- Math o ddigwyddiad:
-
Cynhadledd
- Dyddiad ac amser:
-
-10am tan 3pm (cyrraedd o 9am)
- Lleoliad:
-
“Ein Dôl Iechyd”, Ysbyty Athrofaol Llandochau

Ymunwch â dîm 'Down to Earth' i ddathlu dwy flynedd a hanner o gyflawniadau anhygoel gan gleifion, staff a’r gymuned ehangach wrth ddatblygu “Ein Dôl Iechyd”.
Yn arbrofol ac yn yr awyr agored, bydd y gynhadledd hon yn eich ysbrydoli drwy ddangos i chi beth sy'n bosibl…
Pobl: byddwch yn clywed straeon ysbrydoledig gan gleifion a staff ac yn dysgu am ymchwil glinigol barhaus
Natur: dysgwch pam mai dyma’r cynllun achrededig* “Adeiladu gyda Natur” cyntaf yng Nghymru
Effaith: dysgwch am ein mesurau cynhwysol a chlywed yr adborth gwerthuso allanol
Bydd y gynhadledd hon yn yr awyr agored nid yn unig yn rhannu lleisiau cleifion a staff ond byddwch hefyd yn clywed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS.
Ymunwch â ni yn Ysbyty Athrofaol Llandochau o 10am tan 3pm (cyrraedd o 9am).
Rydym ni’n disgwyl i’r galw am leoedd fod yn uchel felly ewch ati i gwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau fod presenoldeb more gynhwysol â phosibl.