Roedd y rhaglen, a gynhaliwyd o 2014 i 2020 (ac a gafodd ei hestyn i 2023) yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Yn Abertawe, elwodd wardiau gwledig Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr (a wardiau gwasanaeth cysylltiedig) o £521,361 mewn cyllid grant, gan dderbyn £183,914 o gyllid cyfatebol.
Yn ystod 7 mlynedd y Bartneriaeth Datblygu Gwledig, ariannodd y gronfa LEADER, dan arweiniad y Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl), 34 o brosiectau llwyddiannus yn Abertawe, a chefnogodd 2,240 o gyfranogwyr. Ariannwyd 18 o hybiau cymunedol newydd ac 16 o rwydweithiau cymunedol newydd a chynhaliwyd 17 o brosiectau peilot ac amrywiaeth o astudiaethau dichonoldeb drwy'r gronfa hefyd.
Drwy gymryd ymagwedd arloesol 'Un Blaned' at ddethol prosiectau, anogwyd arferion a fydd yn helpu i greu dyfodol cynaliadwy cadarn i'r wardiau gwledig.
Roedd prosiectau a ariannwyd yn cynnwys Cynlluniau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned fel Big Meadow, Llangynydd, Ardal Ddysgu Awyr Agored yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt ac Astudiaethau Dichonoldeb a oedd yn edrych gynlluniau ynni adnewyddadwy a'r potensial i sicrhau cyllid yn y dyfodol ar gyfer wardiau Gogleddol Abertawe.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariannwyd gan y RhDG i'w gweld www.abertawe.gov.uk/RhDG.