Amcanion y prosiect;

  • A oes manteision sylweddol i ddulliau rheoli plâu biolegol o ran eu gallu i reoli plâu o’u cymharu â systemau confensiynol?
  • A yw dulliau rheoli plâu biolegol yn fuddsoddiad cost-effeithiol o’u cymharu â dulliau rheoli confensiynol?
  • Pa addasiadau sy’n angenrheidiol i allu gweithredu rhaglen rheoli plâu fiolegol yn effeithiol mewn busnes ffrwythau meddal?
  • Pa broblemau/anfanteision cyffredin a welir â rhaglenni rheoli biolegol, a sut gellid delio â’r rhain neu eu hosgoi?

Bydd y prosiect yn rhedeg am ddwy flynedd o fis Ionawr 2020 tan fis Rhagfyr 2021.

Bydd y tyfwyr yn gweithio’n agos ag arbenigwyr i ddatblygu rhaglen a fydd yn addas i'w systemau tyfu nhw. Caiff yr union ddulliau a ddefnyddir eu dewis ar sail pa blâu sydd i'w cael ym mhob safle, fodd bynnag disgwylir y bydd o leiaf pedwar pla yn cael eu targedu. Bydd y tyfwyr yn cael hyfforddiant parhaus ar adnabod plâu, dulliau monitro, a dewisiadau rheoli biolegol.  Ar ddiwedd y prosiect, cyhoeddir argymhellion arferion da ar gyfer y sector ehangach.

Mae dulliau biolegol o reoli plâu wedi dod yn ymarfer safonol i lawer o ffermydd garddwriaeth mwy sy’n cyflenwi archfarchnadoedd, ond nid yw eto’n ymarfer cyffredin i lawer o dyfwyr ffrwythau llai yng Nghymru. Mae dulliau rheoli biolegol yn golygu defnyddio ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, bacteria, ac weithiau blanhigion i reoli plâu a chwyn fel rhan o raglen rheoli plâu integredig, yn bennaf mewn tai gwydr a thwnelau polythen. Mae gan lawer o dyfwyr ffrwythau bychain ddiddordeb mewn defnyddio’r dull hwn er mwyn gallu defnyddio llai o blaladdwyr confensiynol a lleihau’r siawns bod plâu yn datblygu ymwrthedd i'r plaladdwyr hyn. 

Y prif rwystr i dyfwyr bychain yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i adnabod plâu, pa ddulliau rheoli biolegol sydd ar gael, sut orau i'w defnyddio, a sut i'w hintegreiddio i'r rhaglen rheoli plâu a chlefydau sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Fel rhan o'r prosiect hwn bydd gwahanol strategaethau rheoli plâu biolegol yn cael eu treialu ar ddwy fferm ffrwythau fasnachol yn ne-orllewin Cymru, gydag ardal dyfu gyfunol o oddeutu 1.3ha. 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.