- Lleoliad:
-
Bro Morgannwg
- Swm cyllido:
-
£15,004
Disgrifiad o'r prosiect:
Nod y cynllun peilot oedd profi pa mor lwyddiannus fyddai digwyddiadau mewn lleoliad penodol ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg - Bae Dwnrhefn, Southerndown. Profodd y cynllun peilot y galw am ddigwyddiadau a hefyd barodrwydd trefnwyr digwyddiadau i gynnal digwyddiadau mewn lleoliadau gwledig.
Beth y cyflawnodd y prosiect?
Gweithiodd y prosiect gyda threfnwyr profiadol a busnesau sefydledig. Cafodd y lleoliad ei ddewis yn sgil yr astudiaeth ddichonoldeb a gomisiynwyd – Bae Dwnrhefn, Southerndown. Cafodd y digwyddiadau canlynol eu cynnal fel rhan o’r cynllun peilot:
- Gŵyl celf a chrefft
- Gweithdai Celf a Chrefft
- Sinema awyr agored
- Gŵyl bwyd araf
- Gŵyl bwyd / diod a cherddoriaeth
Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?
Trefnwyr y digwyddiadau, busnesau arfordirol, busnesau’r economi dwristiaeth
Beth oedd canlyniad eich prosiect?
Yn gyffredinol mae’r prosiect peilot wedi gweithio'n dda wrth brofi'r posibiliadau o safbwynt digwyddiadau ym Mae Dwnrhefn. Daethpwyd i’r casgliad bod marchnad yn bodoli a bod lle i ddatblygu ymhellach. Atodir pecyn cymorth i’r digwyddiad ac adroddiad gwerthuso.
Beth yw'r camau nesaf ar gyfer eich prosiect?
Barn y rhan fwyaf o ymwelwyr, trefnwyr digwyddiadau, cyfranogwyr a rhanddeiliaid yw eu bod eisiau gweld rhagor o ddigwyddiadau ym Mae Dwnrhefn yn y dyfodol. Mae canlyniadau'r gwerthusiad yn cefnogi’r farn hon. Mae potensial hefyd i ddatblygu digwyddiadau yno ac adeiladu'r proffil ar gyfer hyn, gan sbarduno manteision economaidd.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Nicola Sumner-Smith
- Rhif Ffôn:
-
01446 704707
- Cyfeiriad e-bost:
- NSumner-Smith@valeofglamorgan.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/working/Rural-Communities/Attractive-Vale.aspx