Spring Clean Cymru

Mae cymunedau ar draws Cymru’n cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2023 a helpu i godi’r sbwriel sy’n andwyo ein cymdogaethau, ein traethau a’n parciau.  

Ymgyrch y llynedd oedd y mwyaf erioed, gyda 17,000 o wirfoddolwyr anhygoel yn cymryd rhan mewn 364 o ddigwyddiadau glanhau ar draws y wlad. Gobaith Cadwch Gymru’n Daclus yw curo’r cyfanswm hwn er mwyn sicrhau mai 2023 yw eu hymgyrch glanhau mwyaf llwyddiannus erioed. Maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill. 

Bydd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yn torchi llewys er mwyn glanhau gyda gwirfoddolwyr ar draws y wlad. 

Dywedodd Owen: 

“Mae ein neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth mawr. P’un ai eich bod yn dewis glanhau eich cymdogaeth chi, eich hoff draeth, parc neu fan prydferth – mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei symud o’r amgylchedd naturiol yn bwysig. 

“Mae codi sbwriel yn weithgaredd hwyliog hefyd, sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i’ch iechyd, eich lles a’ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned. Felly ewch i nôl codwr sbwriel, ewch allan i’r awyr agored a dangos cariad tuag at Gymru y gwanwyn hwn.”

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno â phob awdurdod lleol ar gyfer yr ymgyrch eto eleni, sydd yn rhan o Caru Cymru – menter i ddileu sbwriel a gwastraff.

I gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.