Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39800.00

Y maethiad gorau posibl yw’r sail ar gyfer cynhyrchu da byw yn effeithiol ac effeithlon. Efallai na fydd glaswellt ar ei ben ei hun yn cynnig yr holl elfennau maethol sy’n ofynnol gan famogiaid ac weithiau mae angen ategu maetholion i wella cynhyrchiant. Yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r penderfyniad i ategu yn seiliedig ar brofi’r glaswellt/porthiant, pridd neu’r defaid. Ond, yr unig ffordd i asesu a yw’r defaid yn cael eu cynnal yn faethol yw ymchwilio i’r crynhoad o faetholion yn y ddafad a chymharu hynny â’r lefelau arferol. Yn draddodiadol yn y Deyrnas Unedig mae hyn wedi cael ei gyflawni trwy gymryd samplau gwaed o sampl o ddefaid. Gall y crynhoad yn y gwaed ymateb i newidiadau mewn diet o fewn dyddiau a gall prosesau afiechydon hefyd ddylanwadu arnynt. Oherwydd hyn, dim ond rhan o’r stori gewch chi wrth seilio’r canlyniadau ar y gwaed yn unig.

Mae biopsi iau anifeiliaid byw yn rhoi gwybodaeth wahanol i waed gan ei fod yn rhoi amcangyfrif tymor hwy hanesyddol o statws yr elfennau hybrin. Gwelwyd bod y dechneg yn gyflym, diogel a dibynadwy. Mae’r defaid yn cael eu dal yn gaeth a rhoddir anaesthetig lleol iddynt. Cneifir y gwlân oddi ar ardal fechan ac yna mae’n cael ei pharatoi ar gyfer llawfeddygaeth. Yna mae nodwydd biopsi yn cael ei gwasgu i mewn trwy fwlch yn yr asennau i gael sampl bychan o feinwe’r iau. Rhoddir gwrthfiotig wedyn i atal unrhyw heintiad.

Mae dadansoddi gwaed yn dal yn ddefnyddiol ar y cyd â hyn gan y gall roi gwybodaeth tymor byr sy’n rhoi amcan o’r cyflenwad presennol a’r ymateb, yn ogystal â gwybodaeth am y gystadleuaeth rhwng elfennau. Y samplau gwaed ac iau gyda’i gilydd sy’n rhoi’r arwydd mwyaf cynhwysfawr o statws elfennau hybrin hanesyddol a phresennol a’r wybodaeth orau i ffurfio cyngor rheoli ar gyfer addasiadau i’r diet yn y dyfodol.

Yn y prosiect hwn mae deuddeg o ffermydd ar draws Gogledd Cymru yn defnyddio’r dull sampl deublyg hwn yng nghyd-destun defaid, ynghyd â dadansoddiad o’r porthiant sydd ar gael. Nod y prosiect yw defnyddio dull deallus a blaengar i gynllunio maethiad mamogiaid magu.

  • Bydd samplau iau a gwaed yn cael eu cymryd o 8 mamog o’r 12 diadell cyn i’r tymor bridio gychwyn yn 2018 i asesu lefelau’r elfennau hybrin
  • Bydd y porthiant sydd ar gael yn cael ei ddadansoddi ar bob fferm
  • Yna bydd cyngor ar gynllunio maethiad yn cael ei roi gan ddefnyddio canlyniadau’r profion iau/gwaed a phorthiant.
  • Ar amser sganio bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd i bennu’r statws egni, protein a chopr. Gwneir addasiadau i’r diet os bydd angen.
  • Bydd samplau iau a gwaed yn cael eu cymryd ar ôl diddyfnu i fonitro llwyddiant/methiant y cyngor ar faethiad.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 18 (Tachwedd / Rhagfyr 2019): Gweithredu rheolaeth…

Cyhoeddiad Technegol, Rhifyn 20 (Mawrth / Ebrill 2019): Gweithredu rheoli maeth…

Fideo (Chwefror 2019): Rheolaeth lefel uwch ar faethiad

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Joe Angell
Email project contact