Vets with pigs

Mae milfeddygon Cymru newydd gwblhau elfennau olaf cwrs hyfforddi iechyd a lles moch a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr milfeddygol proffesiynol.

Dan arweiniad Menter Moch Cymru, gan weithio gyda Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC), Iechyd Da, a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid, mae'r amserlen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) wedi cynnwys cymysgedd o ddiwrnodau ymarferol a darlithoedd.

Dechreuodd y rhaglen hyfforddi ddwys chwe diwrnod ym mis Mai. Fe’i cyflwynwyd gan y milfeddyg moch arbenigol Dr Annie Davis o George Veterinary Group, ynghyd â llu o siaradwyr gwadd arbenigol, ac ychwanegwyd at sesiynau ymarferol gan ymweliadau ag unedau moch awyr agored a dan do.

Ymhlith y pynciau a drafodwyd dros y pum mis diwethaf mae fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, gwyliadwriaeth clefydau, maeth, proffilio a chynllunio iechyd clinigol, AI, hwsmonaeth a rheolaeth, samplu gwaed, a defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod olaf yr hyfforddiant yn y WVSC yn Aberystwyth, ac roedd dau ddiwrnod olaf yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar bost-mortem moch ac ail ran elfen Cynllunio Iechyd Moch y cwrs. Cyfunwyd theori post-mortem moch ag archwiliadau ymarferol, ac roedd yr hyfforddiant cynllunio iechyd yn cwmpasu meysydd a oedd yn cynnwys cynllunio iechyd pwrpasol, dulliau perfformiad, a datblygiadau arloesol yn y dyfodol.

Dywedodd Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, Elin Haf Jones, “Mae’r hyfforddiant DPP wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg y milfeddygon, gydag adborth cadarnhaol iawn. Mae’r chwe sesiwn hyfforddi wedi eu galluogi i ehangu eu gwybodaeth broffesiynol a rhoi’r cyfle iddynt wneud gwaith ymarferol gyda moch.”

Yn eu hadborth, canmolodd milfeddygon yr hyfforddiant DPP a roddwyd am gynyddu eu gwybodaeth a’u hyder:

“Sesiynau theori ac ymarferol gwych a oedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau y gellir eu cymhwyso yn ymarferol o ddydd i ddydd.”

“Cydbwysedd da o elfennau damcaniaethol ac ymarferol gydag ymweliadau diddorol iawn ar ffermydd.”

“Cwrs ardderchog a oedd yn ymdrin ag ystod o bynciau. Roedd yr ymweliadau fferm yn wych ar gyfer sgiliau ymarferol ac ennill gwybodaeth ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.”

“Llawer o wybodaeth, i gyd yn ddefnyddiol ac yn dal i fod yn awyrgylch hamddenol iawn.”

“Sesiwn DPP bleserus ac ymarferol iawn sydd yn bendant wedi gwella fy hyder gyda moch.”

Dywedodd Ymchwilydd Clefyd Milfeddygol a Rheolwr Patholeg WVSC, Dr Beverley Hopkins, “Dyma'r DPP moch mwyaf defnyddiol ac ymarferol i filfeddygon dan hyfforddiant yr wyf wedi'i fynychu. Roedd yn bleser trefnu’r cwrs hwn mewn cydweithrediad â Menter Moch Cymru ac mae’r adborth gan y rhai a fynychodd wedi bod yn wych.”

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Pig and piglets