Community food vending machine

Mae tîm bwyd PLANED wedi gweithio’n ddiflino ar brosiect peilot dros y naw mis diwethaf i gyflwyno’r peiriannau bwyd ffres cyntaf i’r sir.  Mae dau beiriant gwerthu bwyd ffres 24/7, cwbl weithredol, bellach yn gwerthu cynnyrch lleol dan y faner “Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro”.

Llwyddodd PLANED i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn hyrwyddo argaeledd a chyflenwad cynnyrch lleol, o safon, i bawb, a hynny am bris teg sydd o fudd i bobl leol, yn ogystal â’r incwm ychwanegol a gynhyrchir ar gyfer busnesau a mentrau lleol i’w ail-fuddsoddi, ac o bosib, ehangu.

Mae’r ddau beiriant wedi’u lansio’n swyddogol dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r cyntaf yn Llanteg, yn sefyll ochr yn ochr â’r peiriant gwerthu llaeth Dai’s Dairy presennol yn Folly Cross, ger Gardd Marchnad Greenacre.  Mae detholiad eang o gynnyrch, gan dri chynhyrchydd lleol, ar werth yn y peiriannau. Mae’r cynnyrch yn cynnwys cig ffres, cynnyrch llaeth, sudd, jamiau, siytni, ac ar benwythnosau, mae bara ffres a chacennau caws wedi’u gwneud yn lleol ar gael.

Mae’r ail beiriant wedi'i leoli ar Fferm Steynton, ar gyrion Aberdaugleddau. Mae’r teulu Davies, sy’n ffermio’r tir, yn cynnal y peiriant hwn ac yn ei lenwi â llysiau maent wedi’u tyfu eu hunain, ynghyd â chynnyrch lleol, sydd wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio cynnyrch a dyfir ar Fferm Steynton.

Dywedodd Sue Latham, cydlynydd y prosiect, “Rydym mor falch bod Samuel Kurtz AS wedi gallu dod draw i agor y peiriant yn Llanteg yn swyddogol a thorri’r rhuban, ac wythnos yn ddiweddarach, cawsom groesawu'r Cynghorydd Martin Jones o Gyngor Tref Aberdaugleddau er mwyn ail-adrodd y seremoni agor ar Fferm Steynton.  Cafodd y ddau ddigwyddiad gefnogaeth frwd gan y cymunedau lleol, gyda rhai pobl eisoes wedi bod yn defnyddio’r peiriannau ers ychydig wythnosau, a hynny yn rheolaidd.”  

Mae’r ddau beiriant yn gwerthu cynnyrch gwirioneddol lleol, yn cynnig economi lleol cylchol, yn ogystal ag ymgysylltu â’r gwaith o hyrwyddo iechyd a llesiant cyffredinol drwy fwyd fforddiadwy, o safon.

Mae Sir Benfro’n cynhyrchu bwyd a chynnyrch arbennig, ac mae’r peiriannau arloesol hyn yn rhoi cyfle i’r cynhyrchwyr hynny arddangos eu nwyddau a chynnig masnach bellach, werthfawr, iddynt, yn ogystal â chynnig mynediad 24/7 i gymunedau lleol.  

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â'r tîm drwy WCFD@Planed.org.uk