
Aelodau o Rwydwaith Gwledig Cymru yn mynychu digwyddiad diwedd y rhaglen yn Abertawe.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn The Purple Badger sydd wedi'i leoli yng ngogledd ardal hardd Gŵyr.
Yn Abertawe darparodd y Cynllun Datblygu Gwledig y rhaglen LEADER a oedd dan arweiniad y gymuned mewn wyth ward gwbl gymwys; Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Penclawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard, a Gŵyr; a chefnogwyd y rhaglen yn rhannol yn nhair ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thregŵyr.
Mae Abertawe wedi cyllido dros £1 filiwn drwy'r rhaglen LEADER, gan wneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau gwledig a'r bobl sy'n byw ynddynt.
Mynychwyd y digwyddiad gan aelodau o'r Grŵp Gweithredu Lleol, buddiolwyr y prosiect a Chynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Abertawe.
Rhannodd buddiolwyr megis Prosiect Bioamrywiaeth Mawr hanesion o lwyddiant â ni. Nod y prosiect oedd cynyddu'r fioamrywiaeth a gwella gwydnwch ecosystemau yn Ffordd Ellen yng Nghraig Cefn Parc a Maes Garnswllt, Garnswllt.
Nodwyd y ddwy ardal hon i'w datblygu a'u trawsnewid, er budd y cymunedau lleol drwy ddarparu ardaloedd gwyrdd sy'n hygyrch i bawb i fwynhau'r byd natur sydd ar garreg eu drws.
Defnyddiwyd y cyllid i gyflogi cydlynydd prosiect a fydd yn goruchwylio'r gwaith o redeg Prosiect Bioamrywiaeth Mawr/Mawr Biodiversity Project a datblygu'r tir yn ardaloedd natur at ddibenion addysg, hamdden, ymlacio a chymdeithasu ar gyfer cymunedau Craig Cefn Parc a Garnswllt.
Mae'r prosiect yn parhau i fynd o nerth i nerth a gobeithio y bydd ei waith yn parhau drwy gynlluniau grantiau eraill.
Yn y digwyddiad cawsom glywed gan unigolion polisi ac edrychwyd ar gyfleoedd cyllido ar gyfer ardaloedd gwledig yn y ward yn y dyfodol a phwysigrwydd Abertawe fel cyrchfan twristiaeth.
Yn olaf, cafodd neges bwysig ei rhannu drwy fideo i godi ymwybyddiaeth am gymorth iechyd meddwl a chymryd y camau tuag at normaleiddio cael sgyrsiau am lesiant.
Prosiect hanesion llafar y RhDG: 'Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr'
Mae'r prosiect yn archwilio'r llwyddiannau yn ogystal â'r heriau a'r brwydrau o fewn y sector, gan gyffwrdd â phynciau y mae llawer yn eu hystyried yn anodd eu harchwilio.
Mae'r prosiect yn codi ymwybyddiaeth am gymorth iechyd meddwl ac yn cymryd y camau tuag at normaleiddio cael sgyrsiau am lesiant.
Fel adnodd defnyddiol mae'r prosiect wedi cynhyrchu cyfeiriadur iechyd meddwl sy'n cynnwys rhifau a gwybodaeth ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector ffermio, ac a allai fod angen cymorth arnynt.