Bydd y prosiect hwn yn edrych sut i leihau allyriadau amonia o siediau brwyliaid gan ddefnyddio ychwanegion sydd ar gael yn fasnachol. 

Cefndir

Mae cynhyrchu brwyliaid wedi bod yn sector sy’n tyfu o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r galw cynyddol am gywion ieir wedi cynnig cyfleoedd ymarferol ar gyfer arallgyfeirio i nifer o ffermwyr yng Nghymru. Un o oblygiadau annatod unrhyw fath o ffermio dofednod yw cynhyrchiant amonia, wrth i’r wradau ddadelfennu’n naturiol o fewn tail dofednod. Gall allyriadau amonia o ganlyniad i gynhyrchu dofednod arwain at nifer o effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, lles adar a ffactorau economaidd yn ymwneud â chynhyrchu brwyliaid.

Mae deddfwriaeth yn ei le ar hyn o bryd i leihau allyriadau amonia ar ffermydd dofednod. Nodir fod allyriadau amonia yn un o’r prif resymau dros wrthod rhoi caniatâd neu atal cynlluniau i ehangu. Mae siediau modern gyda gwell systemau awyru a gwresogi ynghyd â gwella’r sbwriel sy’n cael ei greu wedi lleihau allyriadau amonia, ond mae’n bosibl bod modd gwneud gwelliannau pellach drwy ddefnyddio ychwanegion.

Mae defnyddio ychwanegion sy’n lleihau amonia, naill ai drwy eu hychwanegu’n uniongyrchol at y sbwriel neu ei gyflenwi i’r adar drwy’r dŵr yfed, yn cynnig dull ychwanegol o leihau cynhyrchiant amonia ymhellach. Mae dau gynhyrchydd brwyliaid masnachol profiadol, gydag adeiladau modern a blynyddoedd o brofiad o gynhyrchu dofednod ar gyfer marchnad y DU, yn cymryd rhan yn y prosiect blwyddyn hwn i edrych sut y gall yr ychwanegion hyn leihau eu hallyriadau amonia.

Cynllun y prosiect

  • Bydd tri gwahanol ychwanegyn sy’n lleihau amonia yn cael eu profi
  • Bydd pob un ohonynt yn cael eu defnyddio ar gyfer un gylchred gynhyrchu (2 fis) ar y ddwy fferm

Bydd y ffactorau amrywiol canlynol yn cael eu monitro a’u cofnodi ar gyfer pob triniaeth:

  1. Lefelau amonia yn y siediau
  2. Tymheredd o fewn y siediau
  3. Cyflwr gwaelod y traed, yr egwyd a sgorio symudiad
  4. Cyflwr y plu
  5. Cyflwr y sbwriel
  6. Cymedr pwysau byw’r adar
  7. Cyfradd marwoldeb yr haid
  8. Cymeriant bwyd
     

Mae’r gwelliannau posibl o ran iechyd/perfformiad anifeiliaid a lleihad mewn allyriadau amonia a gynigir drwy ddefnyddio’r ychwanegion hyn yn cael eu trafod yn helaeth. Bydd y prosiect hwn yn helpu ffermwyr i asesu a ydynt yn adnodd defnyddiol iddyn nhw er mwyn lleihau lefelau amonia ar eu ffermydd.

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.