Group Photo NPTC 25 May 2023

Mae Cultivate, menter gymdeithasol sy’n seiliedig ar fwyd yn y Drenewydd, yn rhedeg Hwb Bwyd caffael deinamig fel rhan o brosiect a reolir gan Social Farms and Gardens.

Nod y prosiect Hwb Bwyd yw dangos y gall y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol tra’n bod o fudd i’r amgylchedd lleol a helpu i gadw mwy o’r arian y mae pobl yn ei wario yn yr economi leol trwy brynu’n lleol. 

Er mwyn cefnogi’r Hwb bwyd ac annog mwy o gogyddion lleol o’r sector cyhoeddus i gymryd rhan yn y prosiect, bu Cultivate yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg NPTC, Y Drenewydd, i gynnal Gweithdy Hyfforddi Cogyddion yn y coleg ar 25 Mai 2023.

Mynychwyd y digwyddiad gan Ysgol Cedewain, Cartref Gofal Oaks a chynulleidfa Eglwys yr Holl Saint ochr yn ochr â staff y Coleg, staff Cultivate a’r Sefydliad Bwyd.

Roedd y gweithdy’n cynnwys Shaun Bailey, Prif Gogydd y Coleg, yn coginio seigiau blasu gan ddefnyddio saladau ffres, tymhorol a ddarparwyd gan dyfwyr yr Hwb Bwyd, Ash and Elm yn Llanidloes, a bwyty Upper Rectory yn Aberriw, Y Trallwng.

Yn ogystal â blasu’r bwyd blasus, bu Carwyn Graves, siaradwr allanol ac awdur cyhoeddedig y llyfr, “Welsh Food Stories”, yn rhoi sesiwn ryngweithiol i’r cyfranogwyr lle bu’n hysbysu pobl am lawer o draddodiadau hynafol ar draws y sector ffermio ym Mhowys a fwynhawyd gan bawb.

Dywedodd Sue Lloyd-Jones, Pennaeth Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth yng Ngholeg NPTC: 

“Cynhaliom ddigwyddiad gwych yn y Coleg fel rhan o’r prosiect Hwb Bwyd Cynaliadwy a fynychwyd gan gynrychiolwyr o gartrefi gofal, ysgolion ac eglwys. Diolch i bawb a ddaeth draw ac i’m cydweithwyr a fu’n coginio bwyd blasus gan ddefnyddio cynnyrch ffres, tymhorol.”

Dywedodd Richard Edwards, Uwch Reolwr Cultivate:

“Dim ond cyfran fach o’r holl fwyd rydyn ni’n ei fwyta y mae Cymru’n ei gynhyrchu, ac mae hyn yn arbennig o wir am ffrwythau a llysiau. Daeth nifer dda i’r gweithdy ar gyfer cogyddion yn y sector cyhoeddus ac ro0eddem am ysbrydoli pobl oedd yn bresennol gyda bwyd tymhorol wedi’i goginio’n ffres a straeon am fwyd traddodiadol Cymreig. Ar gefn y gweithdy, mae gennym ddau gwsmer arall wedi cofrestru mewn egwyddor i gaffael o’n Hwb Bwyd a thrwy hynny gyflenwi bwyd lleol, tymhorol a maethlon tra’n cefnogi ein tyfwyr lleol. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i drefnu’r gweithdy.”

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i dreialu dwy ganolfan caffael bwyd newydd yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Powys.

Am ragor o wybodaeth am yr Hwb Bwyd ac i gael mynediad at fwyd ffres lleol, cysylltwch â nickb@cultivate.uk.com

Delicious local food samples!