Ers iddo gael ei lansio gyntaf yn 2016, mae EIP (Partneriaeth Arloesi Ewrop) yng Nghymru wedi galluogi mwy na 200 o unigolion sy'n gweithio ar lawr gwlad y diwydiant amaethyddol i elwa o'r technolegau diweddaraf a chanlyniadau gwyddonol gan arbenigwyr academaidd a gwyddonol ledled y byd.  

Mae darlithwyr, ymchwilwyr, gwyddonwyr, dadansoddwyr a nifer o arbenigwyr eraill yn y sector a gydnabyddir yn rhyngwladol bellach yn dylanwadu ar y ffordd y caiff pethau eu gwneud yma yng Nghymru, diolch i grant presennol EIP Cymru o bron o £1.7 miliwn o bunnoedd a ariennir drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Gyda chyfuniad o 46 o brosiectau amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth sydd naill ai wedi'u cwblhau neu'n dal ar y gweill – daw rhaglen EIP yng Nghymru i ben yn 2023 - mae llawer o fusnesau gwledig bellach yn dechrau dangos canlyniadau sylweddol.   

Menter a Busnes, un o brif gwmnïau datblygu economaidd gwledig Cymru, sy'n darparu EIP Cymru. Mae rôl Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio (KEH) yn IBERS, canolfan addysg wledig Prifysgol Aberystwyth, a gydnabyddir drwy’r byd, wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect.  Mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth yn gallu cael gafael ar ddata ac ymchwil unigryw, a'i rannu mewn fformat hawdd ei ddeall, gan sefydliadau academaidd drwy’r byd. 

Mae EIP yng Nghymru wedi buddsoddi mewn 46 o grwpiau gweithredol ar wahân, pob un yn gweithio ar brosiectau arloesol a chyffrous a fydd nid yn unig yn sicrhau newid o fewn y busnesau hynny, ond yn dylanwadu ar y diwydiant ehangach yn y dyfodol wrth i’r hyn a ddysgir a’r canfyddiadau gael eu rhannu.  

Yn ôl Lynfa Davies, rheolwr cyfnewid gwybodaeth gyda Cyswllt Ffermio, sy'n rheoli'r prosiect, mae EIP yng Nghymru wedi bod yn hynod lwyddiannus a bydd iddo oblygiadau o ran y ffordd y caiff pethau eu gwneud yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.  

“Mae rhoi'r cyfle unigryw hwn i ffermwyr a choedwigwyr blaengar ymchwilio i syniadau newydd a thechnolegau arloesol ar faterion sy'n 'wirioneddol bwysig' iddynt, ac a fydd yn effeithio ar eu heffeithlonrwydd a'u cynaliadwyedd yn y tymor hir, o fudd mawr i'r grwpiau sy'n cymryd rhan eu hunain a'r diwydiant ehangach," meddai Ms Davies. 

Mae prosiect a gwblhawyd yn ddiweddar yn Ynys Môn wedi lleihau'r defnydd o wrthfiotigau o fewn diadelloedd defaid y grŵp. Gan weithio'n agos gyda milfeddyg ac arbenigwr iechyd defaid a wahoddwyd, mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy gyfuniad o wahanol dechnegau rheoli ŵyna megis cynyddu glendid yn y sied ŵyna a newid maeth mamogiaid.  

Yn Sir Fynwy, mae garddwr marchnad organig wedi canfod bod tyfu asbaragws organig – prin fod neb wedi mentro eu tyfu yng Nghymru - wedi bod yn llwyddiannus o ran ansawdd, lefelau cynhyrchu a gwerthiant drwy'r siop fferm a busnesau lleol, gan arwain at ffrwd incwm newydd broffidiol. 

Yng Ngogledd Cymru, mae prosiect sy'n edrych ar asesiadau genomeg mewn heffrod llaeth wedi cyflymu cyfradd gwella buchesi'n sylweddol, gyda'r ffermwyr bellach yn gallu dewis dim ond yr heffrod hynny sydd â'r potensial genetig gorau ar gyfer bridio.

Mae prosiect ymchwil arall i laswelltir, lle treialwyd bwyd dail hylifol yn hytrach na'r gwrtaith gronynnog a ddefnyddir gan amlaf, yn cael effaith amgylcheddol ac ariannol cadarnhaol, gan arwain at ddull llwyddiannus, mwy cost-effeithiol. 

Mae Andy Matthews, sy'n ffermio 600 erw yn Aberbran Fawr, ger Aberhonddu wedi bod yn brysur yn paratoi cnwd o tua 5,000 o bwmpenni y tymor hwn, ar gyfer y farchnad Calan Gaeaf broffidiol ddiwedd y mis hwn.  Fodd bynnag, mae cyfyngiadau Covid 19 wedi effeithio ar hyd y tymor, ond drwy addasu i'r amgylchiadau, bu’r gwerthiant yn dda yn ystod y cyfnod yn arwain at y cyfyngiadau wrth i deuluoedd fynd ati’n gynnar i gynllunio eu dathliadau gartref. 

"Yn anffodus, bydd yn rhaid gwerthu unrhyw stoc sydd ar ôl am lai o bris i'r farchnad gyfanwerthu," meddai Mr Matthews. 

Gall pwmpenni ddod ag elw sylweddol o farchnadoedd Calan Gaeaf PYO lleol, ond mae galw cynyddol arnynt hefyd fel cnwd bwytadwy, gyda nifer o fathau amlwg o bwmpenni bwytadwy ar gael i dyfwyr y DU erbyn hyn.

Trodd Mr Matthews a grŵp o ffermwyr tebyg at EIP yng Nghymru oherwydd bod eu hymchwil gynnar eu hunain wedi dangos fod cnydau pwmpenni’n dueddol o ddioddef o broblem pydredd ym mhen y blodyn (BER) sy'n gallu golygu nad oes modd gwerthu’r pwmpenni. 

"Roeddwn yn ymwybodol y gallai BER arwain at golledion sylweddol o ran y cnwd a’i bod yn un o brif ffynonellau gwastraff yn y sector hwn, ond drwy weithio gydag arbenigwyr o ADAS cawsom ganllawiau arbenigol ar leihau'r risg hon drwy fynd i'r afael â gofynion maethol cnydau a phridd.” 

Roedd y cymorth ariannol a oedd ar gael drwy'r rownd derfynol hon o EIP yng Nghymru, sydd bellach wedi'i ddyrannu i gyd, am hyd at uchafswm o £40,000 fesul prosiect.   Fe'i dyrannwyd at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys prynu cyngor arbenigol i mewn, llogi cyfarpar, costau contractwyr a gweithdrefnau monitro e.e. samplau, profion a dadansoddi data.   

I gael rhagor o wybodaeth am EIP yng Nghymru a'i brosiectau, ewch i -www.gov.wales/farmingconnect

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.