Lleoliad:
Dyffryn Wysg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39495.00

Cynllun y prosiect tair blynedd:

  • Bydd lleiniau arbrofol yn cael eu creu ar un cae silwair ym mhob un o’r tair fferm
  • Bydd pob llain arbrofol yn profi triniaeth agronomeg - p’un bynnag sydd o ddiddordeb mwyaf i’r fferm dan sylw, bydd hyn yn cael ei ailadrodd ar hap ar bob cae 2-4 gwaith.
  • Y driniaeth rheoli fydd triniaeth safonol y fferm, a bydd y triniaethau eraill yn ceisio gwella ar hyn.
  • Bydd lluniau lloeren ac adlewyrchiad sbectrol o’r caeau prawf yn cael eu cymryd tua 2-4 wythnos ar ôl gweithredu’r driniaeth (yn ddibynnol ar y math o driniaeth).
  • Bydd tyfiant y glaswellt yn cael ei fesur gan ddefnyddio plât mesur ar yr un pryd er mwyn casglu data manwl gywir.
  • Bydd y mesuriadau glaswellt a gesglir drwy’r dulliau hyn wedyn yn cael eu cymharu i brofi effeithiau’r triniaethau agronomeg ar y cnwd glaswellt.

Y gobaith yw bydd y prosiect hwn yn amlygu manteision ac anfanteision pob un o’r technegau mesur glaswellt, ac yna’n galluogi’r ffermwyr sydd eisiau defnyddio’r dechnoleg newydd i benderfynu pa dechneg fyddai fwyaf addas ar gyfer eu system nhw. Mae’n bosibl y gallai’r dulliau newydd yma gynnig ffordd fanwl o fesur gwair heb fod yn rhy ddwys o ran llafur, a fydd yn gallu gwella dichonoldeb y fferm a’i gallu i gystadlu.

Mae mesur cnwd glaswellt yn drafferthus ac yn llafurus oherwydd bod angen naill ai sawl mesuriad gan ddefnyddio plât mesur neu gyfri a phwyso trelars silwair.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gellid defnyddio adlewyrchiad sbectrol o gnydau glaswellt a fesurwyd gan loeren i fesur cnwd glaswellt yn fanwl gywir. Mae’r dull hwn yn cynnig ffordd haws a chyflymach o fesur cnwd glaswellt a fyddai’n galluogi ffermwyr i brofi effeithiau’r gwahanol driniaethau agronomeg er mwyn gwneud y defnydd gorau o’u glaswellt amaethyddol. Erbyn hyn, gellir defnyddio lluniau o adlewyrchiad sbectrol a dynnwyd gan ddronau i fesur tyfiant glaswellt sy’n gallu cynhyrchu lluniau o ansawdd uwch. Ond, mae hyn yn ddibynnol ar weithredu â llaw.

Mae tri ffermwr llaeth yn Sir Fynwy wedi dod at ei gilydd i ymchwilio a fyddai’r dulliau newydd yma o fesur glaswellt yn eu galluogi i fesur mewn modd dibynadwy a chyflym. Maent yn gobeithio bydd y dechnoleg newydd yn eu galluogi i fesur effeithiau gwahanol driniaethau agronomeg (plaladdwyr, rhywogaethau glaswellt a’r defnydd o chwynladdwyr ayb) ar eu caeau eu hunain.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Cate Barrow