Kathleen Dawson staff member

Mae planhigfa sy’n arbenigo mewn tyfu rhywogaethau newydd ac anarferol yn cymhwyso’r ethos o feithrin i’w gweithlu hefyd drwy ddefnyddio cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio a digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth i lenwi bylchau sgiliau a helpu ei staff ddatblygu.

Mae Seiont, sydd wedi’i leoli yng nghanol cefn gwlad ar gyrion Caernarfon yn lluosogi ac yn tyfu cannoedd o fathau o lwyni a phlanhigion lluosflwydd, gan gynnwys casgliad mawr o redyn, gan ddefnyddio toriadau o’i fam stoc ei hun ac o feithrin meinwe a fewnforiwyd o labordai ar draws y byd.

Arweinir y tîm o 13 gan Neil Alcock, y rheolwr gyfarwyddwr.

Mae'n gwerthfawrogi gwerth sgiliau a chyfleoedd hyfforddiant ar ôl ymuno â'r busnes teuluol fel hyfforddai ym 1987.

Mae cael tîm galluog sydd wedi'i hyfforddi'n dda yn bwysig i unrhyw fusnes, meddai Neil.

“Rydym wedi cofrestru’r staff ar sawl cwrs hyfforddiant a gynhelir gan Cyswllt Ffermio, o sut i weithredu tryc fforch godi yn ddiogel, cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch i reoli pla llygod a thrin a thrafod pwysau. Mae pob un yn bwysig mewn busnes fel ein busnes ni,'' meddai.

“Mae garddwriaeth yn ddiwydiant sy'n rhedeg ar derfynau tynn iawn, felly, mae cael help llaw gyda chyrsiau wedi'u hariannu wir yn gwneud gwahaniaeth.''

Mae pob cwrs hyfforddiant sy’n cael eu cynnig gan Cyswllt Ffermio yn cael eu hariannu hyd at 80% ar gyfer unigolion cofrestredig.

Mae digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth a gynhelir gan Cyswllt Ffermio hefyd wedi helpu’r tîm i adeiladu ar eu harbenigedd.

Ar ôl ymweliad safle â phlanhigfa yn Henffordd y llynedd, daeth y tîm yn ôl “yn llawn syniadau”, meddai Neil.

Mae Seiont hefyd wedi bod yn cynnal digwyddiadau Cyswllt Ffermio, pan arweiniodd yr arbenigwyr garddwriaeth David Talbot a Chris Creed y drafodaeth ar ddulliau rheoli biolegol a thyfu di-fawn yr hydref diwethaf.

“Rydym wedi bod yn arwain y ffordd ar dyfu di-fawn ond bydd angen i ni fynd â hyn ymhellach wrth i Gymru symud oddi wrth fawn yn gyfan gwbl, felly, mae’n bwysig i ni glywed y syniadau diweddaraf am hyn,’’ meddai Neil.

Denodd y digwyddiad dyfwyr o bob rhan o Gymru, ychwanega. “Mae’r staff wrth eu bodd pan rydym ni’n cynnal diwrnodau agored, maent yn caniatáu iddynt ryngweithio ag eraill yn y diwydiant.

“Gall unrhyw fusnes ddod yn ynysig ac yn gul ein meddyliau os nad yw pobl yn mynd allan i weld a chlywed yr hyn y mae eraill yn ei wneud ac yn ei ddweud.

“Er ein bod yn fusnes gwahanol iawn i'r planhigfeydd llai sy'n gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd, mae sawl peth sy'n effeithio arnom ni i gyd, megis deddfwriaeth ar gynhyrchion diogelu planhigion.''

Mae Seiont yn gweithredu ar safle 25 erw ac mae tŷ gwydr lluosogi 3,500m² wrth wraidd y gwaith.

Mae'n gwerthu tua hanner miliwn o blygiau'n flynyddol, ac yn tyfu eraill mewn twneli polythen mewn potiau 9cm i gyflenwi cyfanwerthwyr sy'n gwerthu i'r fasnach manwerthu.

Bob blwyddyn mae mathau newydd yn cael eu cyflwyno – yn fwy diweddar cyflwynwyd Dryopteris Jurassic Gold, rhedyn gyda dail aur a ddeilliodd o dyfwr yn Dorset.

“Fe wnaethom anfon yr hadau i labordy meithrin meinwe a chynhyrchodd y rheini blanhigion bach, fe wnaethom greu 20,000 o unedau o'r rheini,'' eglura Neil.

Math newydd arall yw peithwellt, Tiny Pampa, sy'n tyfu i 60cm.

Mae portffolio cwsmeriaid Seiont yn amrywio o fanwerthwyr llai sy'n tyfu planhigion ifanc eu hunain, i orffenwyr planhigion mwyaf sy'n cyflenwi canolfannau garddio a siopau DIY, yn ogystal â manwerthwyr ar-lein arbenigol mawr y wlad.

Mae cyflwyno mathau newydd i'r farchnad yn rhoi ymdeimlad enfawr o gyflawniad i Neil a'i dîm.

“Mae yna rywbeth bodlon iawn am fynd i mewn i siop manwerthu a gweld un o'n planhigion newydd ar werth, planhigion sy'n deillio o doriad neu hedyn'' meddai.