
Cafodd aelodau Rhwydwaith Gwledig Cymru eto’r fraint o fod yn rhan o ddathliadau un o raglenni LEADER ddydd Mercher 14 Mehefin.
Y tro hwn, roeddynt yng Ngheredigion lle’r oedd Cynnal Y Cardi yn dathlu llwyddiant eu prosiectau a ariannwyd gan LEADER mewn seremoni wobrwyo.
Mae LEADER yng Ngheredigion wedi ei arwain gan Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi ers 2007. Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o dri sector – y sector preifat, y sector cymunedol, a’r sector cyhoeddus. Diben hynny yw sicrhau cynrychiolaeth eang a chytbwys o fuddiannau.
Ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, bu Partneriaeth Adfywio Economaidd Ceredigion yn llwyddiannus yn eu cais i sefydlu rhaglen LEADER yng Ngheredigion, gan sicrhau £2.5 miliwn o gyllid. Dewiswyd Cyngor Sir Ceredigion yn gorff gweinyddu ar gyfer y rhaglen.
Ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Lleol Ceredigion, a chynhyrchwyd Strategaeth Datblygu Lleol er mwyn arwain y rhaglen LEADER.
Ar gyfer cyfnod rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, llwyddodd Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi £3.45 miliwn o gyllid i gyflawni ei raglen LEADER hyd at 2020. Datblygwyd Strategaeth Datblygu Lleol ar gyfer Rhaglen LEADER 2014-2020, a gafodd ei gweinyddu unwaith eto gan Gyngor Sir Ceredigion.
Mae cyfanswm o fwy na 100 o brosiectau, 9 prosiect cydweithredol, a gweithgareddau animeiddio amrywiol wedi eu cyllido yn ystod cyfnod y rhaglen hyd yma, gyda gwaith yn parhau hyd at ddiwedd cyfnod y rhaglen.
Y Gwobrau
Roedd pum categori ar gyfer y gwobrau, a lluniodd panel annibynnol restr fer o dri phrosiect ar gyfer pob categori.
Gwobr Gweithio o’r Gwaelod Lan
Dewisodd y panel Cynnal Llanddewi Brefi fel enillydd y categori hwn.
Gwobr Grymuso’r Gymuned
Dewiswyd Oergell Gymunedol Aberporth fel enillydd y categori hwn.
Gwobr Meddwl tu fas i’r Bocs
Yr enillydd yn y categori hwn oedd Technoleg ‘Rhyngrwyd y Pethau’ Aberteifi
Gwobr Gadael Gwaddol
Tafarn y Dyffryn gafodd y wobr.
Gwobr ‘Ymateb i’r Oes’
Clera oedd yr enillydd yn y categori hwn.
Roedd un wobr arall – Gwobr Ysbrydoliaeth Cynnal y Cardi – dewis y bobl.
Y prosiectau ar y rhestr fer oedd –
- Cegin Prydau Plant - Jigso
- Clera
- Cymunedau Caredig – Arts 4 Wellbeing
- Dyma Ni
- Gofal Cardi
- Mynyddoedd Cambria
- Oergell Gymunedol Aberporth
- Cynnal Llanddewi Brefi
- Tafarn y Dyffryn
- Technoleg ‘Rhyngrwyd y Pethau’ Aberteifi
Enillydd olaf y noson, yn derbyn Gwobr y Bobl oedd Oergell Gymunedol Aberporth.
Cipolwg yn unig yw’r prosiectau hyn a gyrhaeddodd restr fer y gwobrau o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud mewn cymunedau diolch i raglen LEADER.
Llongyfarchiadau mawr i bawb!