Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£5000.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

  • Treialu marchnadoedd cynnyrch awyr agored gyda’r hwyr yn ardal Parkmill gyda gweithgareddau addysgol cysylltiedig
  • Pennu’r lefelau galw am farchnadoedd cynnyrch gyda'r hwyr yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr y tu allan i'r iard ganolog trwy gynnal cynllun peilot
  • Cyflwyno 3 marchnad gyda'r hwyr dros gyfnod yr haf (1 ohonynt yn ystod gwyliau’r ysgol), gan gynnwys gweithgaredd addysgol 'coginiwch eich pizza eich hun' a gweithgareddau addysgol eraill i blant, pobl ifanc a theuluoedd 
  • Mae'r cynllun peilot yn adeiladu ar lwyddiant casgliadau wythnosol Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) Cae Tân, poblogrwydd Little Valley Bakery, Hoogars’, caffi Square Peg a Chynulliad Bwyd Abertawe, ynghyd â chynnydd yn niddordeb y cyhoedd mewn cynnyrch organig a lleol, yn ogystal â mwy o fodelau busnes sy'n canolbwyntio ar y gymuned
  • Mae'r cynnig yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol trefnu digwyddiadau tebyg, argaeledd cynhyrchwyr, costau sefydlu a hyrwyddo digwyddiadau ar amserlen dynn a gwybodaeth ddigonol o fwydydd ffasiynol
  • Bydd y prosiect yn dechrau ar 11 Mehefin ac yn gorffen ar 28 Medi 2020 a dyddiadau'r farchnad fydd 12 Gorffennaf, 9 neu 16 Awst ac 13 Medi  

Caiff y prosiect ei hysbysebu i dwristiaid sy'n ymweld â'r ardal trwy ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol sefydledig ac arbenigedd marchnata i hyrwyddo cynnyrch lleol o safon. Caiff yr hyn a gynigir yn lleol ei wella hefyd trwy ymrwymiadau amgylcheddol y prosiect, trwy ofyn i gynhyrchwyr gyfyngu ar eu defnydd o blastigion. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Er mai bwriad y prosiect yw sefydlu marchnad sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cael ei llywio ganddi, y nod yw sefydlu marchnad sy'n fodel bwyd/cynnyrch lleol pwysig, a fydd yn ennyn diddordeb ac yn denu ymwelwyr i ardal Gŵyr. I ddechrau, bydd y farchnad ar agor bob mis, caiff ei threialu yn ystod yr haf (yn ystod gwyliau'r ysgol ac y tu allan i'r cyfnod hwn) a bwriedir iddi fod ar agor rhwng y gwanwyn a'r hydref. Gan y bydd yn canolbwyntio ar fwyd o darddiad lleol ac addysg, gallai’r farchnad fod yn fenter arloesol yn yr ardal a gan ddenu sylw pobl ar draws y wlad.

Bydd y fenter yn dangos hunangynhaliaeth rhwng cynhyrchu bwyd yn lleol a lleoliad gwerthu canolog ar gyfer dosbarthu bwyd, ac felly'n cynnal ffordd gynaliadwy o fyw ar gyfer economi'r gymuned leol.

Bydd y prosiect hwn yn datblygu'r amrywiaeth o fwydydd sydd eisoes ar gael i'r gymuned leol. Mae Cae Tân a Little Valley Bakery yn cynnig amrywiaeth o nwyddau i'r gymuned leol a'n bwriad yw ehangu'r amrywiaeth o fwydydd sydd ar gael yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr. Bydd y farchnad yn ffordd o wella mynediad at fwydydd lleol, cynyddu ymwybyddiaeth ohonyn nhw a gwella addysg amdanynt. 

Caiff y prosiect ei hyrwyddo'n ddigidol a bydd yn gam ar y ffordd i greu marchnad ar-lein ar gyfer siopa wythnosol. Bydd creu cymuned ddigidol weithredol yn llywio'r farchnad ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol ac yn annog pobl i fod yn weithredol yn eu cymunedau.

Pwy arall sy’n elwa?

  • Cynhyrchwyr a ffermwyr lleol (ar draws nifer o ardaloedd gwledig)
  • Aelodau cymunedau leol (Gŵyr, Fairwood, Pennard a Llandeilo Ferwallt yn bennaf)
  • Twristiaid

Beth oedd canlyniad eich prosiect? 

Pennwyd lefelau'r galw trwy sefydlu digwyddiad ar Facebook i fonitro cynulleidfa ddigidol a chyfrifom nifer y bobl a ddaeth i’r digwyddiad hefyd. Roedd lefelau'r galw'n llawer gwell na’r disgwyl, ond pe bai'r prosiect yn ailadrodd hyn, byddem yn trefnu lle yn y digwyddiad er mwyn ymgynghori ag unigolion am nodau'r prosiect a chasglu enwau a chyfeiriadau e-bost ar gyfer cylchlythyrau a rhwydweithio yn y dyfodol.

Cynhaliwyd y 3 digwyddiad yn llwyddiannus, sef prosiect y pizza, Down to Earth a digwyddiadau'r SUP HUT i deuluoedd.

Yn sgîl y prosiect peilot hwn, cynyddodd diddordeb y cyhoedd mewn cynnyrch organig a lleol, yn ogystal â modelau busnes sy'n canolbwyntio’n fwy ar y gymuned.

Cyfrannodd yr holl randdeiliaid i'r digwyddiadau ac roedd trefnwyr y prosiect yn gallu cyrraedd y gynulleidfa gywir trwy rannu'r digwyddiadau â chynulleidfaoedd unigol - taflenni a chyfryngau cymdeithasol. Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â safon bwydydd lleol, lles uchel a/neu organig.

Cafwyd llwyddiant wrth gyflwyno'r prosiect peilot yn yr amserlen dynn a defnyddiodd aelodau'r grŵp eu harbenigedd mewn lletygarwch i gyflwyno digwyddiad bwyd llwyddiannus a oedd yn cynnig cynnyrch poblogaidd, e.e. neuadd fwyd fodern gyda chyrfau crefft a choginio gwladaidd di-wastraff

Roedd y prosiect yn llwyddiannus oherwydd yr amrywiaeth o grwpiau allweddol a oedd yn rhan ohono (Cae Tân, Cynulliad Bwyd Abertawe, Little Valley Bakery, Gower Power a Square Peg).

Rhoddodd y cynhyrchwyr gyfle i'r bobl weld a phrofi bwydydd lleol, siarad â'r ffermwyr a'r bobl a wnaeth y bwyd. Roedd y bragwyr lleol yn gweini eu cyrfau (Beer Riff a Glamorgan Ales) ac roedd llawer o bobl am wybod rhagor am y cynnyrch ac roeddent yn gallu gofyn yn uniongyrchol.

Roedd y digwyddiadau'n cynnwys stondinau crefftau a digwyddiadau addysgol megis Down to Earth a'r Ysgol Goedwig, a oedd yn denu math gwahanol o gwsmer, neu gwsmeriaid â phlant a oedd am gael rhywbeth i'w fwyta ac yfed a chymryd rhan  hefyd mewn gweithgareddau i deuluoedd.

Roedd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys band a DJ gan ganiatâ i’r cwsmeriaid aros yn hwyrach a mwynhau'r bwyd a'r gerddoriaeth a oedd ar gael iddynt. Roeddent hefyd yn arddangos gweithgareddau megis padlo bwrdd ar eich traed o Ganolfan Treftadaeth Gŵyr i Fae y Tri Chlogwyn, a oedd yn galluogi pobl i hysbysebu eu gweithgareddau gan roi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. 

  • Nifer y rhwydweithiau a sefydlwyd 1
  • Nifer y gweithgareddau peilot a gynhaliwyd/a gefnogwyd 1
  • Nifer y canolfannau cymunedol 1
  • Nifer y rhanddeiliaid a gymerodd ran 20

Beth oedd yr heriau?

Roedd y digwyddiadau'n addas ar gyfer y gymuned leol ond sylwodd y trefnwyr, gan fod y digwyddiadau’n cael eu cynnal yn bennaf yn ystod gwyliau’r haf, fod galw mawr hefyd i dwristiaid ddod i ddigwyddiad sy'n dathlu cynnyrch a doniau lleol. Siaradodd trefnwyr â nifer o bobl a oedd yn aros mewn llety gwyliau ac mewn gwersyllfeydd lleol a oedd wedi mwynhau'r digwyddiad. O ganlyniad i'r ymgynghoriadau, nodwyd y byddai angen cyllideb fwy i hysbysebu i dwristiaid ar gyfer digwyddiad 2 a 3. Defnyddiodd rhanddeiliaid eu rhwydwaith ehangach i ddweud wrth wersyllfeydd lleol a dosbarthu taflenni iddynt. Eto, os oedd y galw’n fwy, byddai ardaloedd arall yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr wedi cael eu defnyddio i ddarparu ar gyfer hyn.

Dysgwyd hefyd nad oedd y fformat wedi gweithio’n dda iawn wrth gynyddu gwerthiannau fel marchnad cynnyrch ar y noson. Cafodd y trefnwyr drafferth  yn arbennig wrth ceisio cael stondinwyr i ymrwymo i ddod i farchnad newydd nad oedd eisoes wedi'i phrofi, a bod y digwyddiad yn cael ei gynnal gyda'r hwyr. Ar ôl y digwyddiad cyntaf, cydnabu’r rhanddeiliaid anawsterau denu a chadw cynhyrchwyr lleol. 

Mae llawer mwy o waith i’w wneud o ran mynd ar drywydd taliadau gyda'r model hwn, ond mae’r gan y cynhyrchwr a'r trefnwr hawl i gytundeb tecach, e.e. os yw'r farchnad yn dawel, bydd y ddau ohonynt yn derbyn llai, ac os yw'n brysur, bydd y ddau ohonynt yn elwa. 

Er bod llawer o bobl wedi dod i'r digwyddiad, gellid fod wedi addasu'r digwyddiad i gynnwys y tu mewn i'r ganolfan dreftadaeth. Byddai hynny wedi caniatáu mwy o le i ddigwyddiadau a stondinau, er y byddai angen rhagor o gyllideb ar gyfer marchnata i lenwi'r lle.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Er mai bwriad y prosiect oedd i'r farchnad ganolbwyntio ar y gymuned a chael ei llywio ganddi, hoffai'r prosiect sefydlu'r farchnad fel prif fodel bwyd a chynnyrch lleol, a fyddai'n denu diddordeb ac ymwelwyr i ardal Gŵyr. Yn wreiddiol, y syniad oedd y byddai’r farchnad ar agor bob mis ac yn cael ei threialu yn ystod yr haf (yn ystod gwyliau'r haf a'r tu allan iddynt) â'r bwriad o agor rhwng y gwanwyn a'r hydref. Gyda’i ffocws ar fwyd o darddiad lleol ac addysg, gallai’r farchnad ddod yn fenter bwysig ar gyfer yr ardal a byddai'n denu diddordeb pobl ar draws y wlad.

Denodd y prosiect ddigon o sylw i ddechrau ystyried prosiect mwy a mwy parhaol, sef 'neuadd fwyd' yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr, ac mae hwn ar y cam trafod ar hyn o bryd.
https://www.facebook.com/marketatthemillwales/

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Clare James
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol: