Dr Richard Irvine chief vet

Rydym wedi codi'r gwaharddiad ar grynhoi adar Galliforme fel ffesantod, ieir a thwrcwn yng Nghymru. Dyna gyhoeddiad Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine.

Ym mis Tachwedd 2021, yn wyneb yr achos mwyaf erioed ym Mhrydain Fawr o'r ffliw adar, cyflwynwyd gwaharddiad ar grynoadau dofednod rhag lledaenu'r clefyd ac i warchod heidiau.

Ar ôl mwy na dwy flynedd o wahardd crynhoi adar, yn ail ran 2023 newidiodd patrwm y clefyd, gyda llai o safleoedd yn cael eu heintio a llai o adar gwyllt heintiedig yn cael eu ffeindio. Nid oes yr un safle wedi'i heintio yng Nghymru ers mis Ebrill 2023.

Ond y farn yw bod y risg yn dal yn rhy fawr i grynhoi adar Anseriforme fel hwyaid, gwyddau ac elyrch, a bydd y gwaharddiad ar eu crynhoi nhw yn aros.

O heddiw ymlaen, bydd gofyn i geidwaid adar Galliforme sy'n trefnu ffair, marchnad, sioe, arddangosfa neu grynhoad arall gadw at holl ofynion trwydded gyffredinol. Mae'r manylion ar wefan Llywodraeth Cymru - www.llyw.cymru/casgliadau-adar-trwydded-gyffredinol-ar-gyfer-casgliadau a www.llyw.cymru/casgliadau-adar-trwydded-gyffredinol-ar-gyfer-dofednod. 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: 

Mae ceidwaid dofednod wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hadar rhag ffliw'r adar trwy gadw at fesurau bioddiogelwch ac eraill cryf, a dw i am ddiolch iddyn nhw eto am bopeth y maen nhw wedi'i wneud.

Dw i'n falch ein bod bellach yn gallu ailddechrau crynhoi adar Galliforme. Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu, ac i gefnogaeth a chydweithrediad y sector dofednod y mae'r diolch am hynny.

O heddiw ymlaen felly, bydd modd crynhoi pob math o adar yng Nghymru, heblaw am adar Anseriforme, cyn belled â bod ceidwaid yn cadw at holl ofynion y drwydded gyffredinol.

Nid yw hyn yn golygu bod y risg o ffliw'r adar wedi diflannu. Rhaid wrth fesurau hylendid a bioddiogelwch llym i ddiogelu heidiau rhag y clefyd, ac mae'n bwysig bod ceidwaid adar yn dal ati i hunanasesu'u mesurau bioddiogelwch.

Mae pob un o'n mesurau lliniaru, gan gynnwys cyfyngiadau ar grynhoi adar, yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn helpu i sicrhau bod yr haid genedlaethol yn ddiogel.