Math o ddigwyddiad:
Celebration
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Royal Welsh Showground
front of royal welsh showground foodhall with celebrating rural logo underneath

Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn falch o lwyddiant y digwyddiad a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yr.

Cafodd dros 360 o gynrychiolwyr groeso dros y digwyddid deuddydd, a bu mwy na 30 o brosiectau yn arddangos eu gwaith.

Cynhaliwyd trafodaethau panel am bynciau sy’n bwysig i Gymru yn ystod y ddau ddiwrnod hefyd, yn ogystal â sioe sgwrsio gyda rhai o’r bobl a oedd wedi cael budd o’r astudiaethau achos. Buont yn egluro’r hyn y mae'r cyllid wedi'i olygu iddyn nhw ac yn sôn am sut gwnaethon nhw lwyddo.

I gloi’r diwrnod cyntaf, cynhaliodd Gwir Flas ddigwyddiad i ddathlu cynnyrch bwyd a diod o Gymru sydd wedi cael cymorth dan y Rhaglen.
Pen llanw’r Dathliadau oedd Gwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru, pan ddyfarnwyd gwobrau dan bob un o’r themâu'r i’r 4 prosiect sy’n cyfleu ethos y rhaglen gyllido orau.

birds eye view of exhibition area at celebrating rural event

Arddangosfa

34 o stondinau arddangos ar draws 4 Parth:

  • Arloesi – Arddangos prosiectau fel Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol; Cadwch Gymru'n Daclus; Menter Moch Cymru; Cyswllt Ffermio; Gwnaed â Gwlân; Sgiliau Bwyd Cymru; Tyfu Cymru; Cymru. Cyrchfan Bwyd
  • Tirwedd, Natur a Choedwigaeth – Arddangos prosiectau a chynlluniau megis Monitro a Thystiolaeth Amgylcheddol; Rhaglen y Goedwig Genedlaethol; y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • Bwyd a Thwristiaeth – Arddangos nifer o brosiectau twristiaeth a ariennir drwy'r Rhaglen, yn ogystal â phrosiectau sy'n gysylltiedig â Bwyd, megis Cywain - Menter a Busnes; Bwyd a Diod Cymru; Helix (y tu mewn i'r gromen 360 gradd anhygoel; lle’r oedd sesiynau blasu ar gael drwy gydol y dydd)
  • Cymunedau – Arddangos prosiectau gwych gan 18 o Grwpiau Gweithredu Lleol ledled Cymru, a ariennir gan LEADER

Roedd pob stondin yn dangos yr hyn a gyflawnwyd gan y Rhaglen ac roedd y rheini a elwodd ar y cyllid yn arddangos eu prosiectau gwych.

 

communities panel discussion in front of audience

Paneli

Cynhaliwyd chwe thrafodaeth banel dros y ddau ddiwrnod. Roedd y paneli'n cynnwys arbenigwyr a’r rheini a oedd wedi elwa ar y cyllid a ddarperir dan y Cynllun. Rhannwyd y trafodaethau’n themâu –

 

  • •    Llwyddiant wrth Reoli Tir – James Skates, Pennaeth Modelu, Geo-ofodol a Monitro a'r Athro Bridget Emmett, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
  • Ffermio a Chefn Gwlad – Dr Nerys Llewelyn Jones, Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro Cymru; Prysor Williams, Prifysgol Bangor; Julie Davies, Ffermwraig y Flwyddyn Cymru 2006
  • •    Cymunedau ac Adfywio – yr Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth, Tom Jones, Ffermwr Annibynnol, Llywydd ERCA (Cymdeithas Cyrsiau Rhaffau Ewrop), Cynghrair Cymunedau Gwledig Ewrop, cyn-aelod o Awdurdod S4C, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Cadeirydd cyntaf Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm a chyn Gyfarwyddwr yr ATB, y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol, cyn Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru a Llywydd CFfI Cymru;
  • Gerallt Llewelyn Jones, Uwch Swyddog Cyfrifol, Morlais
  • •    Rheoli Tir yn y Dyfodol – Ann Humble, Llywodraeth Cymru; yr Athro Bridget Emmett, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU; Prysor Williams, Prifysgol Bangor
  • •    Yr Amgylchedd a'r Newid yn yr Hinsawdd – Dr Keith Powell, Stump up for Trees; yr Athro Dave Chadwick, Prifysgol Bangor; Rhys Parry, Cadeirydd, Partneriaeth Pennal (Pennal 2050)
  •     Pobl Ifanc yng Nghefn Gwlad – Caryl Haf, Is-gadeirydd CFfI Cymru; Caryl Hughes, (y person cyntaf i gael Ysgoloriaeth Llyndy Isaf gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

 

Sioe Sgwrsio

Yr eitem olaf ar yr agenda yn ardal y theatr ddydd Iau oedd sioe sgwrsio ar ffurf cyfweliadau gyda'r bobl sy’n gyfrifol am rai o’r llwyddiannau mwyaf yng nghefn gwlad Cymru –

  • •    Jo Quinney, Cledrau Cymru;
  • •    Robert Clapham, Academi Addysg Awyr Agored Glantawe;
  • •    Garry Williams, Blaencennen, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin;
  • •    ac Adrian Jones, Bioamrywiaeth a Busnes

 

people listening to presentation the forestry workshop

Gweithdai

Gan fod Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 yn dod i ben, y cwestiwn ar wefusau pawb yw 'Beth Nesaf?'. Cynhaliwyd cyfres o weithdai yn y Lolfa Fusnes, lle clywodd randdeiliaid gan Arweinwyr Polisi am rai o'r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol. Ymdriniwyd â’r materion isod -

  • Cynllun y Goedwig Cenedlaethol; Graddfa Tirwedd
  • Rheoli Tir;
  • Arallgyfeirio Amaethyddol;
  • Dyfodol Rheoli Llifogydd yn Naturiol;
  • ac arallgyfeirio amaethyddol

 

 

 

visitors sampling food from display tables

Noson Rwydweithio Blas ar Gymru

I gloi’r diwrnod cyntaf, cynhaliwyd noson Rwydweithio Bwyd a Diod ym Mhafiliwn Maldwyn lle cafwyd anerchiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog. Diolch i gyllid a gafwyd dan y Rhaglen Datblygu Gwledig, cafwyd cyfle i fwynhau detholiad bendigedig o Fwydydd a Diodydd o Gymru.

Cafodd y 200 o cynrychiolwyr a oedd yn bresennol gyfle i flasu rhai o'r bwydydd a'r diodydd gorau o Gymru, i siarad â rhai o'r cynhyrchwyr a gweld amrywiaeth enfawr o gynhyrchion.

 

 

 

 

 

Pennal Project accepting their award

Gwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru

Un o elfennau allweddol y digwyddiad oedd cyflwyno Gwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru i nifer o brosiectau llwyddiannus sydd wedi llwyddo i gyfleu ethos y rhaglen ariannu i’r dim – prosiectau sydd wedi helpu i gryfhau ac i greu mwy o amrywiaeth ym meysydd ffermio, coedwigaeth a bwyd, drwy fuddsoddi mewn mentrau gwyrdd, mynd i'r afael â thlodi, sbarduno cystadleurwydd a chreu twf a swyddi cynaliadwy ar gyfer y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru.

Enwebwyd y prosiectau gan y Timau Polisi sy'n gyfarwydd â’r prosiectau a dyfarnwyd y Gwobrau gan Banel Annibynnol.
Cyflwynwyd y Gwobrau yn y prynhawn ar 10 Mehefin. Cafodd pob un o’r enillwyr dlws wedi'i bersonoli (tlws llechi gan Inigo Jones, prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Twristiaeth y RhDG), a chydnabyddiaeth am fod yn un o'r prosiectau llwyddiannus gorau yng nghefn gwlad Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Rhoddwyd gwobrau mewn pedwar categori –

wales' first minister on stage at taste of wales reception

Mark Drakeford, y Prif Weinidog

Roeddem yn falch o gael croesawu'r Prif Weinidog i agor noson Rhwydweithio Blas ar Gymru yn swyddogol.

Dywedodd:

'Roedd yn bleser cael bod mewn digwyddiad i ddathlu'r Rhaglen Datblygu Gwledig, a chael gweld â’m llygaid fy hun y gwaith gwych y mae wedi'i wneud i helpu’n cymunedau gwledig i ffynnu.'

 

 

Lesly Griffiths, MS speaking to celebrating rural audience

Lesley Griffiths, AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Roedd Lesley Griffiths, AS, yn bresennol a hi agorodd sesiwn y prynhawn ar 9 Mehefin.

Cerddodd y Gweinidog o amgylch y parthau arddangos, gan gyfarfod a siarad â buddiolwyr y prosiect.

Yn ei hanerchiad agoriadol dywedodd:

'Mae’n cymunedau gwledig yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd Cymru ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo'.