Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£39999.00

Disgrifiad Prosiect

Mae’r angen am ganfod pwyntiau gwerthu unigryw (USP’s) yn bwysicach nag erioed yn y sector laeth gan fod y cyflenwad llaeth traddodiadol yn cael ei effeithio gan farchnadoedd ansicr a phrisiau llaeth cyfnewidiol. Mae llaeth wedi cael ei ddefnyddio i hybu cwsg ers amser. Melatonin yw’r hormon sydd mewn llaeth sy’n helpu rheoli cylchred cysgu a deffro ac yn cael ei gynhyrchu yn naturiol gan y fuwch mewn ymateb i’r tywyllwch.

Milking

Mae dau ffermwr llaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o brosiect EIP a all ddod o hyd i’r system godro orau i gynyddu Melatonin yn llaeth y fuches. Mae’r ddwy fferm yn systemau llaeth 3 gwaith y dydd sy’n godro eu buches gyfan bob wyth awr. Ar hyn o bryd mae’r llaeth i gyd yn cael ei gyfuno gyda’i gilydd, ond yn y prosiect 13 mis hwn, bydd llaeth a gynhyrchir yn ystod y dydd ac yn y tywyllwch yn cael eu samplu ar wahân. Bydd y prosiect yn penderfynu a oes digon o Felatonin yn y llaeth nos i’w frandio am ei gwerth ysgogi cwsg. Bydd yr holl amrywiadau tymhorol (haf/golau gaeaf), ffactorau amgylcheddol (siediau/goleuo), a ffactorau eraill megis maeth yn cael eu hystyried wrth fonitro lefelau Melatonin. 

Os yw lefelau’r Melatonin sy’n cael ei gynaeafu yn ystod yr oriau tywyll yn cael ei fesur yn 1mg o Felatonin i bob 250g o laeth neu fwy, mae posib dweud ei fod yn helpu annog cwsg. Byddai cyfle i ffermwyr ystyried datblygu cynnyrch llaeth premiwm gyda gwerth ychwanegol a chystadleuol yn y sector llaeth yng Nghymru o gyflawni canlyniad o’r fath.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau

Adroddiad (Tachwedd 2019): Adroddiad llawn y prosiect llaeth nos

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Russell Thomas
Email project contact