Beef

Mae’r diwydiant cig coch Cymreig yn un o gonglfeini’r sector amaethyddol yng Nghymru ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol at economi a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffermwyr wedi parhau i ddangos gwydnwch wrth iddynt wynebu heriau yn sgil galw newidiol y farchnad, tarfu sy’n gysylltiedig â’r tywydd, a phryderon parhaus am gynaliadwyedd a lles anifeiliaid.  Drwy gyfnodau anodd, mae busnesau cig coch Cymru yn parhau i roi dulliau arloesol a chynaliadwy ar waith o ran y ffordd y maent yn byw, yn gweithio ac yn gwerthu i’r byd.  I rai busnesau, un ffordd y mae hyn wedi bod yn bosibl yw trwy gymorth ac arweiniad gwasanaeth cynghori busnesau bwyd a diod Cymru, Cywain.  Mae Cywain, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i gynhyrchwyr bwyd a diod, o fusnesau newydd i fusnesau maint canolig, i’w galluogi i dyfu i’w llawn botensial.  

Mae’r ffordd y caiff amaethyddiaeth ei dathlu yng Nghymru yr un mor gyfoethog â threftadaeth y wlad. Ar ddechrau Wythnos Cig Eidion Prydain eleni, does dim amser gwell i ddathlu’r diwydiant cig coch yng Nghymru ochr yn ochr ag un o themâu allweddol y digwyddiad sy’n anelu at dynnu sylw at yr arferion ffermio arloesol a chynaliadwy y mae busnesau amaethyddol wedi’u mabwysiadu. Mae amrywiaeth eang o sefydliadau yng Nghymru sy’n rhoi’r arferion hyn ar waith fel rhan o’r ffordd y maent yn rhedeg eu busnes. Mae Snowdonia Wagyu a Fferm Carreg yn ddau fusnes sydd wedi manteisio ar gymorth Cywain ac wedi cael cryn lwyddiant wrth wella eu harferion arloesedd a chynaliadwyedd. 

Mae busnes Snowdonia Wagyu, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon, yn un o’r ychydig ffermydd yng Nghymru sy’n bridio gwartheg Wagyu. Mae bridio gwartheg cig eidion o safon mor uchel yn gofyn am angerdd a gofal o ran lles, yr amgylchedd a chynaliadwyedd ffermio. Mae Snowdonia Wagyu yn sicrhau ei fod yn bodloni ei feini prawf uchel drwy ei ethos o dryloywder, gwybod ble mae ei gig yn dod; cyn lleied o wastraff â phosibl, gwerthu o’r trwyn i’r gynffon; lles anifeiliaid, cynnig bywyd da gyda chyn lleied o straen â phosibl i’r holl dda byw.  

Steak (raw) - Snowdonia Wagyu

Mae Snowdonia Wagyu yn disgrifio ei gig eidion y mae galw mawr amdano fel “curiad calon ein dyfodol”; dyfodol sydd wedi’i gefnogi gan Cywain. Yn yr amser byr y mae Cywain wedi bod yn cynghori’r busnes, mae Snowdonia Wagyu wedi defnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y busnes. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cynnwys y cyfle i gymryd rhan yng Ngweithdai Cyflymu Rhagoriaeth Cywain a’r cyfle i brofi masnach yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol, yn ogystal â digwyddiad Cyfarfod â’r Prynwr gyda Blas ar Fwyd a Thaith Astudio. Mae’r digwyddiadau a’r gweithdai hyn wedi caniatáu i Snowdonia Wagyu siarad â channoedd o gwsmeriaid a darpar randdeiliaid a rhannu ei gynhyrchion arloesol a’i ddulliau ffermio cynaliadwy gyda nhw. Mae hyn wedi arwain at lawer iawn o ddiddordeb ac ymholiadau, gan helpu’r busnes i barhau i dyfu; datblygiad haeddiannol yn y diwydiant Wagyu Cymreig. Meddai sylfaenwyr Snowdonia Wagyu, Sioned Pritchard a Meilir Breese: “Mae’r cyfleoedd rydyn ni wedi’u cael drwy Cywain wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran twf y busnes, ac o ran lledaenu’r neges ynghylch arferion ffermio cynaliadwy.”

Busnes blaenllaw arall o ran y diwydiant amaethyddol a chig eidion yng Nghymru yw Fferm Carreg, busnes teuluol sydd â gwreiddiau dwfn yn nhreftadaeth ffermio Cymru ac sy’n teimlo’n angerddol am rannu cigoedd o’r radd flaenaf o un teulu i deulu arall. Mae Fferm Carreg, sy’n ymrwymedig i weithredu arferion ffermio atgynhyrchiol sy’n blaenoriaethu stiwardiaeth amgylcheddol a lles anifeiliaid, yn gwneud hyn drwy bori mewn cylchdro a phori dwysedd uchaf dros gyfnodau byr. Mae manteision y math hwn o ffermio yn cynnwys iechyd pridd a phorfa gwell, hybu bioamrywiaeth, atafaelu carbon a rheoli adnoddau’n gynaliadwy. Yn ei dro, mae’r busnes yn cynhyrchu cig adnabyddadwy â blas unigryw.

Ianto Parri - Fferm Carreg Farm

Gyda’r nod o ddod â theuluoedd ynghyd drwy brydau maethlon sy’n dod “o’r tir pori i’r plât”, roedd angen i Fferm Carreg gael cymorth i gyflawni’r weledigaeth hon.  Fel busnes ifanc, roedd Cywain yn gallu darparu’r blociau adeiladu yr oedd eu hangen ar fusnes Fferm Carreg i ddechrau ar ei daith, gan ddarparu’r hanfodion a’r sylfeini busnes ar gyfer dyfodol cynaliadwy a llewyrchus iawn drwy gyngor busnes, cymorth brandio a mentora gwefan a TG.  Meddai sylfaenydd Fferm Carreg, Ianto Parri:  “Mae Cywain wedi rhoi llawer o help i ni ddechrau arni.  Mae’r cymorth y maen nhw wedi ei roi yn golygu y gallwn ni hyrwyddo ein cig eidion cynaliadwy o safon uchel i fwy o bobl.” 

Mae rheolwr twf rhanbarthol Cywain, Jayne Jones, wedi cefnogi busnesau Snowdonia Wagyu a Fferm Carreg ar eu taith.   Meddai:  “Rydym yn falch iawn o gefnogi ac arwain busnesau er mwyn iddyn nhw gyrraedd eu llawn botensial.  Mae’r ddau fusnes yn cynhyrchu cig o ansawdd uchel ac yn cyfrannu at effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd; maen nhw’n haeddu cydnabyddiaeth am hyn.” 

Mae rheolwr prosiect Cywain, Alex James, hefyd yn credu y dylai mwy o fusnesau fel Snowdonia Wagyu a Fferm Carreg gael eu canmol am yr hyn y maent yn eu cyflawni.  Meddai:  “Mae pawb yn Cywain yn teimlo’n angerddol am y diwydiant bwyd a diod, felly mae hi’n bleser bob amser gallu helpu busnesau fel y rhain, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i’w cefnogi yn y dyfodol.” 

Damara Mon

Efallai mai Wythnos Cig Eidion Prydain yw hi, ond gan ein bod ni’n rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau brwdfrydig a gweithgar, mae Damara Môn, ffermwr defaid wedi’i leoli ar Ynys Môn, hefyd yn arloesi drwy fabwysiadu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu cig oen blasus, gan fod o fudd i’r blaned hefyd.   Yn yr un modd, mae’r sylfaenydd, Peter Williams, wedi defnyddio gwasanaethau drwy Cywain, gan gynnwys cymorth cychwynnol i ddechrau’r busnes a mentora cyllid busnes.  Mae’r arweiniad hwn wedi caniatáu i Peter hyrwyddo cyflwyno defaid cynffon dew i Gymru drwy brosiect EIP yng Nghymru.  

Ffion Jeffreys - Y Cwt Cig

Busnes arall o Ynys Môn y dylid edrych allan amdano yw Y Cwt Cig, sy’n cael ei redeg gan ei sylfaenydd a’r ffermwr geifr, Ffion Jeffries.  Mae’r busnes, sy’n cynhyrchu cig gafr blasus a chaws gafr Cymreig artisan llwyddiannus, wedi elwa ar gymorth busnes a brandio Cywain ar ei daith hyd yma. 

Drwy Wythnos Cig Eidion Prydain, rydym wedi gweld yr amrywiol fusnesau Cymreig sy’n dangos cryfder a chadernid yn y farchnad.  At hynny, maent yn dangos ei bod hi’n bosibl dod yn fusnes ffermio arloesol a chynaliadwy yng Nghymru gyda’r cymorth cywir, ac maent yn parhau i roi Cymru ar y map o ran cig a chynhyrchion dymunol y mae galw mawr amdanynt yn lleol ac yn fyd-eang. 

I ddysgu mwy am sut y gall Cywain gefnogi eich menter bwyd a diod, ewch i’w wefan am fwy o wybodaeth.