Huw Irranca Davies - forest

Mae gan y Goedwig Genedlaethol bellach fwy na 100 o safleoedd ledled Cymru.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies enwi chwe safle newydd yr wythnos hon pan ymwelodd â safle Coed y Bont ger Tregaron a chwrdd â gwirfoddolwyr yno.

Bydd cynllun statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn creu rhwydwaith o goetiroedd ar hyd a lled Cymru gydag ecosystemau'n cysylltu â'i gilydd.

Y chwe safle newydd gafodd eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd y Cabinet oedd:

  1. Castle Copse yn y Fenni
  2. Coed Cwm George a Casehill yn Ninas Powys
  3. Castell y Waun, Wrecsam
  4. Coed Cwningar (Warren Wood) ym Mhowys
  5. Coed Rhyal ym Mae Caerfyrddin
  6. Coed Cwm Penlle'r-gaer ger Abertawe

Dywedodd Mr Irranca-Davies: 

Roedd yn wych cael ymweld am y tro cynta ag un o safleoedd y Goedwig Genedlaethol a chwrdd â'r gwirfoddolwyr a dysgu am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud yn yr ardal.

Roedd yn bleser mawr hefyd cael cadarnhau'r chwe safle newydd fydd yn ymuno â'r rhwydwaith, gan ddod â'r cyfanswm i dros 100.

Ein huchelgais yw cael mwy ohonyn nhw ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau.

Byddwn yn annog safleoedd eraill i ymuno â'n Coedwig Genedlaethol er mwyn i ni allu ehangu ein rhwydwaith o goetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda. Bydd yn gyfle i agor mwy o fannau awyr agored, sy'n dda i'n lles ac yn creu swyddi gwyrdd newydd.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: 

Mae'n hyfryd gweld y Goedwig Genedlaethol yn tyfu a chael croesawu'r grŵp nesaf hwn o goetiroedd i'r rhwydwaith.

Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw dau o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae creu a gwella coetiroedd yn gamau allweddol y gallwn eu cymryd i helpu natur a gall fod yn sbardun allweddol i liniaru'r hinsawdd.

Mae pob coetir sy'n rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn cynnig rhywbeth unigryw - o ardaloedd gwarchodedig sy'n gynefin pwysig i'n bywyd gwyllt, i'r rhai sy'n cynnig mannau gwyrdd gwerthfawr i bobl eu mwynhau. 

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn annog perchnogion coetiroedd i siarad â'n tîm o swyddogion cyswllt i gael cyngor a help.

Gall coetiroedd bach mewn trefi, coetiroedd cymunedol, coetiroedd ar dir preifat a ffermydd a darnau eang o dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu fusnesau cynhyrchu coed ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.