Welsh Countryside

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth cyflogedig yng Nghymru (gan gynnwys gweithwyr a gyflogir gan gangfeistri ac asiantaethau cyflogaeth) hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol. 

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn disodli Gorchymyn 2023 sy’n golygu o 1 Ebrill 2024 ymlaen:

  • Bydd cyfraddau isafswm cyflog uwch ar gyfer pob gradd o weithiwr. 
  • Bydd yr holl lwfansau (gan gynnwys lwfansau cŵn) yn cael eu cynyddu 8.5%.
  • Bellach mae’r gyfradd goramser 1.5 gwaith yn fwy na chyfradd wirioneddol y gweithiwr amaethyddol fesul awr, yn hytrach na chyfradd fesul awr yr isafswm cyflog amaethyddol.

Mae’r bandiau oedran yng Ngraddau A a B y Gorchymyn wedi'u diwygio yn unol â’r newidiadau a wnaed mewn perthynas â’r Cyflog Byw Cenedlaethol y’i telir yn awr i weithwyr 21 oed a hŷn.

Argymhellwyd y cynnydd mewn cyfraddau cyflog gan Banel Cynghori Amaethyddol (PCA) Cymru, corff annibynnol a gadeirir gan Dr. Nerys Llewelyn Jones. Mae’r panel, sydd wedi bod yn weithredol ers 2016, yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Unite a thri aelod annibynnol. 

Yn ystod yr wyth mis diwethaf, bu aelodau’r PCA yn cynnal trafodaethau ar y newidiadau i gyflogau a thelerau ac amodau o dan y Gorchymyn. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid y diwydiant ar ei gynigion drafft cyn cynghori Gweinidogion Cymru ar argymhellion y Panel ar gyfer trefniadau isafswm cyflog a thelerau ac amodau cyflogaeth newydd i bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Tynnodd aelodau’r Panel ar eu harbenigedd a’u hystyriaeth o’r amodau economaidd yn y diwydiant adeg yr ymgynghoriad, yn ogystal â ffactorau allanol megis y newidiadau i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Wrth groesawu'r Gorchymyn newydd, dywedodd Dr. Nerys Llewelyn Jones:

“Mae’r trefniadau newydd yn sicrhau bod pob gweithiwr amaethyddol yn cael cyflogau, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg, a gaiff eu hadolygu’n rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda iechyd a lles Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

“Bydd y Gorchymyn yn helpu i sicrhau bod gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yn cael eu hystyried yn ddewisiadau hyfyw a chynaliadwy ar gyfer gweithwyr presennol a darpar weithwyr, a thrwy osod canllawiau clir i gyflogwyr, bydd Gorchymyn newydd Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i annog datblygu a chadw gweithlu sydd â sgiliau priodol yng Nghymru.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod cyflogwyr yn trin pob gweithiwr yn briodol, gan gynnwys gweithwyr fferm a phrentisiaid sy’n gweithio yn y sector.

“Mae’n drosedd peidio â thalu o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol i bob gweithiwr amaethyddol ac mae’n rhaid i bob cyflogwr gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng Ngorchymyn 2024,” meddai Dr. Jones.  

Mae’r cyfraddau isafswm cyflog a lwfansau a’r holl delerau ac amodau gofynnol eraill y mae gan weithwyr amaethyddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y sectorau garddwriaeth a choedwigaeth, hawl iddynt yn ôl y gyfraith wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024. Mae gwybodaeth ac arweiniad manylach ar gael ar:

  1. https://www.llyw.cymru/y-panel-cynghori-ar-amaethyddiaeth-cymru
  2. https://www.llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol-cyfraddau-tal-isaf