- Lleoliad:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£13000.00
Disgrifiad o’r Prosiect
Nod y prosiect yw datblygu dull arloesol newydd i gynorthwyo datblygu economaidd yn NPT ac i helpu i atal a gwrthdroi'r dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?
Nod y prosiect yw hybu busnesau a datblygiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot a hyrwyddo busnesau gwyrdd arloesol drwy ddefnyddio a gwella’n treftadaeth naturiol yn briodol. Bwriedir i’r prosiect hwn roi cynllun arloesol ar waith er mwyn helpu i ddatblygu arfer da’n genedlaethol o ran cynnig dull strategol o ddigolledu bioamrywiaeth.
Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?
Datblygwyr lleol, tirfeddianwyr lleol, cymunedau lleol hefyd os yw'r dull yn gweithio, gellir ei gyflwyno fel arfer gorau yn rhanbarthol felly gall y gymuned fwy eang manteisio.
Beth oedd canlyniad eich prosiect?
Mae'r adroddiad terfynol yn nodi nifer o argymhellion ar gyfer sut gellid cyflwyno ymagwedd newydd at gydadfer bioamrywiaeth, sy'n angenrheidiol er mwyn gwneud iawn am golledion i ddatblygu, yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r rhain yn cynnwys dulliau ariannol a chyfreithiol, dulliau cyflwyno a manylion llawn cynigion sydd wedi'u hawgrymu ar gyfer nifer o safleoedd peilot.
Beth oedd yr heriau/y gwersi mwyaf a ddysgwyd yn ystod y prosiect?
Drwy weithio gyda pherchnogion tir preifat, nodwyd nifer o broblemau y byddai'n rhaid eu goresgyn cyn y gellir cynnwys tir preifat yn y cynllun. Nodwyd bod dryswch ynghylch rheolau cymorth gwladwriaethol yn gyfyngiad sylweddol ar y prosiect; fodd bynnag, mae hwn wedi'i oresgyn ers hynny.
Beth nesaf i’ch prosiect?
Mae'r ymagwedd a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad terfynol wedi'i defnyddio a'i datblygu wrth lunio cynllun cydadfer bioamrywiaeth, a nodir yng nghanllawiau cynllunio atodol arfaethedig CNPT ar fioamrywiaeth a geoamrywiaeth. Y bwriad yw mabwysiadu'r canllawiau cynllunio atodol a'u rhoi ar waith yn 2018.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Rebecca Sharp
- Rhif Ffôn:
-
07816 973877
- Cyfeiriad e-bost:
- r.sharp@npt.gov.uk
- Email project contact