Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus wedi datgelu maint y deunydd pacio sbwriel o fwyd a diod 'on-the-go'.

Datgelodd yr adroddiad a gyhoeddwyd fod sbwriel pecynnu wedi ei ddarganfod ar 64.2% o strydoedd ar draws y wlad yn 2021-22.   

‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? yw’r adroddiad cyntaf o’i fath ers dechrau pandemig COVID-19. Mae’n dod â chanlyniadau ynghyd o filoedd o arolygon glendid strydoedd i roi ‘cipolwg’ ar sbwriel a materion eraill yn ymwneud ag ansawdd amgylcheddol.

Ymysg y mathau o ddeunydd pacio a gofnodwyd, canfuwyd sbwriel danteithion, yn cynnwys papurau melysion a phacedi creision, ar bron hanner y strydoedd. Roedd sbwriel diodydd yn dal ar y lefelau cyn y pandemig ac wedi ei ganfod ar 44% o’r strydoedd.

Fel llawer o elusennau amgylcheddol, yn cynnwys ein cyfoedion yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym o’r farn y gallai gweithredu Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) yn y DU newid popeth o ran dileu sbwriel a gwastraff deunydd pacio.

Byddai cynllun EPR yn ei wneud yn ofynnol i gynhyrchwyr deunydd pacio dalu am drin neu waredu eu nwyddau. Bwriad hyn yw annog cynhyrchwyr i leihau gwastraff a hyrwyddo dylunio eu cynnyrch yn fwy cynaliadwy. Fel sydd yn wir gyda llawer o wledydd eraill Ewrop, mae’r cynigion presennol hefyd yn awgrymu y dylid cynnwys costau taflu sbwriel.

Am fwy o fanylion, yn cynnwys methodoleg yr arolwg, ewch i tudalennau Polisi ac Ymchwil Cadwch Cymru'n daclus.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: 

Mae mynychder sbwriel deunydd pacio ar draws Cymru yn cryfhau’r achos ymhellach dros EPR. Nid awdurdodau lleol yn unig sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â sbwriel ac mae’n rhaid lleihau’r baich ariannol ar arian cyhoeddus.

Gwyddom fod yr ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd ar EPR wedi cael cefnogaeth gref. Mae gan y cynllun arfaethedig y potensial i drawsnewid y ffordd y mae’r sector preifat yn cefnogi glanhau strydoedd, gweithredu cymunedol a gweithgareddau atal sbwriel.

Dywedodd Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Does dim esgus dros daflu sbwriel ar rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros waredu eu gwastraff yn gywir. Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus i’w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf er mwyn i bawb allu mwynhau ein cymunedau a’r golygfeydd rhagorol sydd gan Gymru i’w cynnig. Rydym yn cytuno gydag egwyddorion cynllun EPR a byddwn yn gwneud cyhoeddiad maes o law.

Canlyniadau pennawd eraill o'r adroddiad Pa mor lân yw Ein Strydoedd? yn cynnwys:

  • Sbwriel sy'n cael ei ollwng gan gerddwyr yw'r ffynhonnell fwyaf cyffredin o hyd
  • Sbwriel ysmygu yw'r math mwyaf cyffredin o sbwriel, sydd i'w ganfod ar 74.6% o strydoedd.
  • Cafodd sbwriel PPE ei gynnwys yn yr arolygon glendid stryd am y tro cyntaf. Fe gafodd mygydau eu canfod ar 8% o strydoedd (tua 10,700 o fygydau sbwriel).
  • Cafodd presenoldeb poteli a chaniau diod alcoholig hefyd ei gofnodi am y tro cyntaf a'i ganfod ar 15.5% o strydoedd.
  • Cofnodwyd baw ci ar 8% o strydoedd - y ffigwr isaf ers i arolygon glendid y stryd ddechrau yn 2007-08.

Cafodd yr arolygon glendid stryd eu cynnal fel rhan o Caru Cymru - menter sy'n cael ei harwain gan Cadwch Gymru'n Daclus ac awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff. Mae Caru Cymru wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus am fwy o wybodaeth: https://keepwalestidy.cymru/cy/