Enillwyr Gwobrau Cynnal y Cardi Awards Winners

Mae rhai o brosiectau a gwirfoddolwyr ysbrydoledig Ceredigion wedi derbyn clod yn seremoni wobrwyo yn Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar. 

Nos Fercher, 14 Mehefin 2023, roedd Neuadd y Celfyddydau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn llawn ar gyfer digwyddiad i ddathlu llwyddiant prosiectau a dderbyniodd gefnogaeth gan cynllun Cynnal y Cardi. Ariennir rhaglen LEADER Cynnal y Cardi drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Oergell Gymuendol Aberporth ddaeth i’r brig ym mhrif wobr y noson, gan iddynt ennill categori barn y bobl am y prosiect mwyaf ysbrydoledig. Ymysg yr enillwyr eraill oedd cwmni theatr Arad Goch, tafarn gymunedol y Vale, Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi a Chyngor Tref Aberteifi.

Roedd hwn yn ddathliad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ceredigion a CAVO, oedd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr y sir.

Aeth mwy nag un o Wobrau Gwirfoddoli Ceredigion i ardal Aberporth hefyd, gyda thasglu’r Oergell Gymunedol yn cipio gwobr y tîm o wirfoddolwyr, a Beryl Green yn cael ei chydnabod am ei gwaith diflino a’i hegni fel ymddiriedolwr. 

Bu’n noson ysbrydoledig, ac yn gyfle i glywed stori mentrau a chymdeithasau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned, yr economi neu’r amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio:

“Yn y seremoni, cawsom siawns i ddiolch i’r mudiadau yma ac i longyfarch y rhai a ddaeth i’r brig gyda’u prosiectau a’r unigolion oedd yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith gwirfoddol. Roedd yna gynrychiolaeth o bob rhan o Geredigion hefyd – pobl o wahanol fudiadau yn adlewyrchu cyrhaeddiad rhaglen Cynnal y Cardi dros y blynyddoedd. Mudiadau ac hefyd unigolion sydd wedi ychwanegu at eu cymunedau, i helpu cadw gwraidd a gwead eu cymunedau yn eu lle.

"Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd wobr a diolch i’r holl fudiadau a fanteisiodd i’r eithaf ar raglen Cynnal y Cardi, a diolch i staff Cynnal y Cardi Cyngor Sir Ceredigion a staff CAVO am y gwaith.”

Dyma’r prosiectau ddaeth i’r brig yng ngwobrau Cynnal y Cardi:

  • Gwobr ‘Gweithio o’r Gwaelod Lan’: Cynnal Llanddewi Brefi - Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi
  • Gwobr ‘Grymuso’r Gymuned’: Oergell Gymunedol Aberporth
  • Gwobr ‘Meddwl tu fas i’r Bocs’: Technoleg ‘Internet of Things’ (IoT) Aberteifi
  • Gwobr ‘Gadael Gwaddol’: Tafarn y Dyffryn
  • Gwobr ‘Ymateb i’r Oes’: Clera – Arad Goch
  • Gwobr Ysbrydoli Cynnal y Cardi: Barn y Bobl: Oergell Gymunedol Aberporth

Dyma’r sawl dderbyniodd Wobrau Gwirfoddoli Ceredigion:

  • Cyflawniad Eithriadol: Carol Bainbridge o’r Borth
  • Cydlynydd Gwirfoddolwyr: Gwyneth Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Tîm o Wirfoddolwyr: Tasglu Oergell Gymunedol Aberporth 
  • Person Ifanc: Scarlett Walker, RAY Actif
  • Ymddiriedolwr: Beryl Green o Aberporth