Pioneering programme showcased at national industry event

Bydd rhaglen pum-mlynedd i wneud y gadwyn gyflenwi cig coch yn fwy effeithlon yn datgelu'r canlyniadau yng Ngŵyl Ddefaid Cymru y mis hwn.

Bydd y Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef un o raglenni  Hybu Cig Cymru (HCC), yn cael sylw yng Ngŵyl Ddefaid NSA Cymru ar Fferm Red House, Aberhafesb, ar 16 Mai.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE, mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn cynnwys tri phrosiect a phob un yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar y gadwyn gyflenwi cig coch.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd wedi cefnogi’r defnydd o dechnoleg gofnodi genetig fel bod ffermwyr mynydd a bridwyr yn gallu casglu a dehongli gwybodaeth enetig am eu diadelloedd. Trwy gyfuno ffermio mynydd traddodiadol â’r amaeth-dechnolegau diweddaraf, mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn dangos sut mae technoleg wyddonol iawn yn gallu cynorthwyo ffermio defaid cynaliadwy yng Nghymru.

Mae Stoc+ yn brosiect cynllunio iechyd diadelloedd a buchesi sydd wedi ymgysylltu â ffermwyr cig eidion a defaid a milfeddygon ledled Cymru i wella cynllunio iechyd rhagweithiol ar ffermydd. Ar yr un pryd, cafodd gwaith ymchwil ei wneud i glefydau a phroblemau sy'n amharu ar effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ffermwyr – megis ffrwythlondeb gwartheg cig eidion a chloffni mewn defaid.

Elfen olaf y rhaglen yw Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru sydd wedi mabwysiadu dull y gadwyn gyflenwi gyfan i sicrhau bod Cig Oen Cymru yn brofiad bwyta o'r radd flaenaf. Cafodd ffactorau ar y fferm ac wrth brosesu eu hymchwilio a chafodd adborth 2,000 o ddefnyddwyr o bob rhan o'r DG eu dadansoddi er mwyn deall yr hyn sydd orau gan ddefnyddwyr. 

Hefyd, gwnaed ymchwil i arferion prynu a choginio defnyddwyr er mwyn cael dadansoddiad llawn o’r fferm i’r fforc.  Nod y prosiect yw rhoi i'r diwydiant yr wybodaeth a’r canlyniadau i wneud yn siŵr fod Cig Oen Cymru yn dal i fod ar flaen y gad o ran ansawdd bwyta, gan gynnig gwerth ychwanegol i’r diwydiant a’r gadwyn gyflenwi.

Bydd canlyniadau’r tri phrosiect yn cael sylw yng Ngŵyl Ddefaid NSA Cymru trwy gyfrwng sesiynau seminar ac ar stondin HCC. Yn ogystal, bydd yna glinig-galw-heibio ar stondin HCC gyda’r milfeddygon Fiona Lovatt a Phillipa Page, ynghyd ag arddangosiadau coginio Cig Oen Cymru ar drelar coginio HCC.

Dywedodd Arweinydd Cynhyrchwyr a Phroseswyr HCC, John Richards: ‘Rydym yn falch o fod yn noddi Gŵyl Ddefaid NSA Cymru eleni ac o fod yn rhannu canlyniadau’r Rhaglen Datblygu Cig Coch gyda ffermwyr ac eraill o'r diwydiant.

‘Mae Gŵyl yr NSA yn ddigwyddiad allweddol i ddiwydiant defaid Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at fynychu a chyfarfod â thalwyr ardoll a'r ffermwyr sy'n rhan o'n prosiectau er mwyn  dangos sut mae’r prosiectau hyn wedi bod o fudd i ffermwyr defaid Cymru a’r gadwyn gyflenwi cig coch ehangach.’

Ariannwyd Rhaglen Datblygu Cig Coch HCC gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.