Ewe from Rhiwgriafol flock

Gall ffermwyr defaid yng Nghymru ddysgu am strategaethau maeth ar gyfer eu diadelloedd trwy gydol y flwyddyn gynhyrchu mewn gweithdy newydd wedi’i Achredu gan Lantra sydd wedi’i ychwanegu at raglen hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

Bydd paru diet â gofynion maeth mamogiaid ac ŵyn ar adegau hollbwysig o’r flwyddyn yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd a chynhyrchiant, meddai Becky Summons, Rheolwr E-ddysgu Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

Gan gadw hyn mewn cof, mae Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno modiwl hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd, Bwydo’r Ddiadell er mwyn cael y Perfformiad Gorau, a fydd yn cael ei ddarparu gan filfeddygon lleol cymeradwy ledled Cymru.

“Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdai’n gweithio trwy ofynion maeth y ddiadell, gan ganolbwyntio ar yr adegau tyngedfennol yn ystod y flwyddyn,” meddai Ms Summons.

Bydd themâu cynllunio iechyd, defnydd cyfrifol o wrthfiotigau a thriniaethau lladd llyngyr, a manteision amgylcheddol gwella cynhyrchiant, yn cael eu hintegreiddio drwy’r cwrs cyfan, ychwanegodd.

Bydd y rhai sy’n mynychu’r cwrs yn dod i ddeall yr egwyddorion sylfaenol o sut i fesur ac asesu sgôr cyflwr corff (BCS) mewn defaid ar raddfa pum pwynt a sut i nodi’r pwyntiau hollbwysig yn y cylch cynhyrchu pan allai maeth anghywir a sgôr cyflwr corff gael effaith andwyol ar effeithlonrwydd a chynhyrchu.

Mae canlyniadau dysgu eraill yn cynnwys deall sut mae penderfyniadau a wneir am faeth yn effeithio ar gynhyrchiant y ddiadell, a sut y dylid gwneud y penderfyniadau hynny fesul fferm ac yn seiliedig ar sgôr cyflwr y ddiadell a’r bwyd sydd ar gael.

Bydd y rhai sy'n mynychu hefyd yn dod i werthfawrogi rôl cynllunio iechyd o ran profi clefydau metabolaidd ac ychwanegu elfennau hybrin a dealltwriaeth o fudd amgylcheddol rheoli maetholion da.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu’n llawn ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).

Bydd presenoldeb pawb yn y gweithdy’n cael ei gofnodi ar ‘Gofnod DPP ’ Storfa Sgiliau’r rhai sy’n bresennol ynghyd â ‘thystysgrif presenoldeb’ Gwobrau Lantra .

Cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy i gael rhagor o wybodaeth.