Mae dau ffermwr wedi canmol prosiect ymchwil dan arweiniad y diwydiant a gynlluniwyd i sicrhau bod Cig Oen Cymru yn arwain y ffordd o ran ansawdd a chysondeb i gwsmeriaid.

Lansiodd Hybu Cig Cymru (HCC) bedwerydd cam Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn yr haf, fel rhan o’r cynllun ymwchwil i flas a thynerwch y cig yn ddibynnol ar sut mae’r cig yn cael ei hongian a’i becynnu.

Darparodd pum fferm, gan gynnwys cymdogion a ffrindiau o Sir Gaerfyrddin, Gareth Morgan ac Ogwyn Thomas, gyfanswm o 120 o ŵyn i’r prosiect ymchwil wedi eu selio ar garcas, cydffurfiad a dosbarth braster gyda’r pwysau cyfartalog yn dod i 20.4kg.

Roedd y paneli blasu defnyddwyr, a gynhaliwyd yn Lerpwl a Malvern, yn ymchwilio i weld a yw hongian trwy ddull traddodiadol coesau agored, neu dechneg traws-goes, yn effeithio ar ansawdd bwyta, ac a yw pacio dan wactod (VAC) neu becynnu atmosffer wedi'i addasu (MAP), yn gwneud gwahaniaeth i flas y cig oen.

Cyflwynwyd gwahanol ddarnau o’r cig oen ar gyfer y defnyddwyr ac ar gyfer yr ymchwil maeth ar ôl i'r cig aeddfedu am wyth diwrnod mewn pecyn VAC neu MAP i gymharu'r broses a'i dorri'n dddarnau.

Yna cyflwynwyd y cig i’r paneli defnyddwyr i’w flasu, tra bod yr hanner arall yn cael ei gyflwyno i’r ymchwil mewn labordy i edrych ar gynnwys maethol y cig.

Mae’r unigolion yn y paneli blasu yn derbyn nifer o samplau cig mewn amgylchedd rheoledig ac yn sgorio'r cig am wahanol rinweddau ansawdd blas.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr sgorio pob sampl ar bedwar ffactor allweddol sy'n ffurfio ansawdd cig. Mae'r rhain yn cynnwys arogl, blas, tynerwch a suddlondeb, cyn holi faint byddent yn fodlon talu am bob darn?

Hyd yn hyn, mae’r treialon wedi helpu Cig Oen Cymru gadw ei enw da drwy’r byd am safon y cynnyrch. Dangosodd data o baneli blasu a gynhaliwyd yn Llwydlo, Caer, a Reading fod 60 y cant o gyfranogwyr yn prynu mwy o gig oen, gyda 50 y cant yn prynu cynnyrch Cymreig.

Dywedodd Gareth, sy’n rhedeg fferm 320 erw Bron-y-Glyn yn Llanfynydd, Caerfyrddin, gyda’i wraig, Ina, ei fab, Steffan, a’i ferch, Carys: “Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r pedwerydd treial trwy gyflenwi ŵyn i’r prosiect.

“Mae gallu defnyddio technoleg DNA i wirio pwy yw rhieni’r ŵyn yn mynd i fod yn hynod ddiddorol, yn ogystal â gweld pa rai sy’n datblygu ac yn pesgi’n gyflymach i roi cig o’r ansawdd gorau i ni.”

Gan ddefnyddio technoleg DNA arloesol, mae’r astudiaeth yn ymchwilio i weld a yw rhieni gwahanol ŵyn yn effeithio ar ansawdd bwyta a gwerthoedd maethol y cig a gynhyrchir.

“Pan ofynnwyd i mi gymryd rhan roedd yn rhywbeth roeddwn yn awyddus i fod ynghlwm ag o oherwydd po fwyaf o ymchwil rydyn ni’n ei wneud i weld beth sy’n effeithio ar ansawdd cig oen Cymru, gorau oll.”

Roedd Gareth, y bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i ffermio, yn pwyso tua 60 o ŵyn bob pythefnos cyn i 24 gael eu cymryd fel rhan o’r treial blasu.

“Roedd yn broses a gymrodd amser i ni yma ar y fferm, ond mae wedi bod yn un sy’n werth ei wneud yn iawn,” ychwanegodd Gareth, sy’n cadw tua 600 o famogiaid, a 75 o wartheg sugno ym Mron-y-Glyn.

“Unwaith y byddwch chi wedi blasu cig oen Cymreig, mae’n gwerthu ei hun. Os byddwn ni, o ganlyniad i’r treial hwn, yn deall mwy am y ffordd orau o becynnu ein cig oen, gorau oll fydd y cynnyrch rydyn ni’n ei gyflwyno i’n cwsmeriaid.”

Roedd Ogwyn, wrth sgwrsio o’i fferm 170 erw Llettyngors, yn edrych dros dir Gareth, yn hapus iawn i helpu’r prosiect trwy ddarparu 24 o ŵyn.

“Roedd hi’n grêt cymryd rhan a dod i wybod mwy am ddatblygiad fy ŵyn,” meddai Ogwyn, sy’n cadw tua 600 o famogiaid a mwy na 50 o wartheg sugno ar ei fferm, gyda 120 erw o dir ar rent.

“Unwaith maen nhw’n barod maen nhw’n cael eu gwerthu, felly roedd yn hynod ddiddorol dilyn y broses a gweld sut roedd yr ŵyn gwahanol yn dod yn eu blaenau."

Mae Ogwyn yn cael cymorth ar ei fferm, sydd wedi bod yn y teulu ers tua 70 mlynedd, gan ei fab, Daniel, sy’n ei arddegau.

Ychwanegodd: “Gareth wnaeth fy ffonio i ynglŷn â’r prosiect, ac rydw i wedi mwynhau cymryd rhan gan ei fod wedi bod yn agoriad llygad i weld popeth sy’n digwydd gyda’ch praidd.

“Rwy’n falch fy mod i, Gareth, a ffermwyr eraill wedi gallu helpu ymchwil Hybu Cig Cymru i wella ansawdd y cig oen a gynhyrchir yn y wlad.”

Mae prosiect Ansawdd Cig Cig Oen Cymru yn un o dri phrosiect pum mlynedd o fewn y Rhaglen Datblygu Cig Coch, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Ansawdd Cig Cig Oen Cymru gan gynnwys adroddiadau a chanlyniadau, yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Cig Coch ei hun, ar gael yma ar wefan HCC.