Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£8000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:
Mae Bryn Rovers yn chwarae rhan bwysig yn ei gymuned ac yn ymfalchïo mewn cynnig man lle gall oedolion a phlant fwynhau amgylchedd hwyliog a diogel i wneud ymarfer corff. 

Y cae yw'r prif faes ar gyfer gweithgareddau pêl-droed yr ardal leol ac mae'r clwb yn ceisio ei uwchraddio i wneud yr ardal yn addas ar gyfer ailddechrau pêl-droed ac er mwyn dilyn canllawiau COVID-19. Byddai dau dwll ymochel a rhwystr o amgylch y cae yn caniatáu i'r clwb sicrhau diogelwch chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr pryd bynnag y caniateir iddynt ddychwelyd.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni
Byddai rhwystr yn caniatáu i'r clwb sicrhau bod chwaraewyr yn cael eu diogelu drwy gadw unrhyw wylwyr ac eraill oddi ar y cae, a byddai hefyd yn caniatáu i'r clwb ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn well drwy farcio parthau clir i sefyll ynddynt sy'n edrych dros y cae.

Y prosiect wedi’i gyflawni:
Mae'r rhwystrau a'r tyllau ymochel wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ardal y cae chwarae ac wedi caniatáu i chwarae diogel ddychwelyd i Fryn Rovers drwy sicrhau y gellir cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Pwy sy’n elwa ar y prosiect?

  • Mae hyfforddwyr tîm wedi cytuno y byddai rhwystr o gwmpas y perimedr a thyllau ymochel yn sicrhau bod cyfleusterau’r clwb yn cydymffurfio â mesurau Covid ac yn eu hannog i ddychwelyd yn ddiogel ac yn hyderus i'r clwb.
  • Mae'r clwb wedi ffurfio partneriaeth gyda Lles Brynaman, elusen leol, sydd â'r nod o wella iechyd meddwl a chorfforol trigolion Brynaman. Gellir ailgydio yn y berthynas hon bellach i dynnu sylw at bwysigrwydd y materion hanfodol hyn.
  • Y teuluoedd, y chwaraewyr, y stiwardiaid ac aelodau'r clwb sydd wedi dangos positifrwydd a brwdfrydedd aruthrol tuag at ddatblygu'r cae er budd trigolion pentrefi lleol a phentrefi cyfagos.
  • Yn y tymhorau i ddod, mae'r clwb yn gobeithio ehangu i greu uwch-dîm menywod a nifer o dîmau bach (bechgyn a merched). 
     

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Jordan Griffiths
Rhif Ffôn:
07342 973766
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol: