Pictured at the Winter Fair in Builth Wells, Welsh Government Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths launches the Wales Farm Safety Partnership's new farm safety campaign to help keep young children safe on Welsh farms.

Yn ystod y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd, lansiodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, ymgyrch gyhoeddusrwydd ddwyieithog newydd am ddiogelwch ar y fferm, gan dargedu plant cynradd yng Nghymru. 

Cynhyrchwyd fideo fer a dau lyfr gwaith A4 lliwgar ar gyfer plant rhwng pedair a saith oed a rhwng saith ac un-ar-ddeg oed gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), sef trefniant cydweithredu rhwng rhai o'r prif sefydliadau rhanddeiliaid gwledig yng Nghymru, a bydd y rhain yn annog y grwpiau oedran hyn i ddysgu am bwysigrwydd diogelwch ar y fferm a diogelu eu hunain rhag rhai o'r peryglon mwyaf cyffredin ar ffermydd. 

Mae peryglon cerbydau sy'n symud, cwympo o uchder, tanciau slyri a mynd yn rhy agos i anifeiliaid yn ychydig o'r meysydd 'risg uchel' a amlygir yn yr ymgyrch newydd, lle y caiff ffeithiau ergydiol eu deall yn hawdd trwy gyfrwng y fideo diddorol iawn a llawn gwybodaeth, yn ogystal â'r posau, y chwileiriau a'r cwisiau yn y llyfr gwaith. Bydd pob llyfr gwaith yn cynnwys 'Cynllun argyfwng diogelwch fferm' hefyd, a fydd yn annog plant i eistedd i lawr gydag aelodau hŷn o'r teulu i lenwi hwn a'i ddangos mewn man amlwg, a fydd yn ffordd ddyddiol o'u hatgoffa 'sut i gadw'n ddiogel'.

Esboniodd y Gweinidog, a gyflwynwyd gan y cyflwynydd teledu adnabyddus a chennad WFSP, Alun Elidyr, er bod ffermydd yn gallu bod yn ffynhonnell dysgu gwych, gan ysbrydoli a hysbysu plant a phobl ifanc i ddysgu o ble y daw eu bwyd ac i barchu anifeiliaid a byd natur, ei bod yn hanfodol eu bod yn ymwybodol o'r peryglon niferus hefyd.

“Mae ffermydd yn fannau hyfryd i fagu plant ac maent yn cynnig profiadau gwych iddynt. 

“Fodd bynnag, gall ffermydd fod yn fannau peryglus hefyd, ac mae'n drasig bod damweiniau sy'n cynnwys plant yn digwydd o hyd ar ffermydd yma yng Nghymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn – ac mae pob un ohonynt yn drasiedi torcalonnus sy'n gallu distrywio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau gwledig.

“Mae'n hanfodol ein bod oll yn cydweithio i wneud popeth y gallwn i godi ymwybyddiaeth o'r pwnc pwysig hwn ymhlith plant ifanc a'u teuluoedd, felly rydw i'n falch iawn o lansio'r adnoddau newydd pwysig hyn ar gyfer ein plant cynradd,” dywedodd y Gweinidog.

Diolchodd Alun Elidyr i'r Gweinidog am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru tuag at Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wrth i'r diwydiant weithio gyda chymunedau, rhanddeiliaid a theuluoedd er mwyn ceisio creu ymwybyddiaeth a lleihau'r ystadegau torcalonnus sy'n dinistrio teuluoedd amaethyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.