Cows

Mae ADAS wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’r cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG). Nod y gwerthusiad hwn yw cwblhau asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith y cynllun fel rhan o Raglen Datblygu Gwledig Cymru (RDP) 2014-2020 yn ogystal â nodi canfyddiadau allweddol a fydd yn helpu i ffurfio’r sylfaen dystiolaeth i lywio penderfyniadau ar gynlluniau yn Nghymru yn y dyfodol.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd ADAS yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar y we i gael dealltwriaeth o'ch barn a'ch profiad o'r cynllun, eich prosiect SPG, a'i ganlyniadau a'i effeithiau.

Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech gymryd rhan a rhoi eich adborth, eich meddyliau a'ch barn.

Buddiolwyr (h.y. dyfarnwyd grant) y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy: https://adas-survey.onlinesurveys.ac.uk/spg-beneficiary-survey_welsh

Dylai'r arolwg gymryd tua 15-20 munud o'ch amser. Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn wirioneddol bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru gan fod eich mewnbwn yn darparu sylfaen dystiolaeth hollbwysig ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.

Mae’r arolwg wedi’i greu i fod mor hygyrch â phosibl a darperir datganiad hygyrchedd yn yr arolwg. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau gyda hygyrchedd wrth gwblhau'r arolwg, rhowch wybod i ni. Mae’r arolwg ar gael yng Nghymraeg ac yn Saesneg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Rheolwr y Prosiect Yiying Cao. Cyfeiriad e-bost: yiying.cao@adas.co.uk neu Rhif ffôn: 07774 435 762.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddwn ni ac ADAS yn trin eich data, gweler:
https://adas-survey.onlinesurveys.ac.uk/gwerthusiad-or-grant-cynhyrchu-cynaliadwy-arolwg-ymgeis