FC Mentors

Prosesu bwyd a chigyddiaeth, trin cŵn defaid, gwinwyddaeth a ffermio adfywiol – yn rhaglen gyfredol Cyswllt Ffermio – mae mentoriaid cymeradwy yn cynnig cymorth un-i-un wedi’i ariannu’n llawn ar ystod gynyddol eang o bynciau.

“Roedd derbyn arweiniad un-i-un cyfrinachol a safbwynt diduedd gan fentor profiadol sy’n fodlon rhannu eu profiadau personol ‘da a drwg’, wedi fy arbed rhag gwneud rhai camgymeriadau costus iawn.”

Yw geiriau un o fentoreion Cyswllt Ffermio sydd wedi manteisio ar raglen fentora Cyswllt Ffermio. Wedi'i lansio yn 2016, mae'r gwasanaeth wedi darparu mwy nag 8,000 o oriau o fentora hyd yma.

Mae Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora Cyswllt Ffermio, yn priodoli poblogrwydd y rhaglen i sgiliau a phrofiad mentoriaid cymeradwy, ac mae pob un ohonynt mewn sefyllfa dda i gynnig cefnogaeth gyfrinachol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at y rhai sydd angen ail farn.

“Mae’r galw am y rhaglen fentora wedi cynyddu’n sylweddol wrth i’r diwydiant wynebu heriau economaidd ac amgylcheddol digynsail, a dyna pam yn y rhaglen gyfredol, rydym wedi casglu tîm o fwy na 100 o fentoriaid wedi’u lleoli ledled Cymru,” meddai Ms Davies.

Bydd y rhestr bresennol o fentoriaid yn cael eu hadolygu yn barod ar gyfer dechrau'r rhaglen newydd ym mis Ebrill.

“Rhaid i’r rhai sy’n gobeithio parhau yn eu rôl fel mentor hysbysu Cyswllt Ffermio ac adolygu eu proffil mentor, ac rydym hefyd yn agored i unigolion profiadol eraill ymgeisio, rhai sy’n hapus i rannu eu gwybodaeth, yn enwedig ar unrhyw bynciau nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes.

“Bydd dewis y mentor cywir nid yn unig yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu eich hun wrth i chi wrando, dysgu a chyfnewid barn, ond fe’ch anogir i ystyried ffyrdd newydd o ddod o hyd i atebion i unrhyw heriau y gallech fod yn eu hwynebu neu drafod syniadau rydych am eu datblygu,” meddai Ms. Davies.

Dywedodd Ms Davies fod mwy nag 800 o fentoreion wedi elwa o'r rhaglen yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

“Pan ofynnwyd iddynt roi adborth, dywedodd bron pob un o’r mentoreion fod cael mentor yn egluro beth oedd wedi gweithio allan yn dda iddynt yn eu busnes eu hunain, yn ogystal ag amlygu’r peryglon posibl, wedi arbed camgymeriadau costus iddynt.”

Mae'n ofynnol i bob mentor cymeradwy fod yn wrandawyr da yn ogystal â chyfathrebwyr da - mae hanner y tîm yn cynnig gwasanaeth dwyieithog - ac mae gan bob un y lefel angenrheidiol o brofiad personol neu gymwysterau o fewn eu dewis feysydd. Ymhlith y pynciau sydd ar gael mae cymorth TGCh a all amrywio o gynorthwyo ffermwyr sydd am fynd i’r afael â ‘gwneud treth yn ddigidol’, cadw cofnodion ar-lein a llenwi ffurflenni i reoli da byw a thir; busnes a rheolaeth ariannol; cyfryngau cymdeithasol a marchnata.

“Mae prosesu bwyd a chigyddiaeth, trin cŵn defaid, cneifio, ffermio adfywiol, bioleg pridd a dylunio mewnol ar gyfer prosiectau twristiaeth amrywiol newydd ymhlith y meysydd mentora llai ‘nodweddiadol’ fel iechyd anifeiliaid, rheoli pridd a glaswelltir, lle’r ydym ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau bron yn ddyddiol am y math hwn o gefnogaeth,” ychwanegodd Ms Davies.

Bydd gwasanaeth mentora Cyswllt Ffermio yn parhau i ddarparu hyd at 15 awr o gymorth un-i-un wedi’i ariannu’n llawn sydd ar gael i bob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae cyfeiriadur ar-lein yn rhestru sectorau allweddol a hyd at chwe maes arbenigol o wybodaeth ar gyfer pob mentor. Mae'r gwasanaeth ar gael ledled Cymru naill ai wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac mae’n rhaid gwneud cais am y gwasanaeth ymlaen llaw drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein sydd ar gael yn www.llyw.cymru/cyswlltffermio

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â’r tîm o fentoriaid o 01.04.2023 ymlaen fynd i https://menterabusnes.cymru/jobs/farming-connect-mentor/ i gael manyleb swydd a ffurflen gais. Fel arall cysylltwch ag Owain Rowlands ar 07399 849151 neu e-bostiwch owain.rowlands@menterabusnes.co.uk  gydag unrhyw gwestiynau pellach.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.