Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£37738.00

Mae’r rhan fwyaf o wrtaith Nitrogen (N) yn cael ei wasgaru mewn systemau glaswelltir ar ffurf pelenni gyda pheiriant gwasgaru. Mae’r maetholion yn cael eu gwasgaru ar y ddaear cyn cael eu golchi i mewn i’r uwchbridd gan y glaw ac yna’n cael eu hamsugno gan system wreiddiau’r planhigion. Trwy ddefnyddio’r dull hwn, mae yna nifer o agweddau a allai effeithio ar ryddhau’r maetholion a’r mewnlifiad i’r borfa gan gynnwys, cywasgiad y pridd, draeniad, bio-actifedd, tymheredd y pridd, tywydd sych neu dywydd gwlyb.

Dull arall a chyflymach o gael nitrogen yn syth i mewn i’r borfa yw trwy ddail y planhigyn. Mae gan ddail fandyllau rhwng strwythurau’r celloedd sy’n galluogi’r maetholion i fynd i mewn iddynt. Mae arbrofion blaenorol wedi profi bod bwydo glaswellt (drwy’r dail) gyda gwrtaith yn uniongyrchol yn medru lleihau faint o nitrogen sydd ei angen ac yn lleihau colledion nitrogen trwy ddŵr ffo.

Nod y prosiect hwn, sy’n cynnwys pedair fferm, yw asesu i ba raddau mae defnyddio bwyd dail sy’n seiliedig ar asid wrea a hwmig yn medru lleihau’r angen am wasgaru gwrtaith N confensiynnol ar y borfa. Anelir at archwilio’r effeithiolrwydd o ddefnyddio bwyd dail ar systemau glasswelltir, sy’n fwy cyffredin mewn systemau garddwriaeth. Er mwyn iddo fod yn llwyddiannus, ni ddylid cyfaddawdu ar y safon a a faint o ddeunydd sych sydd yn y borfa, yn ogystal â’r cynnwys meillion.

Ar bob un o’r pedair fferm, bydd un cae yn cael ei rannu’n dair rhan hafal ac yna bydd y triniaethau canlynol yn cael eu cymharu:

  • Gwrtaith nitrogen yn ôl yr arfer bresennol / safonol
  • Bwyd dail
  • Dim gwrtaith

Bydd perfformiad pob llain yn cael ei fesur yn ôl y canlynol:

  • Cynnyrch deunydd sych
  • Cynnwys N ym meinwe porfa ffres
  • Costau gwasgaru N am bob tunnell o ddeunydd sych
  • Cynnwys meillion er mwyn asesu’r effaith ar gyfansoddiad rhywogaethau mewn gwndwn

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Infograffig: Canlyniadau 2019
Fideo (Awst 2019): Nigel Howells (Dairy, Grass & Soil Management) yn trafod ca…

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Tony Little
Email project contact