnaed tua diwedd y prosiect fod 93% o filfeddygon Stoc+ wedi cyflwyno a chynyddu cyfryngau rheoli iechyd i ffermwyr ar eu  ffermydd o ganlyniad i Stoc+ a bod 82% o’r milfeddygon a gymerodd ran yn y cynllun yn teimlo’n hyderus yn rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch iechyd anifeiliaid i ffermwyr yng Nghymru.

Dywedodd John Richards, Arweinydd Darpariaeth i Gynhyrchwyr a Phroseswyr, a gafodd y dasg o fod yn bennaeth ar Stoc+ ar ran HCC: “Rydym wedi gweithio'n wych fel tîm wrth gyflawni’r prosiect a gwelwyd awydd gwirioneddol i filfeddygon weithio’n agosach gyda ffermwyr i wella iechyd a lles da byw. Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud y prosiect yn llwyddiant.

“Wrth i ni ddod at ran olaf y prosiect, dywedodd 100% o’r milfeddygon a holwyd eu bod yn credu y byddan nhw’n parhau i weithio’n rhagweithiol gyda’u ffermwyr, fel canlyniad i Stoc+.  Dylai hynny fod yn destun llawenydd i’r diwydiant,” meddai John Richards

Mae Stoc+ HCC yn tynnu at ddiwedd ei gyfnod o bum mlynedd fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch. Caiff ei ariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig  – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.