Matthew Evans a Rosie Wright milfeddygon yn Fenton Vets Sir Benfro

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl arall i’w ddarpariaeth o weithdai hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid (AH&W) sydd wedi’u hariannu’n llawn. 

Bydd ‘Gwella perfformiad ŵyn ar ôl diddyfnu’ yn cael ei gyflwyno o ddechrau mis Ebrill, gan ddod â chyfanswm y pynciau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i 16. 

Mae holl gynnwys y cwrs AH&W Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd gyda NADIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Genedlaethol ar gyfer Clefyd mewn Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru. Bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai ar ffurf gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr), neu ar-lein.

Esbonia Matthew Evans o Fenton Vets yn Sir Benfro, un o’r practisau a fydd yn darparu’r hyfforddiant, mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu pob ffermwr defaid i wella a chynnal perfformiad a chynhyrchiant anifeiliaid. 

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar atal clefydau ac ymwybyddiaeth ohonynt, yn ogystal â phwysigrwydd cadw cofnodion, er mwyn asesu perfformiad ŵyn a helpu penderfyniadau cynhyrchu a rheoli,” dywedodd Mr Evans.

Bydd y gweithdy’n canolbwyntio’n bennaf ar reoli’r broses o ddiddyfnu, adnabod a rheoli clefydau heintus, rheoli parasitiaid a maetheg – ond bydd cynllunio iechyd, bioddiogelwch a’r defnydd cyfrifol o wrthfiotigau a meddyginiaethau gwrthlyngyr hefyd yn ffurfio rhan annatod o bob gweithdy.  

“Mae arnom angen i bob ffermwr ddeall prif egwyddorion economeg magu ŵyn ar gyfer pesgi neu fridio a’r pwysigrwydd o bwyso ŵyn a sgorio cyflwr corff mamogiaid er mwyn helpu penderfyniadau diddyfnu. 

“Bydd yr hyfforddiant hwn yn cwmpasu’r holl ffactorau allweddol a ddylai gael effaith ar unrhyw benderfyniadau a wneir ynglŷn â rheoli’r broses ddiddyfnu, er weithiau y bydd angen i’r rhain amrywio bob blwyddyn yn ôl cyflwr corff mamogiaid, argaeledd porthiant a chyfraddau twf ŵyn, gan helpu’r ffermwyr i osod targedau realistig.” 

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn darparu’r modiwlau hyfforddiant AH&W hyn ac ar gyfer lleoliadau a dyddiadau, ewch i adran sgiliau a hyfforddiant www.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.