Gyda threialon a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn amrywio o dyfu glaswellt gyda llwch craig i greu llwyni te ar raddfa fferm ar dir mynydd eisoes ar y gweill yng Nghymru, mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i wneud cais am y rownd nesaf o gyllid gan y fenter a wireddodd y prosiectau hyn.
Mae'r ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer Cyllid Arbrofi yn agor ar 9 Hydref 2023 a bydd yn rhedeg tan 20 Hydref.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu ariannu treialon ar y fferm sy'n arbrofi gyda syniadau newydd.
Yn ystod y rownd ddiwethaf o gyllid, cefnogwyd ffermwyr ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys tyfu gwahanol gnydau gorchudd o dan fresych y gaeaf i nodi pa fathau sy'n diogelu priddoedd orau rhag dŵr ffo.
Dywedodd Menna Williams, Arweinydd y prosiect o Cyswllt Ffermio, mai'r nod yw i ffermwyr gymharu gwahanol driniaethau neu systemau rheoli - nid yw'n fwriad i'r prosiect ariannu offer newydd, pwysleisiodd.
“Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd,” meddai.
“Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth, ac mae nawr yn amser gwych i fusnesau ffermio archwilio syniad a allai fod o fudd iddynt, gan ganiatáu i ffermydd fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol.”
Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a/neu dyfwyr yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol.
“Gan fod y syniadau hyn yn cael eu hysgogi gan y ffermwyr eu hunain, maent yn wirioneddol angerddol amdanynt, ac felly’n rhoi 100% o ymdrech iddynt o'r cychwyn cyntaf,” meddai Ms Williams.
Rhaid i brosiectau addas anelu at wella effeithlonrwydd cynhyrchu a phroffidioldeb wrth ddiogelu’r amgylchedd trwy fod yn gyson â chanlyniadau rheoli tir cynaliadwy.
Mae llawlyfr ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr ystyried eu prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a gallu cwblhau eu prosiectau erbyn mis Ionawr 2025.
“Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect,” eglurodd Ms Williams.
Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â chynhyrchwyr eraill yng Nghymru drwy weithio gydag aelod ymroddedig o dîm Cyswllt Ffermio i gynhyrchu adroddiad byr a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill megis digwyddiadau.
Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â fctryout@menterabusnes.co.uk