Maesycilyn across Cors Fawr Bwlch Corog

Elusen yw Coetir Anian sy’n rheoli safle 350 erw, Bwlch Corog, ger Glaspwll. Yno, mae’n adfer rhostir a chors a chynyddu gorchudd coed brodorol, yn ogystal â chynnal gweithgareddau addysg a lles i gymunedau lleol. 

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Eglura Swyddog y Prosiect, Nia Huw, “Roedd Bwlch Corog yn ddarn o dir segur. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae prosiect Coetir Anian wedi ei adfer i reolaeth gadarnhaol sy’n gynnwys pori. Mae’r elusen yn dod â thua £200,000 bob blwyddyn i’r economi leol, gan greu swyddi a gwaith contract a dod o hyd i ddeunyddiau’n lleol. Ein nod yw darparu buddion nid yn unig i fywyd gwyllt ond hefyd i bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal.”

Nant y Castell

Mae'r tir sy’n ffinio â Bwlch Corog, Maesycilyn, yn blanhigfa goedwigaeth fasnachol 950 erw sy'n eiddo i'r cwmni buddsoddi Gresham House ac a reolir gan y cwmni coedwigaeth adnabyddus Tilhill. 

Mae cynllun drafft wedi'i wneud ar gyfer rheoli Maesycilyn fel rhan o'r broses o ardystio ei fod yn cael ei reoli'n gynaliadwy drwy’r ‘UK Woodland Assurance Standard.’ Fel cymydog, ymgynghorwyd â’r elusen ar y cynllun drafft, ac maent yn teimlo’n gryf y dylid cynnwys barn y gymuned leol yn eu hymateb i Tilhill.

Mae'r cynllun drafft ar gyfer Maesycilyn yn dangos cynllun torri coed ynghyd â'r rhywogaethau arfaethedig ar gyfer ailblannu'r ardaloedd cwympo coed am y cyfnod 2021-2041. Bydd yr ailblannu bron yn gyfan gwbl â rhywogaethau conwydd masnachol, pyrwydden Sitca yn bennaf.

Cyniga Coetir Anian integreiddio mwy o gynefinoedd naturiol i’r cynlluniau ar gyfer Maesycilyn, o ystyried ei leoliad ochr yn ochr â Chwm Llyfnant, sy’n safle gwarchodedig, a gyda thri eiddo cyfagos o amgylch y goedwigaeth sydd â diddordeb mewn ffermio adfywiol a chadwraeth natur. 

Yn ogystal â Bwlch Corog, mae’r cymdogion yn cynnwys gwarchodfa Dynyn sy’n eiddo preifat a gwarchodfa Allt Ddu yr RSPB, ill dau’n cael eu rheoli â phori cadwraethol. Mae Maesycilyn yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at fywyd gwyllt a hamdden lleol trwy alluogi cysylltedd ar draws y dirwedd.

Cynigion yr elusen yw:

  • Adfer ardaloedd Coetir Hynafol yn nalgylch Llyfnant i goetir brodorol.
  • Cynyddu coetir neu rostir brodorol, naill ai ar draws y safle cyfan, neu mewn rhai ardaloedd megis ger cyrsiau dŵr a pharthau terfyn y goedwigaeth.
  • I alluogi cysylltedd trwy Faesycilyn, neu ran ohono, i lysysyddion deithio rhwng y tri eiddo arall.
Maesycilyn neighbouring properties map

Nid yw'r cynnig yn effeithio ar y cynllun torri coed ar gyfer y clystyrau presennol o goed conwydd, felly ni fyddai'n effeithio ar gynhyrchu pren am 30 i 40 mlynedd. Y syniad yw ailstocio trwy aildyfiant naturiol ac integreiddio pori yn raddol, dros rywfaint, neu'r cyfan o dir y goedwigaeth.

Hoffai Coetir Anian glywed barn pobol leol ardal Glaspwll a Machynlleth. Beth yw eich barn am y syniadau ar gyfer adfer cynefinoedd? A ydych yn ystyried y dylid cynnal cynhyrchiant pren i’r eithaf ym Maesycilyn yn y tymor hir? Hoffech chi weld rhywbeth rhwng y ddau â rheolaeth ar gyfer coed a bywyd gwyllt ochr yn ochr, ac ym mha gyfrannau?

Dywedodd Nia Huw, “Mae gan bobl gysylltiad cryf â’u tirwedd leol, ac mae angen i’w barn gael ei hystyried gan sefydliadau mawr sy’n berchen tir.”

I rannu eich barn cysylltwch â post@coetiranian.org Bydd ymatebion yn cael eu cynnwys yn ymateb Coetir Anian i’r cynllun drafft ar gyfer Maesycilyn.