Tracy Price, sy'n rhedeg busnes fferm ei hun ger Llanidloes

I ddau ffermwr penderfynol ac uchelgeisiol o Ganolbarth Cymru, bu datblygiad proffesiynol parhaus yn ffactor hollbwysig wrth eu helpu i ddod yn ffermwyr llwyddiannus. Mae’r ddau yn frwd o blaid cael cynllun datblygu personol sy’n helpu i fapio eu hamcanion gyrfaol yn y dyfodol ac mae’r ddau yn defnyddio’r Storfa Sgiliau, sef offeryn storio data ar-lein diogel Cyswllt Ffermio, i gofnodi eu cyflawniadau a nodi unrhyw fylchau yn eu set o sgiliau.

Mae Tracy Price yn rhedeg ei busnes fferm ei hun ger Llanidloes, ac mae ganddi hefyd fenter llety a thwristiaeth. Mae’r newydd-ddyfodiad Ernie Richards yn fugail llawn amser sy’n rheoli diadell o 1,000 o ddefaid Lleyn pedigri ar fferm ucheldir yng Nghleirwy. Dywed y ddau fod darpariaeth hyfforddiant â chymhorthdal Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt gyflawni eu nodau personol a busnes priodol.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd Tracy ac Ernie fel enillwyr gwobrau ‘Dysgwr y Flwyddyn’ gan Lantra Cymru, sydd, ochr yn ochr â Menter a Busnes, yn darparu gwasanaethau sgiliau a hyfforddiant ar ran Cyswllt Ffermio. Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Tracy yn canmol Cyswllt Ffermio am ei chyfeirio tuag at y ‘pecyn perffaith’ o gyrsiau hyfforddi.

“Dros nifer o flynyddoedd o ymwneud â Cyswllt Ffermio, rwyf wedi dilyn hyfforddiant ar nifer o sgiliau sy’n ymwneud â ffermio yr wyf yn eu defnyddio bob dydd, gan gyflawni tasgau ymarferol heb angen defnyddio contractwyr allanol mwyach.”

“Mae fy swyddog datblygu lleol wedi bod yn hynod gefnogol, gan fy annog hefyd i wneud cais am gymysgedd o gyrsiau hyfforddi cysylltiedig â busnes a TGCh â chymhorthdal, sydd wedi fy ngalluogi nid yn unig i ddatblygu fy musnes fferm ond hefyd wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder i mi sefydlu a thyfu menter fferm, twristiaeth a llety lwyddiannus, hefyd.”

New entrant Ernie Richards was recently named one of Lantra Wales' Learner of the year, 2022

Ni chafodd Ernie (sy’n 28 oed) ei fagu ar fferm, ond treuliodd bob munud sbâr o'i ddyddiau ysgol ac fel myfyriwr yn helpu ei nain a'i daid ar eu daliad defaid bach. Eisoes wedi’i arfogi â llu o sgiliau fferm ymarferol trwy astudio diploma sylfaen yn Herefordshire and Ludlow College, gan ddilyn hynny gyda BSc mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Ernie yn gyn-gyfranogwr yn yr Academi Amaeth, yn Llysgennad Defaid Cenedlaethol a hyfforddwr CFfI achrededig.

Gan gredu’n gryf mewn ‘dysgu gydol oes’, mae Ernie yn benderfynol o barhau i astudio pynciau newydd y mae’n gwybod y bydd yn ei helpu i ddatblygu ei yrfa ymhellach eto yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae darpariaeth hyfforddiant â chymhorthdal Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i thargedu at y rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant ffermio ar lawr gwlad, wedi ychwanegu llawer iawn at fy set sgiliau, gan roi sgiliau a gwybodaeth hanfodol rwy’n eu defnyddio bob dydd.”

Roedd Ernie eisoes wedi dilyn hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar iechyd a diogelwch fferm a defnyddio meddyginiaethau milfeddygol mewn modd diogel, ond dywedodd nad oedd ganddo’r sgiliau y gwyddai y byddai eu hangen arno yn y tymor hwy ar yr ochr ariannol a rheoli busnes o redeg busnes fferm.

O fewn y ddwy flynedd diwethaf, gyda chyflogwyr hynod gefnogol y tu ôl iddo, mae astudiaethau Ernie wedi amrywio o gynllunio busnes, trin llif arian a chyllidebau i wneud ffurflenni treth yn ddigidol a chadw cyfrifon.

“Mae’r teulu sy’n berchen ar y fferm lle rydw i wedi gweithio am fwy na chwe blynedd bob amser wedi fy annog i ddysgu am reoli busnes, a diolch i Cyswllt Ffermio, rydw i bellach wedi ennill set werthfawr o sgiliau newydd a fydd yn helpu nid yn unig wrth redeg y busnes o ddydd i ddydd, ond o ran cyfeiriad y busnes yn y dyfodol, hefyd.

“Rwyf wedi cofrestru’n bersonol gyda Cyswllt Ffermio, felly roedd yn broses syml i mi ddewis a gwneud cais ar-lein am gyrsiau hyfforddi priodol o blith dros 75 o opsiynau a ddangosir ar y wefan."

Dywed Ernie ei fod eisoes yn gwneud defnydd da o'i holl wybodaeth newydd, ac mae'r teulu y mae'n gweithio iddo wrth eu bodd.

“Ochr yn ochr â fy rôl yn rheoli’r ddiadell ddefaid a dyletswyddau cyffredinol eraill y fferm, maent eisoes yn fy nghynnwys mewn llawer o benderfyniadau busnes o ddydd i ddydd, i baratoi ar gyfer yr amser pan fyddaf yn cael mwy o gyfrifoldeb, a fydd yn galluogi’r perchnogion i gamu’n ôl pan fyddan nhw'n barod.”

Bydd y cyfnod ymgeisio sgiliau nesaf yn agor am 09:00 ddydd Llun, 2 Mai hyd 17:00 ddydd Gwener, 27 Mehefin. Dylai unrhyw unigolyn sy’n bwriadu ymgeisio yn ystod y cyfnod hwn nad yw eisoes wedi cofrestru gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 cyn 17.00 ddydd Llun, 23 Mai 2022.

Am ragor o fanylion ynglŷn â sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, Storfa Sgiliau, yr adnodd storio data diogel ar-lein ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, neu i weld fersiwn ar-lein o’r canllaw ‘Cam wrth gam’ ar gyfer ymgeisio am gymorth sgiliau ac e-ddysgu, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/sgiliau-hyfforddiant. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio neu’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych.   

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.