WCFD - PLANED - PR

Mae Dosbarthiad Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD), a arweinir gan PLANED, yn falch iawn o gefnogi lansiad Hwb Bwyd Cymunedol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin.

Wedi’i sefydlu gan y Tîm Ymgysylltu Dinesig a gwirfoddolwyr yn y Brifysgol, hwn fydd y pumed Hwb Bwyd yng ngorllewin Cymru a gefnogir fel rhan o’r prosiect WCFD, a’r cyntaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn prynu bwyd ffres, sydd â gwerth gwych am arian. 

Bydd yr hwb bwyd yn PCYDDS Caerfyrddin yn lansio ddydd Mercher 1 Mawrth am 12:00 y tu allan i Fwyty Merlin ac mae gwahoddiad agored i bawb ddod draw ar y diwrnod i gwrdd â'r tîm.

Bydd yr Hwb Bwyd Cymunedol yn PCYDDS Caerfyrddin yn cael ei gynnal yn wythnosol wedyn ar ddydd Iau rhwng 12-2pm, ac i ddechrau, bydd yn cynnig llysiau, ffrwythau a salad ffres i'w harchebu.

Dywedodd Laura Cait, Swyddog Datblygu Ymgysylltiad Dinesig: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r fenter hwb bwyd, gan ei fod yn galluogi’r gymuned leol, trigolion a myfyrwyr, i fanteisio ar ffrwythau a llysiau organig gwerth gwych am gost fforddiadwy." 

Ychwanegodd “rydym mor falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â PLANED ar y prosiect hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar fwy o brosiectau fel hyn o bosib yn y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd i bob cymuned o amgylch ein campysau.” 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/