Countryside

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog ac Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

Mae ffermio - ac amaethyddiaeth yn ehangach - yn chwarae rhan bwysig ym mywyd Cymru. Mae'n rhan o'n heconomi, ein hunaniaeth a'n diwylliant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru. Rydym am gadw ffermwyr Cymru yn ffermio, wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur gyda’n gilydd.

Mae'r sector yn wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a chostau ynni cyson uchel, ansefydlogrwydd byd-eang, costau mewnbwn uchel a phrisiau cyfnewidiol wrth gât y fferm ynghyd â newid sylweddol yn y diwydiant.

Rydym yn parhau i wrando’n ofalus ar bryderon ffermwyr a’u hundebau, gan gynnwys y rheini am rai o bolisïau Llywodraeth Cymru. Gallwn gadarnhau heddiw ein bod yn cymryd y camau canlynol i helpu’r sector. 

TB Gwartheg a difa gwartheg ar y fferm

Rydym yn cydnabod yr effaith ddifäol y gall TB ei chael ar deulu a busnes ffermio. Gall difa gwartheg ar y fferm fod yn brofiad enbydus i bawb sy’n dyst iddo gan gael effaith niweidiol ar les ac iechyd meddwl y ffermwr a gweithwyr y fferm. 

Rydym yn ymrwymo i ymchwilio i drywyddau eraill yn lle difa gwartheg ar y fferm. Rydym yn penodi heddiw Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol ym mis Tachwedd. Ei flaenoriaeth cyntaf fydd edrych ar y polisi difa ar y fferm a rhoi cyngor i Weinidogion, fel mater o frys. Bydd y grŵp yn ystyried yr holl dystiolaeth a’r dogfennau sy’n ymwneud â’r mater, gan gynnwys barn grŵp ffocws TB NFU Cymru a gyfarfu fis diwethaf i drafod difa ar y fferm. 

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)

Ffermwyr yw ceidwaid y tir ac maen nhw yr un benderfynol â ni i’w amddiffyn. Rhaid wrth reoliadau i ddiogelu’r amgylchedd rhag arferion drwg sy’n achosi niwed aruthrol i enw da’r sector. 

Cafodd y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) eu cyflwyno ym mis Ebrill 2021 i fynd ati ar lefel Cymru gyfan i leihau’r risg o lygru dŵr gan weithgareddau amaethyddol. Mae’r Rheoliadau wedi bod yn cael eu rhoi ar waith dros gyfnod o bedair blynedd a daw’r set derfynol o fesurau, sy’n ymwneud â gofynion storio, i rym yn ddiweddarach eleni. Cafodd y cynllun Rheoli Maethynnau’n Well ei gyflwyno ar gyfer blwyddyn galendr 2024 i roi mwy o amser i fusnesau fferm gydymffurfio â’r gofynion. 

Rydym yn neilltuo £20m yn ychwanegol o arian i helpu ffermwyr i gydymffurfio â’r gofynion a byddwn yn lansio rownd newydd o’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau cyn hir, a fydd yn targedu busnesau fferm i’w helpu i fuddsoddi a chynnal y gwelliannau sydd eu hangen i leihau’r risgiau i’r amgylchedd. 

Rydym wrthi’n trefnu’r arolwg statudol cyntaf o effeithiolrwydd y rheoliadau. Byddwn yn ymgynghori ar ba mor addas yw’r mesurau amgen y mae’r sector wedi’u cynnig. 

Rydym hefyd am benodi cadeirydd allanol annibynnol i oruchwylio’r broses. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Rydym wedi bod yn cydweithio gyda ffermwyr dros y saith mlynedd diwethaf i ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) – math newydd o gymorth i ffermwyr yng Nghymru i sicrhau'r cynhyrchiant bwyd a'r gwelliannau amgylcheddol sydd eu hangen ar Gymru i gadw ffermwyr ar eu tir am genedlaethau i ddod wrth i'r hinsawdd newid.

Bydd yr SFS yn ein helpu i wireddu'r ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud i bawb yng Nghymru, gan sicrhau dyfodol cryfach a gwyrddach i bob un ohonom a sicrhau bod ffermio cynaliadwy yn darparu manteision i’r cyhoedd yn gyfnewid am arian y cyhoedd.

Daw'r ymgynghoriad presennol ar yr SFS i ben ar 7 Mawrth. 

Byddwn yn croesawu’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd pob ymateb i'r ymgynghoriad a ddaw i law, gan gynnwys yr holl faterion gafodd eu codi a'u trafod yn y 10 cyfarfod teithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn cael eu dadansoddi a'u hystyried yn briodol. Byddwn yn cyhoeddi'r dadansoddiad hwnnw a chrynodeb o'r ymatebion. 

Ar sail y safbwyntiau a fynegwyd hyd yma, rydym heddiw yn nodi rhai camau nesaf posibl:

  • Sicrhau lle gofynnir i ffermwyr gasglu gwybodaeth fel rhan o'r SFS, bod y broses honno mor effeithlon â phosibl, yn cydymffurfio gyda GDPR, ac yn sicrhau bod y data mor werthfawr â phosibl i ffermwyr.
  • Sicrhau bod y gweithredoedd yn yr SFS yn cael eu targedu'n briodol i wneud ffermydd cyn gryfed yn economaidd â phosibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw'r gofyn am goetiroedd a chynefinoedd yn gwneud ffermydd yn ariannol aflwyddiannus.
  • Sicrhau bod taliadau fferm yn cael eu dosbarthu'n deg a’u bod ar gael i bawb.
  • Ystyried adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o unrhyw gynigion pellach a gwahanol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer dal carbon.
  • Sefydlu pwyntiau adolygu rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau'r ffermwyr a chynrychiolwyr ffermwyr, wrth lunio cynigion terfynol.
  • Cynnal dadansoddiad economaidd newydd.

Bydd y Prif Weinidog newydd, a fydd yn dechrau ar ei swydd ar 20 Mawrth, am adolygu yn ofalus canlyniadau’r ymgynghoriad ac ystyried mewn manylder yr amserlen ar gyfer rhoi’r SFS ar waith. 

Mae disgwyl i'r Gyllideb Derfynol gael ei thrafod gan y Senedd ar 5 Mawrth a phleidleisir arni bryd hynny. Mae'n cynnwys bwriad Llywodraeth Cymru i gadw cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol yn llawn, sef £238m.