Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£28500.00

Disgrifiad o’r Prosiect;

Nod y prosiect hwn oedd darparu cyfle uchelgeisiol uchel ei broffil i bobl ifanc gyda sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i gael profiad o fyw a gweithio yng Ngwynedd a Môn; ac i ddatgan i’r byd a’r betws amdano. Roeddem am ddangos:

  • Nad oes angen i bobl ifanc adael Môn a Gwynedd i ddod o hyd i gyflogaeth o ansawdd uchel. 
  • Bod gan Gwynedd a Môn gyfleoedd gyrfa o ansawdd uchel yn y sector digidol.
  • Y gall Gwynedd a Môn gynnig cyfleoedd a ffordd o fyw gwych.
  • Bod Gwynedd a Môn yn cynhyrchu gweithlu o’r radd flaenaf a all ymateb i gyfleoedd yn y sector digidol.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae’r prosiect yn ceisio tynnu sylw at y cyfleoedd cyflogaeth yn y sector TGCh yng Ngwynedd a Môn ac atal diboblogi ymysg pobl ifanc.

Pwy yw buddiolwyr y prosiect? 

Y gynulleidfa darged ar gyfer y prosiect oedd pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yng Ngwynedd a Môn sy’n gwneud dewisiadau gyrfa, yn hytrach na phobl o’r tu allan i’r gogledd-orllewin.

Beth oedd canlyniad y prosiect?

Gwahoddwyd busnesau i gymryd rhan drwy broses o wahoddiadau agored. Fe wnaeth 7 busnes Twf ddatgan diddordeb yn sgil y gwahoddiad agored, ac yna cawsant eu paru gyda 9 ymgeisydd disglair sy’n astudio pynciau STEM, i gymryd rhan y rhaglen beilot 10-wythnos.

Anogwyd myfyrwyr i ymgeisio wedi i hysbyseb ymddangos ar lleol.net a rhannwyd y ddolen yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn colegau lleol a phrifysgolion ar hyd a lled Cymru.

Cynhaliwyd y broses o recriwtio busnesau a myfyrwyr yn ystod mis Ebrill 2017 ac roedd dyddiad cychwyn y lleoliadau gwaith yn cychwyn ar 26 Mehefin.

Profiad Gwaith - Fe wnaeth y myfyrwyr gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, er mwyn dangos ardal mor braf ydyw i fyw ynddi. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys cerdded i fyny’r Wyddfa, Rhwyfo bord yn Llanddwyn, a Ffermio.

Profiad Gwaith - Roedden nhw’n gweithio gyda’u cyflogwyr hefyd i nodi’r cyfleoedd recriwtio yr oedden nhw’n eu rhagweld dros y 5 mlynedd nesaf, y cyfleoedd y byddai’r ardaloedd yn eu croesawu, yr hyn yr oedd y cyflogwyr yn chwilio amdano wrth recriwtio, a’r sgiliau yr oedden nhw’n chwilio amdanyn nhw wrth recriwtio.

Gwaith Grŵp - Fe wnaeth Arloesi benodi Geraint Hughes fel mentor ar gyfer y grŵp gydol y 10 wythnos. Roedd y grŵp yn cyfarfod bob prynhawn dydd Llun, er mwyn rhannu eu profiadau a chynllunio ar gyfer y digwyddiad i gloi’r gweithgareddau. Yr her a osodwyd i’r grwpiau oedd

"Mae Cwmnïau TGCh yng Ngwynedd a Môn yn cael trafferth recriwtio sgiliau lleol, mae pobl ifanc sydd â chymwysterau TGCh yn honni nad oes dim, neu fawr ddim, o gyfleoedd ar gael yng Ngwynedd a Môn. Sut gellir gwella ymwybyddiaeth y naill yn y llall?"

Rhannu a Hyrwyddo Gwybodaeth

  • Trefnwyd digwyddiad rhannu gwybodaeth a gynhaliwyd yn Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor ar 1 Medi rhwng 10am a 1pm. 
  • Cafodd y digwyddiad ei hwyluso gan y grŵp, a chawsant y cyfleoedd i rannu eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd â busnesau a sefydliadau eraill yn yr ardal.
  • Yn y digwyddiad Brightlink fe wnaeth 60 gofrestru / gyda 46 yn mynychu ar y diwrnod. 
  • Cafodd y digwyddiad ei ffrydio’n fyw ar AM a AGW FB.
  • Roedd y Cyfryngau Cymdeithasol yn dilyn straeon yr unigolion gydol y lleoliad 10 wythnos
  • Cynhyrchwyd nifer o ffilmiau byr hefyd er mwyn codi proffil a rhannu’r neges. 
  • Hyrwyddwyd y profiad hefyd drwy eitemau cysylltiadau cyhoeddus mewn papurau newydd lleol ac ar flogiau.

Beth weithiodd yn dda?

  • Cafodd 2 swydd lawn amser eu creu o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect. Fe wnaeth un o’r myfyrwyr lleol dderbyn ond fe wnaeth y llall sicrhau prentisiaeth gyda Horizon felly cafodd yr ail swydd ei recriwtio’n allanol.  
  • Fe wnaeth un myfyriwr sicrhau swydd lawn amser fel peiriannydd yn ffatri Denis Ferranti ym Mangor. 
  • Nifer yr ymatebion mewn perthynas â nifer y dilynwyr, nifer yn hoffi a rhannu eitemau ar y cyfryngau cymdeithasol  
  • Hyrwyddo Môn a Gwynedd fel llefydd deniadol i fyw a gweithio ynddynt.
  • Y rhwydweithiau a’r cysylltiadau a wnaeth y myfyrwyr dros y 10 wythnos. 
  • Pa mor aml yr oedd y fideos yn cael eu rhannu. 
  • Gwaith mentora’r myfyrwyr dros y 10 wythnos.
  • Cryfhau’r cysylltiad rhwng y sector twf a’r myfyrwyr. 
  • Creu Cyfeiriadur o fusnesau twf gan ddangos rhyngddyn nhw y gellid o bosibl creu 25 o swyddi gyda chyflog uchel yng Ngwynedd a Môn dros y 5 mlynedd nesaf.  

Y gwersi a ddysgwyd 

  • Gormod o bwyslais ar y sector TGCh ac mae Sectorau Twf yn gyffredinol yn canfod yr un problemau a heria wrth recriwtio.
  • Y cyfle i’r grŵp digidol a’r grŵp perfformio gydweithio yn ystod y 10 wythnos.  
  • Busnesau yn cyfarfod ei gilydd a’r grŵp 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rachel Roberts
Rhif Ffôn:
01766 514057
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://bywabodgwynedd.wordpress.com/home/