Tom Adams with fruit tree saplings

Mae tocio coed iau â diamedr llai i gynhyrchu tomwellt sglodion pren sy'n gyfoethog mewn mwynau ac ensymau yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o ffrwythlondeb a deunydd organig i goed ffrwythau ifanc mewn planhigfa yng Nghymru.

Mae Tom Adams yn tyfu coed ffrwythau ar safle 2.6 hectar yn Weston Rhyn, ger Croesoswallt, gan ddefnyddio egwyddorion organig a dull amgylcheddol sensitif o reoli plâu.

Tom Adams with Farming Connect study visit participants

Mewn ymweliad astudio garddwriaethol Cyswllt Ffermio yn ei blanhigfa o goed ffrwythau yn ddiweddar, rhannodd Tom rywfaint o’r wybodaeth y mae wedi’i ennill ers blynyddoedd lawer fel tyfwr.

Un o’i amcanion craidd pan ddyluniodd ei safle presennol, a brynodd yn 2018, oedd creu system dolen gaeedig trwy gynhyrchu ei gompost a’i sglodion pren ei hun i fod yn hunangynhaliol o ran gwelliannau i’r pridd.

“Rydym ni'n tyfu 3,000 – 4,500 o goed y flwyddyn ac mae angen tomwellt arnyn nhw i gyd,” meddai.

Mae'n gwneud sglodion coed Ramial (RCW) o goed sydd â boncyff heb fod yn fwy na 7cm mewn diamedr. “Mae'n llawn maetholion a gellir ei daenu'n ffres heb iddo gymryd maetholion o'r pridd oherwydd mae ganddo gymhareb nitrogen i garbon uwch na phren â diamedr mwy,'' eglurodd Tom.

“Nid yw'n cymryd cymaint o nitrogen allan o'r pridd â sglodion pren o goed sydd â diamedr mawr.''

Daw peth o'r tomwellt hwnnw o helyg - mae gan Tom dair coedlan o helyg ac mae'n tyfu pum math gwahanol; mae helyg yn cynnwys asid salisylig, ac mae tystiolaeth i ddangos ei fod yn helpu i reoli clafr mewn coed afalau.

Mae coed yn cael eu tocio pan fyddant yn ddwy flwydd oed, ym mis Tachwedd pan nad ydynt mewn dail, ac mae cylch tocio o ddwy flynedd yn dilyn.

Er mwyn naddu’r pren, mae Tom yn llogi peiriant naddu pren ar gost o tua £200 y dydd. Yn ei farn ef, “Rwy'n credu ei bod yn well llogi un da sy'n gwneud gwaith da na phrynu peiriant rhad nad yw'n gwneud hynny'.

Mae’n hunangynhaliol o ran ei ddulliau rheoli plâu ei hun, gan dyfu blodau gwyllt a blodau sydd wedi’u trin i greu poblogaeth amrywiol o bryfed gan gynnwys gwenyn, buchod coch cwta, adenydd siderog, gloÿnnod byw a phryfed hofran.

“Rydym yn torri llai a llai i ganiatáu mwy o dyfiant i ddenu'r pryfed hynny,'' eglurodd Tom.

Mae'n gweithredu cylchdro saith mlynedd ar gyfer coed afalau i osgoi 'clefyd ailblannu afalau' - os caiff coed eu plannu ar yr un safle flwyddyn ar ôl blwyddyn mae maint y coed yn lleihau'n raddol.

“Saith mlynedd yw'r allwedd,” argymhellodd Tom.

Cynghorodd hefyd y byddai’n well tyfu o leiaf ddau fath gwahanol o bob coeden ffrwythau, er mwyn amddiffyn rhag methiant.

Er mwyn rheoli pryfed gleision, sy'n gallu gwyrdroi twf yn y gwanwyn, mae'n defnyddio chwistrell wedi’i wneud gartref sy'n cyfuno distylliad o wymon, olew garlleg a thriagl.

Ei brif nod, fodd bynnag, yw creu'r amodau iechyd pridd a phlanhigion cywir i frwydro yn erbyn y plâu hynny.

Mae tail gwyrdd, te Camri, blodau wedi'u torri a llysiau yn cael eu tyfu yn ei gylchdro saith mlynedd ond dywedodd y gallai'r blociau tir gael eu defnyddio mewn ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft i gadw ieir neu hwyaid neu i dyfu grawn fel rhyg neu haidd, a'i gynyddu ar gyfer safleoedd mwy.

“Rydym ni'n ceisio cael pridd moel am gyfnod mor fyr â phosib,'' meddai.

Ni chaniateir i dail gwyrdd gyrraedd y cyfnod blodeuo neu byddai llawer o'u maetholion gwerthfawr yn cael eu colli.

Mae Tom yn cydweithio â busnesau eraill i alluogi ei gylchdro saith mlynedd, gan gynnwys busnes te camri.

Mae ei goed ffrwythau yn cael eu plannu mewn rhesi sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de, i ganiatáu cychwyniad golau da - pe baent yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin byddai dwyster golau yn anwastad, nododd.

Mae planhigion ffrwythau meddal yn cael eu plannu ar ymylon gorllewinol y rhesi hynny i fanteisio ar haul y prynhawn. “Llenwch y bylchau hynny gyda rhywbeth defnyddiol,'' argymhellodd. “Gall ffrwythau meddal ymdopi â chysgod ble mae golau’r haul yn dod drwy’r coed.''

Ar yr ochr ddwyreiniol, mae planhigion fel cyfardwf a mintys yn cael eu tyfu i ddenu peillwyr a hefyd ysglyfaethwyr i reoli plâu.

“Mae gan bopeth rydym ni'n ei dyfu yma fwy nag un defnydd,'' meddai Tom.

Tom Adams with apple trees

Mae'n tyfu amrywiaeth o goed ffrwythau gan gynnwys gellyg, afalau, ceirios, eirin ac eirin duon, mathau sy'n gallu gwrthsefyll afiechydon ac sy'n hawdd eu tyfu.

“Gall fod llawer o broblemau ffwngaidd yng Nghymru oherwydd yr hinsawdd wlyb, felly mae’n bwysig ystyried ymwrthedd i glefydau wrth ddewis mathau i’w tyfu,” meddai.

Dylai rhinweddau gwreiddio gwreiddgyff hefyd gyd-fynd ag amodau pridd lleol – mae gwahanol stociau gwreiddiau ar gael ar gyfer gwahanol fathau o bridd a sefyllfaoedd.

Mae Tom yn tyfu M106 ac M116 fel gwreiddgyff ar gyfer coed afalau, y ddau ag egni tebyg. Mae'r rhain yn cael eu plannu ym mis Chwefror.

Mae'r holl goed yn cael eu gorchuddio pan fyddant yn cael eu plannu ac mae llwybr tail gwyrdd yn cael ei greu rhwng rhesi.

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Prosiect ar gyfer Cyswllt Ffermio. “Mae Tom wedi dangos sut y gall technegau tyfu sy’n addas i natur, gan gynnwys annog chwilod ysglyfaethus i fwyta plâu yn lle defnyddio plaladdwyr, a elwir yn rheoli plâu integredig (IPM), fod yn effeithiol iawn."

Gyda chyfleoedd i dyfwyr newydd a phresennol yng Nghymru, mae mwy a mwy o ddiddordeb mewn datblygu busnesau garddwriaeth.

Adlewyrchwyd hyn yn yr amrywiaeth o bobl yn y diwrnod agored, roedd rhai ag uchelgais i dyfu bwyd llawn maetholion i gyflenwi cymunedau lleol, roedd eraill am sefydlu menter arallgyfeirio i wneud eu busnes ffermio presennol yn fwy cynaliadwy.

Dywedodd Debbie Handley, swyddog sector garddwriaeth Cyswllt Ffermio, fod llawer o adnoddau a thaflenni ffeithiau ar gael gan Cyswllt Ffermio i helpu i lywio eu penderfyniadau.

“Mae’r rhain i’w gweld o dan y tab garddwriaeth ar wefan Cyswllt Ffermio – https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy – neu drwy gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol Cyswllt Ffermio,’’ dywedodd.