A Hill Ram Scheme flock

Mae ffermwr o Gymru wedi canmol cynllun peilot dan arweiniad y diwydiant a fu'n ymchwilio i ymwrthedd i lyngyr mewn defaid mynydd gyda set ddata hanfodol i wneud ei ddiadell yn fwy effeithlon.

Lansiodd Hybu Cig Cymru (HCC) y treial yn hydref 2022 fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd, gydag ymchwil yn nodi gwahaniaethau genetig rhwng defaid o ran eu gallu i ddatblygu ymwrthedd i barasitiaid llyngyr mewnol.

Am fod llyngyr yn mynd yn fwy abl o hyd i oroesi’r dos arferol o foddion i'w lladd, mae'n hollbwysig  i ffermwyr defaid ystyried rheoli llyngyr er mwyn bod yn effeithlon a phroffidiol.

Y dymuniad yw medru bod yn llai dibynnol ar ymyrraeth filfeddygol i drin heintiau parasitig er mwyn gwella iechyd defaid, a lleihau gofynion llafur.

Darparodd deg o ffermwyr y Cynllun Hyrddod Mynydd 999 o ddefaid ar gyfer y treial, a fu'n ystyried ymarferoldeb datblygu Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) ar gyfer nodweddion sy'n asesu gallu genetig defaid i wrthsefyll heintiad gan lyngyr.

Mae bridio defaid sy’n ymwrthol ac yn gallu gwrthsefyll parasitiaid yn gam enfawr ymlaen i’r diwydiant; yr ymchwil hwn oedd y cyntaf o'i fath i gael ei gynnal.  

Un ffermwr a gymerodd ran yn yr ymchwil oedd Peter James. Mae ef a'i dad Alwyn yn rhedeg fferm Hafod-y-pant, ger Llanymddyfri, ac mae ganddyn nhw ail ddaliad ar Fannau Brycheiniog yn Nhrecastell.

Cyflenwyd 150 o ŵyn mynydd Cymreig wedi’u gwella ganddyn nhw ar gyfer y treial, ac eisoes cafwyd data allweddol ar gyfer y busnes fferm.

Dywedodd Peter, sy’n ffermio 1,500 o famogiaid ar y ddau ddaliad: “Mae popeth yn ymwneud â’r treial wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rwy’n fawr obeithio y bydd y prosiect yn cael cymorth i ymestyn ei oes.

“Beth bynnag fydd yn digwydd, byddaf yn ailadrodd proses y peilot eleni oherwydd rydyn ni eisoes wedi gweld rhai manteision.

“Gwelwyd bod un hwrdd yn y ddiadell yn dueddol o gael ei heintio gan lyngyr, ac felly roedden ni’n gallu torri ein colledion drwy ei dynnu allan o’n rhaglen fridio.

“Gallwn hefyd ddilyn y broses honno gyda’i ferched i atal unrhyw effaith negyddol pellach ar y ddiadell – ac mae hynny'n gam sylweddol ymlaen i ni.”

Eglurodd Dr Heather McCalman, Cydlynydd Cyflawni Rhaglen HCC, pam fod y peilot mor bwysig.

“Mae llyngyr yn gyffredin iawn yn y rhan fwyaf o systemau defaid.  Gallan nhw achosi niwed difrifol i leinin y stumog gan arwain at golli pwysau sylweddol a salwch. Ar draws y diwydiant yma yng Nghymru, mae pawb ohonom yn ceisio cael diadelloedd iach a chynhyrchiol.

“Mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn chwarae rhan yn hyn.  Mae llyngyr yn ymateb i dywydd cynnes a lleithder, ond gyda’r tymhorau’n newid mae’n golygu y gall ffermwyr fod yn llai sicr pryd i drin eu diadelloedd.

“Gan ddefnyddio technegau fel profion i ostwng cyfrifiad wyau ysgarthol , mae ffermwyr wedi darganfod bod triniaethau dros amser wedi mynd yn llai effeithiol ac maen nhw'n ystyried dulliau cynaliadwy; mae defnyddio geneteg yn ffactor allweddol yn ein gwaith i sicrhau bod anifeiliaid yn iach a bod bwyd o safon yn cael ei gynhyrchu ar gyfer ein defnyddwyr.”

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ei nod fu grymuso ffermwyr mynydd Cymru â data a gwybodaeth enetig am eu diadelloedd trwy ddefnyddio’r dechnoleg DNA ddiweddaraf, gan ganiatáu i systemau traddodiadol gael eu hategu gan yr ymyriadau gwyddonol diweddaraf.

Mae dros 50 o ffermwyr o bob rhan o Gymru wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyrddod Mynydd, yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn ei chyfanrwydd, ar gael yma ar wefan HCC.