Prosiect partneriaeth gwerth £1.27m yw Mannau Gwyrdd Gwydn sy’n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i beilota systemau bwyd amgen a adleoliwyd, trwy ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel sbardun ar gyfer newid ledled Cymru tan Fehefin 2023. Cyllidir y prosiect trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ddiweddar anfonwyd coed, cyfarpar, offer a siediau at saith o safleoedd Perllannau Cymunedol ar draws Cymru fel rhan o raglen cymorth elfen Perllannau Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol trwy eu prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod hydref 2021, gofynnodd yr elusen sy’n rhoi cymorth i dyfu a ffermio cymunedol yn y DU i safleoedd ddweud wrthynt beth fyddai o gymorth i’w cymuned leol wrth ddatblygu’r berllan ymhellach. Yn sgil proses ymgeisio drwyadl, oedd yn cynnwys ymweliadau rhithiol a rhai wyneb yn wyneb â’r safleoedd arfaethedig, dewiswyd saith ohonynt i dderbyn cymorth yn y rownd gyntaf.

Mae’r gwaith yn adeiladu ar lwyddiant Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol o ran gweithio gyda chymunedau i blannu cannoedd o berllannau newydd ledled Cymru. Mae’r elusen yn gweithio gyda safleoedd i redeg cynlluniau peilot, i fonitro a gwerthuso manteision economaidd perllannau cymunedol yn ogystal â manteision cymdeithasol ac amgylcheddol amlwg. Nod y prosiect yw ennyn newid positif mewn perthynas â chynhyrchu, cadw, a phrosesu ffrwythau sy’n eiddo i’r gymuned ac o ran cynnyrch sy’n gysylltiedig â ffrwythau yng Nghymru.

Y sefydliadau llwyddiannus cyntaf yw: Cae Tân CSA (Abertawe), Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo), Summit Good (Abertawe), Tir Coed (Rhaeadr Gwy), Cymdeithas Trigolion Plwyf Lambston (Sir Benfro), The Wilderness Trust (Llanidloes) a Fferm Gofal Clynfyw (Sir Benfro).

Bydd y safleoedd yn derbyn cyfarpar, offer a siediau yn ogystal â’r coed a hyfforddiant a chyngor proffesiynol er mwyn datblygu eu perllannau.  Mae’r holl goed a gyflenwyd yn dod o gwmnïau Cymreig a chawsant eu tyfu’n lleol.

Y grwpiau hyn sy’n rhan o rownd gyntaf yr ymgeiswyr llwyddiannus; bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn agor ail rownd y broses ymgeisio’n fuan iawn – am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: wales@farmgarden.org.uk neu https://www.farmgarden.org.uk/resilient-green-spaces/productive-community-orchards 

Dewiswyd pob un o’r safleoedd oherwydd eu profiad, cynlluniau’r dyfodol a’u capasiti i wireddu eu cynlluniau.  Maent yn safleoedd enghreifftiol, sy’n gwneud gwaith anhygoel:

Cae Tân CSA

Mae Cae Tân CSA, ar Benrhyn Gŵyr yn Ne Cymru, yn brosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, sy’n tyfu ac yn cyflenwi cynnyrch ffres, tymhorol, biodeinameg i aelodau.  Hefyd maent yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i ystod o grwpiau ac unigolion, yn ogystal â gweithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth am ffermio cynaliadwy, ac i ailgysylltu pobl ifanc â’r tir a’u bwyd.

Gellir dysgu mwy am Cae Tan CSA trwy eu gwefan: http://www.caetancsa.org/en/

Ysgol Bro Dinefwr

Ysgol yn Llandeilo, Sir Gâr yw Ysgol Bro Dinefwr, sy’n ysgol uwchradd ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ar gyfer disgyblion 11 - 18 oed. Eu prif nod yw  ‘herio a chefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr hyderus ac effeithiol trwy ddarparu amgylchfyd cynhwysol a gofalgar iddynt sy’n gosod llesiant disgyblion wrth galon popeth maent yn ei wneud’.

Meddai Ian Chriswich, Pennaeth Cynorthwyol  Ysgol Bro Dinefwr, "Mae hwn yn brosiect cyffrous newydd, a’n gobaith yw nad y disgyblion yn unig fydd yn elwa ohono, ond y gymuned leol hefyd.  Bydd yn gyfrwng inni feithrin cysylltiadau gweithio gwell gyda grwpiau lleol a chyfrannu at ddatblygu economi gylchol o gwmpas yr ysgol."

Gellir dysgu mwy am Ysgol Bro Dinefwr ar eu gwefan: https://www.brodinefwr.org.uk/about-us

Summit Good

Menter Gymdeithasol o Abertawe yw  Summit Good gyda ffocws ar fwyta, tyfu a gwneud yn dda. Maent yn cefnogi Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, yn cynnig gofod sy’n helpu pobl i wneud pethau da gyda’i gilydd, ac yn grymuso mentrau newydd sydd am dyfu’n lleol.

Mae Joshua Pike, o Summit Good yn sôn am y manteision sy’n deillio o’r cyllid a dderbyniwyd, “Mae’r berllan newydd a blannwyd wedi bod yn ffocws hyfryd ar gyfer defnyddwyr ein grwpiau sied dynion a sied merched, yn dysgu plannu coed, ac mae rheoli eu tyfiant wedi rhoi hyder i bobl ac wedi ail-ddeffro teimlad o gyrhaeddiad a pherchnogaeth gyda’r prosiect. Mae’r prosiect hefyd yn ymdrechu i reoli’r tir dan y coed gydag ieir sy’n dodwy wyau fydd yn ategu’r ffrwythau o’r coed, ac yn cynyddu argaeledd cynnyrch lleol yn ein cymuned.”

Ceir mwy o wybodaeth am Summit Good trwy eu gwefan: https://www.dosummitgood.co.uk/

Tir Coed

Elusen yn Rhaeadr Gwy, Powys yw Tir Coed, sy’n ymgysylltu â phobl sydd â choetiroedd trwy weithgareddau gwirfoddol, hyfforddiant a gweithgareddau pwrpasol sy’n meithrin llesiant, yn datblygu sgiliau ac yn gwella coetiroedd er budd pawb. Maent yn gweithio fel partner ar Brosiect Elan Links i gyflwyno ffrwd profiad ac addysg y bartneriaeth trwy ddarparu cyfleoedd i fwynhau Cwm Elan trwy wirfoddoli, addysg a hyfforddiant.

Gellir dysgu mwy am waith Tir Coed trwy eu gwefan: https://tircoed.org.uk/

Cymdeithas Trigolion Plwyf Lambston 

Cymdeithas gymunedol fach yw Cymdeithas Trigolion Plwyf Lambston sy’n darparu digwyddiadau a phrosiectau bach ar gyfer hen blwyf Lambston yn Sir Benfro. Trwy eu cyfraniad at reoli’r hen dir comin oedd yn segur bellach, llwyddwyd i agor llwybrau newydd gyda choed ffrwythau a chnau.

Gellir dysgu mwy am Gymdeithas Trigolion Plwyf  Lambston trwy eu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/lambstonresidentsassociation

The Wilderness Trust

Mae’r Wilderness Trust, a leolir ym mhentref Tylwch, Llanidloes wedi cychwyn prosiect newydd - Prosiect y Gerddi Crog -er mwyn ystyried ffordd gydweithredol o greu cymuned leol fwy gwydn a chynaliadwy.  Maent yn creu hwb gwyrdd yng nghanol tref Llanidloes, trwy weithio gyda phob sector o’r gymuned, i gael hyd i atebion i ymateb i fioamrywiaeth yr ardal sy’n dirywio.

Mae mwy o fanylion am The Wilderness Trust ar gael trwy eu gwefan: http://thewildernesstrust.org/

Fferm Gofal Clynfyw 

Fferm organig a choetir, 395 erw yw Clynfyw  yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’r fferm gofal yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu ac afiechyd iechyd meddwl, ac maent yn cyfrannu hefyd at brosiectau datblygu cymunedol ehangach gyda ffocws penodol ar wydnwch.

Ceir mwy o fanylion am Fferm Gofal Clynfyw ar eu gwefan: https://www.clynfyw.co.uk/

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r grwpiau hyn, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth am eu cynnydd fan hyn, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol! 

Datganiadau o Ddiddordeb 

Bydd rownd 2022 yn agor eto’n fuan – os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn derbyn y manylion cyn gynted â phosibl! Gellir gwneud hynny fan hyn: https://www.farmgarden.org.uk/join-our-mailing-list 

Fel arall, cadwch lygaid ar ein gwefan a’n cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf a datblygiadau cyffrous o ran y prosiect!

Gwefan: https://www.farmgarden.org.uk/resilient-green-spaces/productive-community-orchards
Twitter: https://twitter.com/SFarm_GardenCym
Facebook: https://www.facebook.com/farmgarden.wales