Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£79647.00

 

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae tri amcan i Brosiect Iechyd a Digidol Llandrindod.  Y cyntaf yw ‘Sicrhau bod y dref a’i busnes yn elwa ar y data sy’n cael eu casglu drwy system WI-FI y dref’. Nod y prosiect oedd gweithio gyda busnesau ac eraill i edrych ar ddehongli, deall, dosbarthu a defnyddio data dienw a gasglwyd drwy WI-FI y dref. 

Yr ail amcan oedd ‘Sicrhau bod y dref yn elwa ar frand lleoliad Iechyd Llandrindod’.  Y nodau oedd gweithio gyda sefydliadau cymunedol a busnesau twristiaeth a hamdden yn yr ardal i gryfhau, datblygu a defnyddio brand lleoliad Iechyd Llandrindod i farchnata'r dref. Roedd hefyd yn dymuno edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y brand i dair tref ‘Ffynhonnau’ arall ym Mhowys (Llanfair-ym-Muallt, Llanwrtyd a Llangamarch) i greu hunaniaeth gryfach ar gyfer yr ardal yma. Amcan olaf y prosiect oedd ‘Gwella profiad yr ymwelwyr ym Mharc y Llyn a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i’r ardal'. 

Ceisiodd y prosiect gyflawni’r amcan hwn drwy gefnogi asiantaethau eraill i gyflawni camau gweithredu Cynllun Busnes Parc y Llyn Llandrindod ac adroddiad Porth y Dref.  

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Bydd y prosiect yn annog menter ac entrepreneuriaeth drwy wneud y data Dadansoddeg Presenoldeb ar gael i fusnesau a darpar fusnesau a defnyddio’r dechnoleg honno i fesur effeithiolrwydd y gweithgarwch busnes a'r digwyddiadau yn y dref. 

Bydd y prosiect yn manteisio ar ein hadnoddau naturiol a dynol drwy ddefnyddio’r brand Iechyd i weithio gydag amrywiaeth o unig fasnachwyr yn y sector therapiwtig a dod â hwy at ei gilydd gyda'r sector twristiaeth i greu pecynnau newydd, digwyddiadau a chynigion sy’n atyniadol i ymwelwyr.
Bydd y prosiect yn datblygu seilwaith i gefnogi darpariaeth twristiaeth Iechyd a fydd yn manteisio i'r eithaf ar ein cefn gwlad gwych ni a’r awyr iach, a allai ehangu i gynnwys trefi ffynhonnau eraill Powys. 

Bydd y prosiect yn manteisio i'r eithaf hefyd ar gryfderau ac asedau ar y cyd i ddatblygu datrysiadau cymunedol drwy greu dau grŵp sy’n cynnwys pobl fusnes leol ac eraill a fydd yn gyfrifol am ddefnyddio'r data digidol a’r brand Iechyd mewn gweithgarwch priodol i’n tref ni.

Bydd y prosiect yn cydweithredu, yn cydweithio, yn cyfathrebu ac yn cydgynhyrchu drwy annog busnesau i gynhyrchu pecynnau newydd ar gyfer y sector twristiaeth wedi’u creu o gynhyrchion presennol a newydd sydd wedi’u casglu at ei gilydd a’u brandio gan ddefnyddio’r brand iechyd, drwy ddefnyddio'r data i ddylanwadu ar ymddygiad busnes a’i newid.

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Cymunedau a busnesau Llandrindod; Llanfair-ym-Muallt; Llanwrtyd; Llangamarch a Rhaeadr Gwy.

Beth oedd canlyniad eich prosiect? 

Allbwn (Dangosydd Lefel Achos)

Wedi’i gyflawni

Sylw

Nifer y rhwydweithiau a sefydlwyd 3
  • Grŵp data  
  • Grŵp Iechyd Calon Cymru 
  • Grŵp Iechyd Llandrindod 
Nifer y gweithgareddau peilot yr ymgymerwyd â hwy / a gefnogwyd 2
  • Adroddiad Dehongli Data a Threial I-Beacon 
  • Busnes y Brand Iechyd
Nifer y rhanddeiliaid a gymerodd ran
 
92
  • 22 o fusnesau  
  • 70 aelod o'r cyhoedd

Allbwn (Dangosydd Lefel Achos)

Wedi’i gyflawni

Sylw

Nifer y swyddi a grëwyd 70% cyfwerth ag amser llawn Swyddog y Prosiect
Nifer y cymunedau’n elwa 5
  • Llandrindod 
  • Llanfair-ym-Muallt 
  • Llanwrtyd  
  • Llangamarch  
  • Rhaeadr Gwy
Nifer y busnesau’n elwa 22  

Y Gwersi a Ddysgwyd:

Wynebodd y prosiect sawl her, fodd bynnag, cafwyd llawer o ddatrysiadau i’r heriau hyn hefyd. Un her y daeth y prosiect ar ei thraws oedd bod angen swyddog prosiect gydag ystod amrywiol o sgiliau mewn twristiaeth, marchnata, rhaglenni a thechnoleg casglu data. 

Roedd y prosiect yn teimlo ei bod yn anodd dod o hyd i ymgeisydd a oedd yn fedrus ym mhob un o'r meysydd gofynnol, felly'r datrysiad i hyn oedd defnyddio asiantaethau proffesiwn os nad oedd gan y swyddog prosiect y sgiliau gofynnol.  

Er bod busnesau bach yn fodlon rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chymryd rhan, roedd y prosiect yn ei chael yn anodd gwerthu’r brand am nad oedd ganddynt dystiolaeth glir a chadarn o’u harloesi. Roedd y swyddog prosiect yn gwybod bod rhaid iddi wneud rhywbeth i ddenu ac esbonio’r prosiect mewn ffordd gyflym ac effeithiol. Gwnaed hyn drwy greu ffilmiau byrion.  

Roedd sawl her yn rhan o amcan un y prosiect, ac un o'r heriau mwyaf o ddigon oedd dod o hyd i ffordd o rannu data WI-Fi heb rannu gwybodaeth bersonol, a darbwyllo’r Awdurdod Lleol na fyddai'r dull oedd wedi’i ddewis yn arwain at anawsterau iddo. Un datrysiad i hyn fyddai defnyddio cwmni dadansoddi data. 
Penderfynodd y prosiect ddefnyddio ‘Presence Orb’ gan mai hwn oedd yr unig ddatrysiad technegol oedd ar gael ar y pryd. Drwy ddefnyddio’r cwmni hwn roedd yn cyflawni gofynion yr Awdurdod Lleol ac yn cydymffurfio â'r GDPR.  

Her arall y daeth y prosiect ar ei thraws oedd nad yw data’n gyffrous ac roedd cael pobl i ymwneud â’r data’n waith caled. Creodd y prosiect fideos un munud o ddata perthnasol.  Roedd aelodau'r cyhoedd yn ymwneud mwy â’r dull hwn o gyflwyno gan fod yr wybodaeth a'r data yn y clipiau fideo byr yn faterion lleol ac yn berthnasol, fel niferoedd ymwelwyr.  Y cam olaf o ran sicrhau bod y dref a’i busnesau’n elwa ar y data a gasglwyd gan system WI-Fi y dref oedd ceisio darbwyllo busnesau sut orau i ddefnyddio'r tueddiadau neu'r ffigurau a godwyd o ddata'r WI-Fi. 

Gwaetha'r modd, ni weithredodd llawer ohonynt ynghylch y data a ganfuwyd ac ni chafwyd ateb i'r her hon. Daeth y grŵp data i ben ar ddiwedd blwyddyn un. Fel gydag amcan un y prosiect, roedd heriau’n gysylltiedig ag amcan dau y prosiect, sef sicrhau bod y dref yn elwa o frand lleoliad Llandrindod, ac eto, cafwyd hyd i ddatrysiadau. Cyflwynodd y prosiect gais am arian gan y ‘Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth’ ond, yn anffodus, cafodd ei gnocio allan yn y rownd derfynol.  Roedd y prosiect yn ddibynnol ar ganlyniad llwyddiannus a phan na ddigwyddodd hyn, collodd fomentwm. Datrysiad y prosiect oedd ailgyfeirio arian y prosiect i weithgareddau oedd yn cael eu rhannu, gan olygu y byddai'r dref gyfan yn elwa o wneud fideo hyrwyddo gyda thema iechyd. Fis Mehefin 2019, cafodd Llangamarch, Llanwrtyd, Rhaeadr Gwy a Llanfair-ym-Muallt fideos hyrwyddo i gyd ar gyfer eu tref, a chafodd Llandrindod ddau fideo. Rhannwyd pob fideo ar gyfryngau cymdeithasol a’u gwylio gan nifer gwych o bobl.  

Un o’r amcanion gyda'r brandio oedd ceisio ehangu'r brand Iechyd i'r tair tref ‘Ffynhonnau’ arall ym Mhowys, a hefyd Rhaeadr Gwy.  Fodd bynnag, o edrych yn ôl, roedd y Prosiect yn teimlo bod hon yn ormod o her ac yn ormod o waith i'w wneud yn nwy flynedd y prosiect. Sylweddolodd grŵp Iechyd Llandrindod bod eu hamser yn gyfyngedig gyda’r swyddog prosiect ac aethant ati i berchnogi’r syniad brandio yn gynnar iawn. Daeth Grŵp Iechyd Llandrindod yn gynhyrchiol iawn gan rannu sticeri ffenestri Iechyd Llandrindod a chynnal Diwrnod Iechyd Llandrindod.  Mae logo Iechyd Llandrindod a’i ffont nodedig, a'r hashnod, yn amlwg iawn yn y dref ac mewn busnesau. Datgelodd yr arolwg cyhoeddus yn ystod Diwrnod Iechyd Llandrindod bod 67% o bobl wedi gweld #IechydLlandrindod gyda 53% o bobl yn dweud eu bod wedi gweld y ffilm Iechyd Llandrindod a 56% yn dweud eu bod wedi gweld y logo Iechyd yn y dref.   

Ym mis Mehefin 2019, roedd y brand ‘Iechyd Llandrindod’ i’w weld ym mhob rhan o'r dref, ond roedd y prosiect yn ei chael yn anodd gweithio gyda busnesau unigol ar ddechrau eu hymgyrch farchnata.  Roedd pob busnes yn teimlo ei fod wedi gweithio’n galed i greu ei hunaniaeth ei hun ac roeddent yn ei chael yn anodd deall sut byddai bod yn rhan o frand Llandrindod yn helpu eu busnes.  Penderfynodd y prosiect y gallai’r gair ‘brand’ fod yn derminoleg anghywir i’w ddefnyddio ac y dylid ei alw’n fudiad. Roedd y busnesau’n teimlo y gallent ymuno â mudiad a chadw eu brand presennol.  Pan gafodd y prosiect gefnogaeth Tesco yn Llandrindod, dechreuodd busnesau eraill weld y gallech chi fod yn unigryw fel busnes yn ogystal â bod yn rhan o frand Iechyd Llandrindod yn gyffredinol.  Roedd yn achos o un yn arwain ac wedyn eraill yn dilyn. Mae Iechyd Llandrindod yn frand cadarn yn awr yn Llandrindod, ynghyd â gwahanol ddigwyddiadau’n cymryd rhan hefyd.  

Y trydydd amcan, a’r un terfynol yn y prosiect oedd gwella’r profiad i ymwelwyr â Pharc y Llyn a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i’r ardal. Wynebodd y prosiect rwystrau mawr oherwydd byddai cost fawr i ddarparu hyn. I gyflwyno Cynllun Busnes Parc y Llyn a hefyd adroddiad Porth, byddai’n costio oddeutu £7.5 miliwn.  Ni theimlwyd bod y camau gweithredu hyn yn hanfodol. Nid oedd datrysiad yn mynd i fod i ddod o hyd i £7.5 miliwn, felly cefnogodd y prosiect dîm Adfywio Cyngor Sir Powys gyda gwneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid i gyflwyno pecynnau bach o waith. Cyflawnwyd rhywfaint ar yr Adroddiad Porth gan ddefnyddio cyllid elusennol. Helpodd busnesau, elusennau a sefydliadau lleol gyda chyllido arwyddion ar gyfer dau Lwybr Iechyd newydd o amgylch y dref.  
 

   
     
     
     
     
     
     
     

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Kevin Harrington
Rhif Ffôn:
01597 827378
Email project contact