Gorwelion a gobaith - gwaith celf newydd yn ymddangos yng Nghaernarfon

Ar ochr maes parcio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, mae rhywbeth wedi ymddangos i ddod a lliw a diddordeb i’r wal concrit llwyd ‘da ni gyd yn ei hadnabod. ‘Gorwelion a Gobaith’ ydi enw’r gwaith celf mawr newydd sydd wedi ei osod ar y 29ain o Fehefin 2023, wedi ei greu gan yr artist Teresa Jenellen. 

Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards, ond nid portread o Ellen ydi hwn; yn hytrach, portread o ferch gyda phwrpas a gobaith, yn edrych tua’r gorwel a thu hwnt - tuag at bethau sydd eto i ddod, pethau sydd yn bosib yn y dyfodol… 

Bron i ddau-gan mlynedd yn ôl roedd tref Caernarfon yn ferw o ddiwydiant, a daeth Ellen Edwards yn un o arloeswyr pwysicaf y dref. Hyfforddodd dros 1,000 o forwyr mewn Ysgol Fordwyo bwrpasol ac fe deithiai ei disgyblion o bell ac agos er mwyn derbyn ei dysg a’i harweiniad gwerthfawr ar nifer o bynciau hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd. 

Mae modd gweld bod Ellen wedi bod yn athro dylanwadol ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Ymysg ei disgyblion mae rhai o Gaernarfon, Llanfaglan, Ynys Enlli a Bangor,  ac ambell unigolyn o dramor hefyd, yn cynnwys Prwsia a Sweden. 

“Dwi’n defnyddio dipyn ar symboliaeth yn fy ngwaith a dwi’n gweld y ddrudwy fel negesydd, fel yr un a gariodd neges Branwen yn y Mabinogion.” meddai’r artist Teresa Jenellen am ei gwaith.

“Mae blodyn glas yr ŷd, sydd yn symboleiddio gwybodaeth, wedi ei baentio’n goch yma, ac mae blodau magnolia yn symboleiddio llawer o bethau yn ymwneud â merched gan gynnwys doethineb, cryfder ac egni benywaidd. Dwi’n ystyried y siap cylch yn bositif, heb gychwyn na diwedd, yn symbol o’r lleuad a phopeth mae hynna yn symboleiddio i ferched. Mae lliw coch y cylch a’r ffrâm yn rhoi balans i’r blodau coch ac hefyd wastad yn gysylltiedig â merched.” 

Mae’r gwaith yma yn rhan o Canfas, prosiect wedi ei arwain a’i reoli gan Galeri Caernarfon Cyf ac wedi'i ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig. Y cysyniad yw i roi cyfle i'r gymuned gyfan gofnodi ei hunaniaeth unigryw yng ngofodau a ffabric adeiladwaith tref Caernarfon, a chyfle i glywed lleisiau sydd efallai heb eu clywed o’r blaen. 

Meddai Gwyn Roberts o Galeri “Mae ein hanes wedi cael ei adrodd gan eraill ac mae hwn yn gyfle i gyfleu sut rydym ni yn gweld ein hunain mewn ffordd gweladwy, arloesol ac yn wahanol iawn. Nid yn unig edrych nol ar y gorffennol, ond bod yn hyderus mewn hunaniaeth cynwysiedig ag arloesol wrth ddychmygu'r dyfodol. Hefyd, mi fydd y prosiect yn gwella edrychiad a chodi ansawdd amgylcheddol y dref a chyflwyno golau, gwyrddni a natur i ofodau llwm, llwyd sydd wedi’u hesgeluso a’u anghofio.” 

Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo'r Cyngor ‘’Rydym yn falch iawn fel Cyngor o allu cynnig maes parcio Doc Fictoria i arddangos gwaith sy’n dathlu bywyd a hanes yr athrawes forwrol Ellen Edwards. Mae’n hynod gyffrous gweld y gwaith celf cyntaf yn rhan o’r prosiect arloesol Canfas gan Galeri yn dod â bywyd a lliw i’r adeilad amlwg hwn yng Nghaernarfon.” 

Cyllidwyd Arloesi Gwynedd Wledig drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.