image of child's hand drawing a colourful picture of fruit and vegetables

A hoffech chi wybod mwy am bartneriaethau bwyd a/neu fod yn rhan o Rwydwaith Bwyd Sir Benfro? 

Mae PLANED, PAVS a Chyngor Sir Benfro yn cydweithio i ddod â Phartneriaeth Bwyd Lleol i chi i Sir Benfro.

Yr amcanion yw adeiladu gwydnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol trwy gydgysylltu gweithgareddau sy’n ymwneud â bwyd yn well, gan greu system leol fwy cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

Mae partneriaid wedi sicrhau cyllid gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu partneriaeth bwyd lleol ledled y sir. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi cydweithio rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol, i ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector a chryfhau partneriaethau bwyd presennol yn y rhanbarth.

Mae’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn cynnwys cyfle i gwrdd â chyflenwyr y peiriannau gwerthu bwyd ffres yn Llanteg ar 22 Medi, digwyddiadau rhwydweithio i dyfwyr, y Brecwast Rhwydwaith Bwyd Sir Benfro ar 31 Hydref a llawer mwy....

Mae hefyd yn destun cyffro i'r Bartneriaeth gyhoeddi Cronfa Datblygu Bwyd arbenigol newydd gyda chyfleoedd am grantiau’n amrywio o £1000 i £3000. 

Os hoffech wybod mwy, ymunwch â’r rhestr bostio a/neu dewch yn rhan o Rwydwaith Bywyd Sir Benfro, cysylltwch drwy WCFD@Planed.org.uk neu 01834 860965.